|
Dominios - adolygiad Dilyniant o olygfeydd
Adolygiad Glyn Evans o Dominos gan Branwen Davies, Angharad Llwyd, Mared Swain a Manon Wyn. Theatr Genedlaethol Cymru. Perfformiad cyntaf, Clwyd Theatr Cymru. Ionawr 26, 2006.
Yng Nghymru mae rhywun yn gyfarwydd iawn a'r cnul arbennig a berthyn i ymadroddion fel "gan yr ifanc" ac "yn arbennig ar gyfer yr ifanc" mewn perthynas 芒 rhaglenni teledu neu gynyrchiadau llwyfan. Fe'i synhwyrais yn sgil cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, Dominos.
Iaith gref a rhyw Wrth imi drefnu adolygiad awgrymwyd imi y byddai'n ddoeth cael adolygydd "ifanc" ac, yn wir, yr oedd yna ar wefan y cwmni rybuddion am "iaith gref" a "golygfeydd o natur rhywiol" y mae rhywun yn gwybod yn iawn na all neb dros rhyw oed ddygymod 芒 hwy.
Ystyr "iaith gref", wrth gwrs, ydi rhegi. Nid yw yr un peth o gwbl a "iaith rymus" y byddai rhywun yn ei chroesawu mewn drama.
Mae yna gryn ddefnydd o "iaith gref" neu iaith fudr yn y Gymraeg - dim cymaint o iaith rymus neu iaith fydr, hyd yn oed. Gwaetha'r modd.
Rhown hynny o'r neilltu am funud; yn ogystal 芒 rhegi - digon cymhedrol o'r dyddiau hyn - cawsom dameidiau o ddeialog digon gafaelgar a blasus yn ystod y dilyniant o olygfeydd yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Dominos.
Digon anarferol Mae Dominos yn greadigaeth digon anarferol.
Fe'i sgrifennwyd gan bedair o ferched ifainc cymharol ddibrofiad a gafodd gyfle i ddod at ei gilydd i ymarfer eu doniau.
Pedair gwaith cymaint o dalent ag arfer ar gyfer un cynhyrchiad, fel yr awgrymodd un ohonyn nhw, heb arlliw o unrhyw hen ffug swildod gwirion, wrth s么n am y fenter ar Wythnos Gwilym Owen ar 大象传媒 Radio Cymru.
Gan gofio i gamel gael ei ddisgrifio fel ceffyl wedi ei gynllunio gan bwyllgor edrychwn ymlaen at weld sut anifail theatraidd a fyddai'r pwyllgor-pedair yma wedi esgor arno ac er mwyn cytbwysedd barn fe es a "rhywun ifanc" gyda mi i Clwyd Theatr Cymru.
Ond gorgyffwrdd 芒'r un blynyddoedd blin a minnau yr oedd llawer o'r gynulleidfa o bron i gant - er bod yno sawl briallen hefyd yn ein plith.
Yn eironig ddigon, yn fy achos i, apeliodd y cynhyrchiad fwy ataf i na'r friallen a oedd yn dal i chwilio am "bwynt" i'r peth ar y ffordd adref yn y car.
Ar yr egwyl yr oedd eisoes yn holi "I ble mae hwn yn mynd?" ac fe'i siomwyd hi a minnau mai yn yr elfennau unigol yr oedd y nerth a champ y cynhyrchiad yn hytrach nag yn ei gyflawnder.
"Pe byddai ar deledu dydw i ddim yn meddwl y byddwn wedi dal i wylio - neu pe byddwn, fe fyddwn wedi teimlo'n siomedig wedyn," meddai.
Mewn dinas Dilyniant o sefyllfaoedd neu olygfeydd mewn dinas (Caerdydd) a gafwyd - yn ymwneud 芒 saith o bobl ifanc - Si么n, Ann, Nigel, Ceinwen, Robat, Frances a Mati - y mae eu llwybrau yn croesi ac effaith hynny arnyn nhw.
Y ddelwedd yw un o res o ddominos gyda'r cyntaf yn syrthio yn yr erbyn yr ail, yr ail yn erbyn y trydydd ac yn y blaen.
Mae rhywun yn amharod i fanylu mewn adolygiad am y cymeriadau na'u ffawd ond maen nhw'n dra gwahanol i'w gilydd ar un wedd ond oll yn cael eu hysu gan eu diafoliaid mewnol.
Gosodwyd y llwyfan yn y canol gyda rhesi o seddau i'r gynulleidfa y naill ochr a'r llall yn wynebu ei gilydd. Weithiau, golygai hyn mai cefnau actorion oddech chi'n eu gweld.
