大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

大象传媒 Homepage
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Crochan
Trwm ond addysgiadol!
Adolygiad Siwan Haf o gyflwyniad Ysgol Theatr Cerdd a'r Cyfryngau Coleg y Drindod o Y Crochan gan Arthur Miller

Yn gynharach eleni bu farw Arthur Miller - un o'r ffigurau amlycaf a mwyaf dylanwadol yn hanes y theatr Americanaidd.

Dyma, felly, gyfle i weld addasiad o un o'i weithiau "mwyaf grymus a phoblogaidd", yn 么l taflen hyrwyddo Coleg y Drindod.

Ar y cyfan, fe wnes i fwynhau y perfformiad dwy awr o hyd yma - rhy hir i rai yn y gynulleidfa, yn 么l y clapio gafwyd cyn i'r golau fynd fyny eto ar gyfer y bedwaredd act! - a berfformiwyd yn Theatr y Chapter, Caerdydd i gynulledifa o tua chant (eu rhan fwyaf yn ddisgyblion ysgol).

Beth i'w ddisgwyl
Rhaid cyfaddef cyn cychwyn nad oeddwn i, mawr cywilydd imi, yn gyfarwydd a gwaith Arthur Miller, ac felly ddim yn rhy si诺r beth i'w ddisgwyl.

Roedd addasiad John Gwilym Jones o'r sgript yn dilyn arddull ieithwedd y cyfnod, er y llafareiddiwyd ambell i frawddeg yma ac acw, oedd, yn fy marn i, am y gorau.

Mae'n troi'n ddrama drom pan fo rhaid ichi ganolbwyntio i ddeall yr ieithwedd.

Hysteria gwleidyddol
Fe ysgrifennodd Miller Y Crochan (The Crucible) yn 1953 yn ymateb i hinsawdd o gynnwrf a hysteria gwlediyddol yn yr UDA yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn benodol, oherwydd ymgyrch danbaid y Seneddwr Joe McCarthy a'r House of Un-American Activities.

Arthur Miller Roedd Miller ei hun yn un o'r enwau adnabyddus a enwyd yn ystod y cyfnod o ddwyn tystiolaeth yn erbyn cyfeillion a chydweithwyr.

O wybod y cefndir y cyfnod yr ysgrifennwyd y ddrama, a chefndir y ddrama o safbwynt pryd y seiliwyd hi yn 1692 , roedd pwrpas ac ystyr y ddrama yn llawer cliriach - a diolch, felly, am raglen oedd yn egluro hyn oll!

Golau coch
Roedd y set seml a'r llwyfan pren crwn yn effeithiol iawn, yn arbennig felly ar ddiwedd actau pan gafwyd golau coch yn treiddio trwy'r holltau yn cyfleu naws uffern - a faint o weithiau y clywyd y gair hwnnw yn y ddrama hon?

Ar y cyd a 'diafol', 'Satan' a 'hedeg' - gair na wyddwn am ei fodolaeth cyn gweld y ddrama hon!
Addsygiadol!

Roedd yr actio yn gryf gan bob un o'r myfyrwyr, a chawsom ein hatgoffa, dim ond ambell waith er hynny, mai dyma oedd yr actorion hyn.

Rhaid cofio mai rhai o brif nodweddion actio da yw llefaru a geirio clir yn ogystal 芒 chofio geiriau, a tharfwyd ychydig ar rai llinellau gan y blaenorol.

Doedd sgript hirwyntog, ac ambell biffian chwerthin gan ambell ddisgybl ysgol yn y gynulleidfa o ddim help i'r actor dan sylw chwaith.
Dalier ati gan fod y castio yn berffaith i'r rhan.

Gan ferched
Bu'n rhaid i bum cymeriad gael eu chwarae gan ferched oherwydd prinder bechgyn ar y cwrs penodol yma am wn i, a biti am y dyb hon.

Wedi dweud hynny, roedd eu perfformiad yn ganmoladwy iawn, yn arbennig felly Haf Morgan fel Y Barnwr Hathorne.

Dwi'n si诺r y gwelwn y rhan fwyaf o'r cast hwn (gan gynnwys Trystan Roberts, sydd bellach yn enw cyfarwydd i wylwyr S4C drwy'r gyfres boblogaidd Porc Peis) eto ar lwyfanau ein theatrau, neu ein sgriniau, yn y dyfodol.

Edrychaf ymlaen at eu gweld yn datblygu felly.

"Heavy going ond addysgiadol," oedd disgrifiad fy mhartner o'r noson a dwi'n si诺r i'r actorion deimlo yr un fath - yn ogystal a bod yn brofiad gwych iddynt o ran perfformio ar lwyfan a dysgu llinellau!



cyfannwch

Gareth Bow Street
Yn sicr y dylai Ms. Haf deimlo cywilydd am beidio bod yn gyfarwydd 芒 gwaith Arthur Miller, yn enwedig gan ei bod yn cael ei hanfon i adolygu drama o'i eiddo! Mewn gwirionedd mae'r cyfaddefiad yma'n tanlinellu sefyllfa druenus adolygu yn y Gymraeg. Allwch chi ddychmygu adolygydd Saesneg yn cyfaddef y fath beth am un o awduron mawr y byd? Awgrymaf y dylai Ms. Haf fynd ati nawr i ddarllen 'Death of a Salesman'; 'A View from the Bridge' ac 'All My Sons'. Mae hi'n sicr o fwynhau.

Catrin o Gaerdydd
Mae'n rhaid i mi ddweud i mi gael fy mhlesio'n aruthrol gan dalent pur myfyrwyr Coleg y Drindod, yn enwedig Johnac Elisabeth Proctor, castio perffaith. Wedi astudio'r ddrama fy hun ar gyfer fy ngradd, roeddwn i'n gwybod y dylwn ddisgwyl tair awr drom, ond roedd pob eiliad yn werth chweil gyda'r actorion yn llwyddo i gadw fy sylw ac i ddeffro'n ddychymyg. Hoffwn longyfarch yr actorion, ac yn wir y cyfarwyddwr ar lwyddiant trawiadol y perfformiad, a does dim amheuaeth gen i y byddwn ni'n gweld y mwyafrif ohonynt mewn dramau yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen i'w gweld nhw eto!



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar D芒n
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Caf茅 Cariad
Caf茅 Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
M么r Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mind诺r
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Tr锚n Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Si么n Cati
T欧 ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffr芒m
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
G诺yl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar D芒n
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glynd诺r yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno 芒 na n'脫g
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar 么l yr Alban'
T欧 ar y Tywod
T欧 ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir G芒r - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy