|
Y Pair - Adolygiad Cwpwrdd derw trwm, mawr, brown, o ddrama.
Adolygiad Iwan Edgar o Y Pair - cyfieithiad Gareth Miles o The Crucible gan Arthur Miller. Theatr Genedlaethol Cymru. Perfformiad 7 Chwefror 2008. Theatr Gwynedd Bangor.
Cwpwrdd derw trwm, mawr, brown, o ddrama.
Un mawr, nobl, solet.
Nid un tridarn ond un pedwar rhan cadarn.
Drama gyfnod yw hon - dau gyfnod mewn ffordd: y cyfnod gwreiddiol yn Massetchuses - a dyna air clyfar i'w sillafu - yr ail ganrif bymtheg, a'r cyfnod trosiadol; Unol Daleithiau'r 1950au, cyfnod y gwrach-erlid go iawn.
Cyfnod erlid y 'gwrachod' Comiwnyddol gan y seneddwr McCarthy adeg y Rhyfel Oer.
Oedd, yr oedd yna awyrgylch Ac wele ruo a bloeddio hyd y llwyfan yn Theatr Gwynedd, fflamau a m诺g mawr y Fall yn cyhwfan fel petai'r cythreuliaid wedi trechu'r holl swyddogion iechyd a diogelwch priodol a bod smocio'n orfodol!
Merched bach mewn capiau gwynion yn powndio a sgrechian hyd lle ac yng ngwisg y duwiol y llecha'r diafol fu hi wedyn. Oedd, yr oedd yna awyrgylch.
Tipyn o daith Her o ddrama, hefo cymaint o actorion ag ambell i ddrama Dolig capel - digon o hyd i mi fod wedi cael amser i fflio - nid fel un wedi ei feddiannu gan gythraul - ond mewn eropl锚n hanner ffordd i 'Salem Massetchuses' i longyfarch Hilary am guro Obama yn dalaith benodol honno.
A phan ddaeth yr egwyl, clywais i un cyfaill ddechrau ei hwylio hi am adref gan feddwl ei bod wedi gorffen.
Doeddwn innau ddim yn hollol si诺r chwaith, am funud, ynteu i godi i fynd am y car ynteu i gael ais crim a pheint a gwneud pi-pi yr oedd y gynulleidfa.
Ystrydeb o sylw yw dweud y byddai cwtogi ychydig wedi bod yn gymwynas , ond dyna'i ddweud - mi wn nad oes fawr ots am draul ar gadeiriau Theatr Gwynedd bellach a hwnnw i'w ddymchwel yn fuan.
Ond na fyddaf ysgafnfryd.
Yr oedd yma bwnc o bwys yn cael ei drafod - yr hysteria hwnnw sy'n rhan o reddf yr haid ynom i gyd, ac fel bo cedyrn cymdeithas - neu'n hytrach y rhai mewn awdurdod - yn ysglyfaeth i ymdrybaeddu cymaint 芒 neb i'w wasanaethu.
Y cedyrn yw'r rhai sy'n gwrthsefyll.
Heddiw, yn wir, does neb yn fwy cyfiawn nac oes, na rhai o'r rheiny sy'n amddiffyn plant bach rhag camddefnydd rhywiol - ac weithiau ambell dro maent yn methu onid ydynt ? Hynny ddaeth i'm meddwl fel y gymhareb gyfoes agosaf.
Cyfleu enbydrwydd
Ond ni fu i'r ddrama fethu yn y nod o gyfleu enbydrwydd hynny gyda'r trymder beichus yn y set yn cyfleu y peth.
Ond mi fyddai wedi bod yn goblyn o gymwynas pe byddai lefelau uwch ynddi ac, am wn i, hefo cymaint o gast, gallai hynny fod yn help i amrywio'r golygfeydd rhag bod yn fflat ac actorion mewn rhesi gormodol.
O ran yr actio, bu ymddangosiad Dyfan Roberts ar gychwyn yr ail ran gryn hwb i fywiogrwydd y cwbl. Efallai'n wir mai chwarae cymeriad diddorol canolog a wn芒i fel y Barnwr Danforth - boed hynny'n wir - ond roedd ei bersonoli'n rhoi sbarc i'r peth.
Ysywaeth, mae'n deg dweud fod ambell i un o'r cymeriadau llai yn brennaidd braidd. Gwn nad oedd ganddynt rannau mawr i ddisgleirio ond mi roedd rhywun yn ddiolchgar nad oedd ganddynt.
Baich anodd Owen Arwyn fel John Proctor oedd yr agosaf at brif gymeriad. Baich anodd i'w gario ac o'm chwaeth i byddai wedi medru bod yn llai cyson angerddol, fel bo'r ysgafnder yn gwrthgyferbynnu'n well 芒'r dwyster.
Hefyd ar gyfer yr un gwrthgyferbynnu, ond rhwng dau gymeriad, a ellid fod wedi gofyn i'r Jonathan Nefydd fel y Parchedig Samuel Parris actio fel dyn gwirionach a basach (ffordd bynnag y gwneid hynny).
Wnes i ddim deall yn hollol ei fod i fod yn gymeriad mor wirioneddol wan tan yn nes ymlaen a bod tyndra rhyngddo 芒 John Proctor.
Efallai nad oedd pawb yn clywed y peth ond mi aeth fymryn ar fy nerfau i, eiriau a ieithwedd y De mewn acen ogleddol.
Oedd y peth yn rhyw botj braidd. Pan oedd yr ieithwedd yn ffurfiol doedd ddim trafferth - ond pan oedd, "Nage Satan yw e" mewn acen ogleddol a "paid 芒 llefen" yn cael ei ddweud yn Wyneddaidd roedd yn rhywbeth na allwn lawn ddygymod ag o.
Y gynulleidfa Prun bynnag manion yw hynny.
Yr oedd y lle yn llawn ar y noson gyntaf fyglyd honno ym Mangor ac fe lwyddwyd i argyhoeddi'r gynulleidfa - rhai yn fwy na'i gilydd fel y byddai i'w ddisgwyl.
Cododd nifer ar eu traed ar y diwedd. Cymeradwyodd eraill ar eu heistedd. Meddyliodd eraill beth i'w wneud am ychydig ac, fel defaid drwy'r adwy, yn penderfynu codi.
Diddorol - hynny - a'i beryglon - oedd un o'r pethau, mewn ffordd, yr oedd y ddrama ei hun yn ei drafod.
Cliciwch YMA i ddarllen a chlywed sylwadau catrin Beard ac Iwan Edgar
Cliciwch YMA i ddychwelyd i brif ddalen Y Pair ac am fanylion y daith o gwmpas Cymru.
Cysylltiadau Perthnasol
Rhagor am Y Pair a manylion am y daith
|
|
|