Adolygiad Meleri Sion o Pwyll Pia'i gan Huw Garmon - Pantomeim Nadolig Cwmni Mega. Rhagfyr 3, Theatr Y Werin, Aberystwyth.
Gwledd i'r llygaid a'r glust. Dyna'r geiriau ddefnyddiwyd i ddisgrifio'r pantomeim yma a ysgrifennwyd gan Huw Garmon.
Dyma'r cynhwysion ar gyfer sicrhau pantomeim llwyddiannus;
• Cast talentog, llawn egni.
• Digonedd o chwerthin gan y gynulleidfa.
• Stori y gall y teulu cyfan ei mwynhau.
• Digonedd o ganu a dawnsio.
• Gwisgoedd doniol sy'n gweddu stori.
• Set o'r safon uchaf.
Mae Pwyll Pia'i yn cyfarfod â phob un o'r gofynion hyn.
Ond fy rheswm i am fynd i'w weld oedd fod fy chwaer Lowri Siôn â rhan flaenllaw fel Rhiannon, Arglwyddes yr Awyr.
Y stori Mae Pwyll Pendefig Dyfed yn syrthio mewn cariad â Rhiannon sydd wedi ei haddo i ddyn drwg o'r enw Gwawl - 'Gwawl y Diawl' - oni bai fod rhywun arall yn ymladd drosti.
Am flwyddyn gron bu Rhiannon yn chwilio am arwr i'w hachub rhag Gwawl sydd eisiau ei phriodi er mwyn ennill mwy o bŵer.
Pwyll - fel y gallwch ddyfalu o'r teitl - sy'n ei hachub.
Ond mae un broblem arall: gofynnodd Rhiannon iddo ddod i'w hachub am 12 o'r gloch y dydd canlynol ond gan fod Pwyll wedi gwneud cam ag Arawn Brenin Annwfn rhaid iddo fod yn filwr i;r brenin am flwyddyn a honno'n dechrau o ganol dydd y diwrnod canlynol.
Wrth gwrs, ni all tywysog fyth fynd yn ôl ar ei air ond mae bod mewn dau le yr un pryd yn ei roi mewn sefyllfa anodd a dweud y lleiaf!
Rhaid gweld y Pantomeim pleserus hwn i weld beth mae'n ei wneud.
Y cast Rhaid imi ddweud fod y cast yn fendigedig gyda phump prif ran actio a chanu.
Yn ogystal a'r actorion perfformiwyd dawns Wyddelig gan dair dawnswraig arbennig ac yr oedd ychydig o bale yn rhan o ddawns y tylwyth teg.
Aelodau'r cast oedd: Alex Harris (Pwyll) Lowri Sion (Rhiannon), Dave Taylor (Gwawl) ac Erfyl Ogwen Parry.
Y gwisgoedd Ar gyfer pob Pantomeim da rhaid wrth wisgoedd doniol a'r argraff a gefais i yn yr achos hwn oedd i'r gwisgoedd gael eu gwneud yn rhagorol ac yn gweddu'n berffaith i'r stori.
Yr oedd y set hefyd o'r un safon.
Ar y cyfan teimlaf fod hwn yn bantomeim g werth ei weld ac er mai plant bach yw'r gynulleidfa darged gallaf ddweud yn bendant i oedd yn y theatr fwynhau y perfformiad gyda'r chwerthin yn dystiolaeth amlwg o hynny.
Pa ymateb gwell allech chi obeithio amdano?
Pantomeim pleserus, doniol ac yn bwysicaf oll, pantomeim gyda neges gudd i blantos bach adeg y Nadolig.
Cyhoeddir yr adolygiad hwn fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch