|
Y Dewraf o'n Hawduron Cwmni amatur yn plesio'r bobl
Sylwadau Glyn Evans ar gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron gan Harri Parri. Theatr Seilo, Caernarfon. Mawrth 27-31, 2007.
Cafwyd cynulleidfa y byddai Cefin Roberts a'i Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn fwy na balch ohoni yn Theatr Seilo Caernarfon nos Fawrth, Mawrth 27, 2007.
Ac fe fyddai mewn perlewyg gyda sgwrs y bobl ar eu ffordd allan wedi cwta ddwyawr yn olrhain bywyd a gwaith T Rowland Hughes.
Er mai cynhyrchiad amatur oedd hwn yr oedd pobl wedi teithio yno o bellafoedd gyda bysus o Rosmeirch, Tudweiliog, Pencaenewydd, a Llanddoged er enghraifft.
A go brin i neb droi am adref o'r Theatr Seilo lawn yn siomedig gyda chynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n hawduron - T Rowland Hughes, y Dyn a'i Waith gan Harri Parri, stor茂wr byrion o fri a chyn weinidog y capel y mae'r theatr yn rhan ohono.
Awdur allweddol Er mewn peryg o fod yn enwog ar sail y pedwar gair, "Cadw dy blydi chips" yn unig yr oedd T Rowland Hughes yn awdur allweddol yn hanes y nofel Gymraeg - ef, yn wir, oedd y ddolen nesaf at Ddaniel Owen yn y gadwyn honno y daeth Islwyn Ffowc Elis yn rhan ohoni rai blynyddoedd wedyn.
Yr hyn sy'n rhyfeddol yw iddo gyflawni hyn yn y pedair blynedd rhwng 1943 a 1947 pryd y cyhoeddwyd ei bum nofel gan gychwyn gydag O Law i Law am yr hen lanc canol oed, John Davies, yn gwerthu eiddo'r cartref yn dilyn marwolaeth ei fam.
Er nad yn nofel yng ngwir ystyr y gair enillodd galon y Gymru Gymraeg yn syth ac fe'i dilynwyd gan William Jones, Yr Ogof, Chwalfa - ei nofel fwyaf - ac Y Cychwyn.
Ond daeth ei yrfa i ben gyda'i farwolaeth yn ddim ond 46 oed yn 1949 wedi ei lethu gan MS, yn gaeth i gadair olwyn ac yn dueddol o ysbeidiau o ddigalondid ac iselder mawr.
Mewn pruddglwyf A dyna lle mae 'drama' Harri Parri yn cychwyn - yng Nger-y-llyn, cartref T Rowland Hughes a'i briod, Irene, yn y Rhath yng Nghaerdydd ddechrau'r pedwardegau.
T Rowland Hughes mewn pruddglwyf yn cael ei berswadio gan Irene i ddechrau sgrifennu nofelau.
"Rhaid ichi ysgwyd eich hun o'r digalondid yma," meddai hi a dyma ni yn syth i olygfa enwog gwerthu'r mangl yng nghartref yr hen lanc John Davies sy'n clirio'r cartref wedi marwolaeth ei fam yn O Law i Law.
A buan iawn y sylweddolwn, er mai cyflwyniad - fyddai hi ddim yn hollol deg ei alw yn ddrama - am ddyn wedi ei lethu gan iselder yw hwn nid yw'n gyflwyniad i lethu cynulleidfa.
Y llon a'r lleddf Mae'n brothio o hiwmor gyda golygfeydd a llinellau cofiadwy wrth ddilyn gyrfa T Rowland Hughes yn fachgen yn Llanberis (Owen Alun Puw Williams), yn y coleg ym Mangor, yn brifardd cenedlaethol ac yn gynhyrchydd gyda'r 大象传媒 yng Nghaerdydd (Dafydd Hughes) cyn dod oherwydd ei waeledd yn ffigwr allweddol yn hanes llenyddiaeth Gymraeg (Gwyn Lewis).
"Dyma un a droes ei salwch yn hamdden," meddir gan ddyfynnu Wil Ifan a ddywedodd hefyd;
"Bu ei salwch yn gyfle iddo . . . ddehongli'r bywyd y bu'n gynefin ag ef."
Cadw'r chips Wrth gwrs, ni fyddai fiw ichi hyd yn oed s么n am T Rowland Hughes heb gyfeirio at y dyfyniad llenyddol Cymraeg gyda'r enwocaf - a mwyaf beiddgar am flynyddoedd lawer - "Cadw dy blydi chips".
