大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

大象传媒 Homepage
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Greta Vaughan (Fflur Medi Owen) a Karl Weissman (Owen Arwyn)Cysgod y Cryman
Cysgod y gwreiddiol yn rhy gryf?
  • Adolygiad Eifion Lloyd Jones o Cysgod y Cryman - addasiad llwyfan Sion Eirian o nofel Islwyn Ffowc Elis. Cynhyrchiad Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru. Theatr Gwynedd, Bangor, Chwefror 2, 2007.

    Roedd hi'n naturiol fod Sion Eirian yn pryderu sut ymateb fyddai i'w addasiad o nofel y ganrif.

    Hwyrach y gallai sgrin fawr y sinema geisio gwneud cyfiawnder 芒 chynfas eang y nofel, ond prin fod y sgrin fach wedi gwneud hynny gyda'r telediad o Lleifior.
    Felly, pa obaith oedd gan un lleoliad neu un llwyfan?

    Pethau wedi newid
    Gan fod dros hanner canrif ers i Islwyn Ffowc Elis gyflwyno'i glasur, mae'n anorfod fod y them芒u wedi'u dyddio a'u harwyddoc芒d wedi lleihau ers cyfnod y Rhyfel Oer ym Mhumdegau'r ganrif ddiwethaf.

    Mae Mur Berlin a'r Llen Haearn wedi dymchwel, a chomiwnyddiaeth yn atgof yn hytrach na'r bygythiad a fu i lawer, bryd hynny.

    Harri Vaughan - Carwyn Jones Sut, felly, oedd cynnal prif hanfod unrhyw ddrama, sef gwrthdaro?

    A lwyddwyd i gyfleu tensiwn y berthynas rhwng gwahanol gymeriadau?

    A gafodd y gynulleidfa ei hargyhoeddi a'i bodloni?

    Cymysglyd oedd yr ymateb yr oeddwn i'n ei glywed a'i synhwyro i'r cwestiynau hyn.

    Cyfres o olygfeydd
    Er mwyn cyfleu rhychwant eang digwyddiadau'r nofel mewn gwahanol leoliadau a chyfnodau, roedd hi'n anorfod fod angen cyfres o olygfeydd byrion i gario'r naratif.

    Canlyniad hyn oedd creu argraff bytiog oedd ddim yn cynnig cyfle i ddatblygu gwrthdaro na thensiwn digonol i gael gafael ar drwch y gynulleidfa.

    Roeddwn i'n amheus o werth yr ychydig areithiau uniongyrchol a oedd hefyd yn arafu'r digwydd.

    A thybed a fu'n rhaid defnyddio gormod o eiriau ambell dro i drosglwyddo'r holl syniadau sy'n llifo'n naturiol rhwng cloriau nofel?

    Talpiau helaeth o Saesneg
    Mae'n ymddangos fod yn rhaid cael talpiau helaeth o Saesneg ym mhob cynhyrchiad o bob cyfnod ar lwyfan a theledu erbyn hyn, ac er bod elfen o hynny yn y nofel wreiddiol, roedd y canran ohono'n fwy mewn dwyawr o gynhyrchiad.

    Meri-go-rownd?
    Anhawster arall wrth gyfleu cynifer o leoliadau mewn cyfnodau byr oedd yr angen i newid safle mor aml.

    Roedd y set ei hun yn fawr, urddasol ac effeithiol, ond roedd y canol yn troi mor aml nes atgoffa rhywun o feri-go-rownd yn y ffair.

    Er hynny, roedd y newid tua'r diwedd o'r ymgyrch wleidyddol i gyhoeddi'r canlyniad yn esmwyth iawn.

    Braidd yn wan oedd y goleuo ar adegau ac er y gellid derbyn fod hynny'n ymdrech i greu effaith, roedd y newid golau yn araf unwaith neu ddwy.

    Elfen effeithiol oedd y lluniau ar y gefnlen i gyfleu'r lleoliadau, er y bu un cam gwag gyda hynny, hefyd.

    Cerddoriaeth gynnil
    Un o gryfderau'r cynhyrchiad oedd cynildeb cerddoriaeth Gareth Glyn a chanu cynghanedd lleisiol yr actorion o anthemau Cymru a'r Faner Goch cyn yr egwyl, ac o Garol y Blwch ar 么l hynny.

    Ond dwy olygfa fer oedd yn tueddu i lusgo oedd un "Bless this House" tua'r dechrau, a'r cyfuniad o ddawnsio a gosod posteri tua'r canol.

    Acenion
    Yn gyffredinol, llwyddwyd i gynnal acenion Powys yn ddigon deche ond roedd hi'n chwith clywed "dwy deulu" a "machludo" mewn addasiad o waith Islwyn Ffowc Elis - ond eithriadau oedd rhain mewn llefaru safonol ac eglur.