Perfformiadau campus Cafwyd ambell i berfformiad campus gyda Rhian Blythe fel Ann, y 'Miss Bropor' o'r Gymru wledig, ac Angharad Lee fel Ceinwen o'r Cymoedd yn ganmoladwy iawn. Yn wir, doedd neb yn wael a goleuid yn syth bob golygfa yr ymunai Lee 芒 hi ac y mae rhywun yn edmygu Blythe am fod mor ddeheuig gyda chymeriad mor ofnadwy o ystrydebol - sbectol, gwallt wedi'i dynnu'n 么l yn dynn, siwt, sgert hir - a'n hargyhoeddi ei bod yn gredadwy iddi fod yn y picil yr oedd ynddo mewn dinas.
Yr oedd rhyw elfen sinistr i Dave Taylor fel Robat.
Daeth y cyfan i derfyn mewn golygfa ar orsaf y ddinas. Cyn cyrraedd y fan honno cafwyd sawl moment ddigon dramatig gan gynnwys y golygfeydd o natur rywiol.
Dod at ei gilydd O wylio'r cynhyrchiad gall rywun ddychmygu sut y crewyd yr elfennau ond un o ganlyniadau'r dull cydweithredol hwn o weithio, hyd y gallaf i weld, yw bod gennych chi ambell i olygfa wirioneddol afaelgar - mae'n werth nodi y pryd bwyd rhwng Robat (Dave Taylor) ac Ann (Rhian Blythe) a'r olygfa Angel rhwng Ceinwen (Angharad Lee) a Nigel (Trystan Wyn).
Bu sawl llinell glyfar hefyd fel Nigel (Trystan Wyn) yn cynnig llwnc o Liwcos锚d i Ceinwen a hithau'n ymateb gyda'r cwestiwn, "Ti'n s芒l?" gan gysylltu'r ddiod hon ond 芒 salwch.
Ysbeidiau heulog Ond er gwaethaf ysbeidiau heulog o'r fath yr hyn na lwyddwyd i'w wneud fu cyfuno ac asio'r rhain yn y fath fodd ag i greu drama a rhoi, yng ngeiriau'r friallen, bwynt i'r cyfan.
Megis mewn ymarferiad sgrifennu creadigol roedd yr elfennau yn llwyddiannus ond gwelwyd eisiau llaw sicr i'w huno'n gyfanwaith gyda rhywbeth newydd i'w ddweud mewn ffordd newydd a mentrus.
Tybiaf mai dim ond drama o un pen allai gyflawni hynny. Gweledigaeth, awch a dehongliad unigolyn. Mae mwy i ddrama na chyfanswn ei rhannau.
Hefyd, o ystyried yr holl ymyrraeth ifanc, yr oedd yn rhywfaint o syndod ac o siom pa mor 'geidwadol' ac ystrydebol oedd llawer o'r elfennau.
Ble'r beiddgarwch ifanc? Ble'r herfeiddiwch? Ble'r weledigaeth ifanc, wahanol? Ble'r byrbwylledd llencynaidd? Ble'r fenter?
Na, tra bo Dominosyn gamel digon del dydi o ddim yn geffyl lluniaidd sy'n mynd i ennill unrhyw Grand National.
Ac am unwaith yr oedd cytundeb barn rhwng hen ac ifanc yn ein teulu ni. Doedd Dominos ddim yn dda ond doedd o ddim yn s芒l ychwaith ym marn y friallen a'r hen ddant y llew.
Holi eto A chyn gorffen, mae'n deg holi unwaith eto ai dyma'r math o weithgarwch theatraidd y dylai ein theatr genedlaethol fod yn ei ysgwyddo ac yn llafurio arno.
Onid tiriogaeth rhywun arall yw hwn o arbrofi a meithrin a rhoi cyfle cyntaf i dalentau ifanc?
Wedi'r cyfan nid oedd Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig dim gyda Dominos na fyddai unrhyw un o'n m芒n gwmn茂au eraill ei gynnig.
Mae hyn, wrth gwrs, yn ymwneud a holl hanfod y cwmni ac yn destun trafodaeth llawer eangach na phwt fel hwn o adolygiad.
Ond y mae disgwyliadau cynulleidfa yn wahanol yng nghyd-destun ein cwmni cenedlaethol. Onid dyma'r pinacl? Y llwyfan lle gwelir ein perfformwyr a'n dramau gorau? Nid lle chwarae i brentisiaid.
Y rhaglen A chyn gorffen gair am y rhaglen. Un hardd gyda 12 o'i 30 o ddalennau yn ddim ond gwahanol wynebau teils dominos.
Er bod gwybodaeth am yr awduron, yr actorion 芒'r cwmni does dim am y ddrama ei hun.
Ond y mae rhywun yn cwyno fwyaf am y gwastraff gofod gan nadyw hwn math o ddylunio ag i apelio at bobl ifainc sydd gymaint eu gofal o adnoddau naturiol a'r amgylchedd.
Cysylltiadau Perthnasol
Mwy am Dominos ac amserlen y daith
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|