Ac yn wir yr oedd yr olygfa o William Jones ymhlith y 27 o olygfeydd a chwaraewyd gan y cast o gryn bymtheg ar hugain o chwaraewyr y Gronyn Gwenith.
Hwn oedd y cynhyrchiad i ddathlu deng mlynedd ar hugain Cymdeithas y Gronyn Gwenith - cymdeithas a sefydlwyd pan agorwyd Theatr Seilo gyntaf yn 1977 ac a fu'n llwyfannu cynyrchiadau bob blwyddyn ers hynny gan ennill cryn boblogrwydd yn lleol.
Camp nid bychan yn y Gymru sydd ohoni.
Yn gyn weinidog ar y capel y mae'r theatr yn rhan ohono cyfrannodd Harri Parri at fwy nag un o'r cynyrchiadau hynny.
Golygfeydd byrion Plethiad difyr o olygfeydd byrion allan o nofelau T Rowland Hughes ac o wahanol benodau yn ei fywyd yw Y Dewraf o'n Hawduron - gyda llaw, onid "y dewra' o'n hawduron" ydoedd yn englyn R Williams Parry, tasa hynny o bwys?
Ac fel nofelau'r gwrthrych llithra'r golygfeydd yn rhwydd o'r llon i'r lleddf o'r dwys i'r doniol a hynny'n amlwg yn plesio'r gynulleidfa i'r dim.
Go brin bod golygfa wan o gwbl ymhlith y 27 ond nid yw ond yn naturiol fod ambell un yn glynu'n dynnach na'i gilydd wrth y cof - yn arbennig: Dosbarth dysgu adrodd Ioan Llwyd; Yr impresario pictiwrs; Professor Archer yn y coleg; Adrodd Ora Pro Nobis er enghraifft.
Mae'r sgript yn asiad hyfryd a graenus o arddull T Rowland Hughes a Harri Parreiaid lliwgar. Idiomau lliwgar mewn Cymraeg gafaelgar.
Meddai Mam TRH wrth ei g诺r yn dilyn ymweliad athro coleg a'u cartref: "Glywsoch chi ei Saesneg o?" ac yntau'n ateb, "Ond Sais oedd o." "Wn i ddim lle magwyd rhai pobl - os nad o dan ddail riwbob." Ac meddai Irene, wrth i'w g诺r geisio ymddangos yn siriol gerbron ymwelydd; "Hyfforddi actorion oedd gwaith Tom - ac yn awr ef yw'r actor."
Y llwyfan Ar gyfer y cyflwyniad rhannwyd cefndir y llwyfan yn bedwar hwylus gyda lluniau i gyfleu, 'Ger-y-llyn' yng Nghaerdydd, stiwdio radio, Llanberis, cartref rheini TRH, y chwarel a siop gyda lle yn weddill ym mlaen y llwyfan ar gyfer ambell i olygfa arall fel yr ysgol.
Cerddoriaeth hiraethus Mae defnydd effeithiol o gerddoriaeth hiraethus y cyfnod rhwng y golygfeydd ac yn ei phlith fersiwn o Tydi a roddaist liw i'r wawr
Wrth gwrs, byddai'n annheg peidio 芒 chydnabod mai cynhyrchiad amatur gyda gwerthoedd cynhyrchiad amatur yw hwn ond o fewn y cyd-destun hwnnw yr oedd yn un a roddodd gryn fwynhad a boddhad i gynulleidfa - ac mae hynny'n rhywbeth na ellir ei ddweud am sawl cynhyrchiad proffesiynol clyfrach yng Nghymru y dyddiau hyn.
Bydd perfformiad o Y Dewraf o'n Hawduron bob nos tan nos Sadwrn.
Go brin mai lle adolygydd yw awgrymu na fyddai'n wastraff amser i aelodau o'n theatr broffesiynol bicio draw i Theatr Seilo er mwyn gweld beth sy'n tynnu pobl a'u hanfon adref yn fodlon y dyddiau hyn - ond fe allai fod yn fuddiol iddynt.
A chymryd bod yna sedd wag ar 么l erbyn hyn.
Cliciwch YMA i weld lluniau a dynnwyd gan y Parchedig gwenda Richards, gweinidog Seilo, o'r cynhyrchiad.
Cysylltiadau Perthnasol
Lluniau o'r cynhyrchiad
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|