Dim Mwg gan Glenys Llewelyn gyda Glyn Pritchard, Delyth Eirwyn a Si么n Pritchard. Cyfarwyddo: Tonya Smith.
Adolygiad: Elliw Iwan
Wedi mwynhau'r ddrama gyntaf eoeddwn mewn hwyliau da ar gyfer yr ail - ond buan iawn y diflannodd fy ngw锚n.
Gwelwn 'stafell fyw ddi-lewyrch a dyn blin yn eistedd ynddi'n gwylio p锚l-droed ac yn lluchio cnau i'w geg bob yn ail ag yfed cwrw. Mae'n gweiddi ar ei wraig i n么l mwy o gwrw.
Cawn berfformiad gwych gan Delyth Eirwyn yn ymdrechu i dynnu sylw ei g诺r oddi wrth y bocs drwy wisgo cardigan fach ddel a'r persawr a brynodd o iddi ar eu mis m锚l flynyddoedd yn 么l ond ei ymateb o yw: "Pam ti'n ogla felna, lle ti'n mynd?"
Rydyn ni'n teimlo trueni dros Gwen am orfod dioddef cwmni blin ei g诺r annifyr, ac yn ei gas谩u o am ladd arni o hyd. Ond diddorol hefyd oedd y ffordd y newidiai fy nheimladau ar brydiau nes teimlo trueni dros Mel a'i iselder a digio gyda Gwen am fod yn gymaint o gadach llestri.
Yr hiwmor du sy'n plethu drwy'r ddrama sy'n ein hatal rhag neidio ar y llwyfan a rhoi sg诺d iawn i Mel a Gwen yn eu tro! Rydyn ni'n erfyn arni i wneud rhywbeth ac o'r diwedd mae fy ngweddi'n cael ei hateb.
Roedd rhannau o'r ddrama'n teimlo fel pe bai'n troi yn ei hunfan ond deuai'n 么l bob tro'n gryfach, rhyfeddach a Hitchcockaidd iawn.
Edrychaf ymlaen at weld mwy o waith yr awduron yma.