    Perfformiadau
    Roedd ansawdd y perfformiadau'n bur gyson drwyddi draw, heb gyfle i neb greu argraff fawr, er y byddwn i'n tueddu i ganmol yr actorion h欧n am eu presenoldeb cadarn:
    Llion Williams Dyfan Roberts ac Owen Garmon fel y ddau hen batriarch, Christine Pritchard am or-actio effeithiol o'r ddwy wraig, a Llion Williams am gameo gwyrgam o'r gwas annifyr.

    Rhagoriaeth perfformiadau'r actorion ifanc oedd golygfeydd tyner y gwahanol gariadon, er na lwyddodd Carwyn Jones i gyfleu cadernid na charisma Harri Vaughan ein dychymyg.

    A braidd yn chwithig oedd fod Bethan Wyn Hughes ac Iola Hughes yn gariadon gartref ac yn ddwy hoeden amlyca'r coleg!

    Y genhedlaeth h欧n
    Mae'n debyg mai at y genhedlaeth h欧n y bydd y cynhyrchiad yma'n apelio fwyaf - y rhai ohonon ni sydd 芒 chymaint o feddwl o'r nofel wreiddiol a'r nofelydd i fwynhau hel atgofion efo'r perfformiad.

    Nodwedd o ap锚l yr hen ffasiwn oedd chwerthin amlwg y gynulleidfa am gam-gyfieithu treuliedig gwraig y Trawscoed.

    Ond go brin fod yma theatr o wrthdaro na thensiwn gafaelgar.

    Mae'n debyg, yn wir, fod y nofel wreiddiol ar gynfas rhy eang i un llwyfan dwyawr.

    Cryfder y gwreiddiol ac nid gwendid yr addasiad na'r perfformiad sy'n gyfrifol am hynny.

    Dyddiadau'r daith o amgylch Cymru ac yn Llundain:
  • Theatr Gwynedd, Bangor - Iau, Gwener a Sadwrn (perfformiad y prynhawn a fin nos), Chwefror 1-3, 2007.

  • Theatr y Lyric, Caerfyrddin - Mawrth, Chwefror 6, 2007. Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe - Iau a Gwener, Chwefror 15-16, 2007.

  • Theatr Brycheiniog, Aberhonddu - Mawrth a Mercher, Chwefror 20-21, 2007 Theatr Sherman, Caerdydd - Gwener a Sadwrn, Chwefror 23-24, 2007.

  • Canolfan Gelfyddydau - Mawrth a Mercher, Chwefror 27-28, 2007.

  • Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug - Llun, Mawrth 5, 2007.

  • Theatr Mwldan, Aberteifi - Iau, Gwener, Sadwrn, Mawrth 8-10, 2007.

    Mae'r perfformiadau i gyd, ar wah芒n i'r un y prynhawn yn Theatr Gwynedd yn dechrau am 7.30 o'r gloch.

    Yn Llundain
    Bydd y perfformiad yn Llundain ar Ebrill 5, 2007 yn Theatr Bloomsbury sydd heb fod yn bell o Orsaf Euston.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Colli cyfle - barn Paul Griffiths

  • Sion Eirian yn trafod yr addasu

  • Helynt Theatr Hafren


  • cyfannwch

    Dafydd Andreas, Gwynedd
    Cynhyrchiad gwych, perfformiadau da iawn yn enwedig gan yr actorion ifanc yn y cast. Martin John yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Theatr Gen, llongyfyrchiadau; Carwyn Llyr - da chdi! Dal ati - wedi mwynhau yn fawr.

    Caron Llyr Williams Prifysgol Aberystwyth
    Drama bwerus iawn, gyda perfformiad gwych gan Llion Williams yn portreadu Wil James.

    Nia, Rhostryfan
    Mi wnes i fwynhau'r cynhyrchiad yn fawr iawn. Fodd bynnag, rwy'n cytuno ag Eifion Lloyd Jones ynghylch ambell i beth, fel safon yr iaith mewn ambell i le prin. Ar y cyfan, cefais fy siomi o'r ochr orau; roedd y cast yn wych, y set yn rhagorol, ac mi wnes i a'm cyfoedion ei mwynhau'n fawr iawn. Dwi'n anghytuno mai dim ond i'r genhedlaeth hyn y byddai'r ddrama hon yn apelio - rydan ni yn ein hugeiniau a'n tridegau cynnar. Da iawn pawb wir. Mae'n anodd plesio pawb.



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar D芒n
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Caf茅 Cariad
    Caf茅 Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    M么r Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mind诺r
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Tr锚n Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Si么n Cati
    T欧 ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffr芒m
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    G诺yl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar D芒n
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glynd诺r yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno 芒 na n'脫g
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar 么l yr Alban'
    T欧 ar y Tywod
    T欧 ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir G芒r - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy