| |
|
Caban Ni Caban Nhw Sioe gerdd ysgol yn llwyddiant
Caban Ni, Caban Nhw! - Teledu Realiti yn ymweld 芒'r Fro! Mae Ysgol Gyfun Bro Morgannwg newydd berfformio ei sioe gerdd gyntaf erioed.
Yn ystod y tymor diwethaf bu'r ysgol a sefydlwyd bedair blynedd yn 么l yn fwrlwm o brysurdeb a chynnwrf yn paratoi ar gyfer Caban Ni, Caban Nhw! gan Ffion Harries a Sara Lewis gyda cherddoriaeth gan Betsan Perrett.
"Braf yw cael datgan fod y sioe wedi bod yn llwyddiant ysgubol!" meddai llefarydd.
"Roedd e'n hollol anhygoel - ry' ni wedi mwynhau pob eiliad! Byddwn yn mynd adre dan ganu!" meddai aelod o'r gynulleidfa ar ddiwedd un perfformiad.
Ysgrifennwyd y sgript a chyfansoddwyd y gerddoriaeth i'r sioe gan staff yr ysgol.
"Bu'n ymdrech ysgol gyfan i ddod 芒'r sioe wreiddiol hon i'r llwyfan."
Gweddnewidiwyd llwyfan yr ysgol i fod yn wledd i'r synhwyrau ar gyfer sioe yn bwrw golwg ysgafn dros y ffasiwn ddiweddaraf o deledu realiti.
Yr oedd y sioe yn olrhain hanes criw o ieuenctid yn cystadlu am gaban gwag a swm o arian at ddefnydd y gr诺p mwyaf talentog yn y Fro.
Dilynwyd hynt a helynt pedwar gr诺p a rhannwyd eu dagrau, eu chwerthin, eu hymladd a'u cymodi wrth iddynt gystadlu a dysgu eu gwersi.
"Daeth cannoedd draw i gefnogi'r perfformiadau a bu ymateb y cyhoedd, y rhieni a'r disgyblion yn ardderchog. Mae'r sioe lwyddiannus hon wedi ei selio ar y cof wrth i'r ysgol dorri tir newydd yn hanes y sioe gerdd ac adfywio'r Gymraeg ym Mro Morgannwg," meddai un a'i gwelodd. Ymhlith y prif actorion roedd: Tom Blumberg (Bendi). Disgybl ym mlwyddyn 11 ac yn astudio Drama, Cerddoriaeth a Hanes. Diddordebau - actio, nofio ac wrth gwrs cymdeithasu! Yn y dyfodol hoffai gael gyrfa yn perfformio ar lwyfan yn broffesiynol.
Miriam Isaac - (Tesni) Disgybl blwyddyn 11 sy'n astudio Drama, Cerddoriaeth ac Almaeneg. Mae hi'n mwynhau actio, canu, dawnsio a bod yn aelod ffyddlon o d卯m hoci'r ysgol. Mae'n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn sioe gerdd ar y teledu y flwyddyn nesaf. Uchelgais - bod yn gantores broffesiynol.
Laura Best (Dafina) - Blwyddyn 11. Yn ei hamser hamdden mae'n perfformio gyda Chwmni Theatr Everyman. Yn astudio Drama, Hanes ac Almaeneg ac yn gobeithio astudio Drama a Chymraeg y flwyddyn nesaf. Uchelgais - bod yn actors.
Clayton Reid (Dimlot) - Astudio Drama, Cerddoriaeth a Hanes. Dewiswyd ef i ddewis i gymryd rhan mewn sioe gerdd gyda chwmni Popdy sydd yn rhan o 诺yl Ddrama Sioe Gerdd yng Nghaerdydd. Hoffai fod yn athro Drama.
14 Gethin Stone (Gloria) Blwyddyn 9. Yn mwynhau chwarae p锚l-droed a phaentio modelau yn ei amser hamdden. Gwaith byrfyfyr Gethin yn y gwersi Drama arweiniodd at gymeriad Gloria.
Elis Evans (Dave) Blwyddyn 9. Yn mwynhau ysgrifennu straeon digri yn ei wersi Saesneg .Yn ystod ei amser hamdden mae Elis yn hoff o fwyta, cysgu a chwarae Scaletrix!
Daniel Broderick (Rhun Ap Cefin) - Blwyddyn 9. Diddordebau - canu, actio a pherfformio ar lwyfan. Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd yn ffilmio rhaglen deledu ar gyfer cwmni Apollo, a fydd yn cael ei darlledu yn y flwyddyn newydd. Uchelgais - bod yn actor.
|
A550N ACK32MA7 lol dwi wedi cael hwyl yn darllen hon da iawn chuchuc
Lloyd Mewn gair...Chris Chucas...Brad Pitt...Hunk...Seren y sioe...ffrind gorau Lloyd...wehey...go Chris...and action...cut...burumcheeew...end...real end...y diwedd!
Huw Lewis Roeddwn i yn aelod o'r sioe a gallaf ddweud o waelod fy ngalon ei fod wedi bod yn un o'r profiadau gorau yn fy mywyd. Hoffwn ddiolch i Miss Lewis, Mrs Cole a Mrs Perret yn ogystal am ei holl waith yn gwneud y sioe un un llwyddiannus tu hwnt.
chris chucas bro morgannwg roedd y sioe yn gwych. 100% gwych! hoffwn dweud fod chris chuas 'di chwarae rhan hanfodol y sioe yn ardderchog. Roedd e' gwych yn enwedig wrth canu.
Carys Jones Roeddwn i yn y sioe yma ac i ddweud y gwir roedd e'n un o profiadau gorau yn fy mywud!
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|