| |
|
Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r - barn dwy Sian Northey a Manon Steffan Ross yn ymateb
Sian Northey a Manon Steffan Ross fu'n gwylio Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r ar gyfer Y Celfyddydau
Dyma ddyfyniadau o'r hyn oedd ganddyn nhw i'w ddweud wth y cyflwynydd, Beti George, ar Y Celfyddydau, Mawrth 7, 2007.:
Sian Northey: Mi wnes i fwynhau yn arw . Roeddwn i'n mynd, yn ofni y byddai yn chwalu fy nelwedd i o Hedd Wyn ond doedd yna ddim angen imi boeni.
Yn dod o'u ardal ag ef dywedodd fod y darlun yn y ddrama yn un go debyg i'r un
oedd ganddi hithau hefyd.
Manon Steffan Ross: Arwr oedd Hedd Wyn yn fy meddwl i ac roedd hi'n lyfli ei weld o jyst fel hogyn ifanc oedd wedi mynd i ryfel. Ac roedd o ofn a doedd o ddim yn siarad yn farddonol o hyd . . .
Oherwydd fy mod i wedi gweld y ffilm gymaint o weithiau rydw i'n meddwl am Hedd Wyn fel rhywun hollol gorgerous efo'r holl ferched yma o'i gwmpas o - ac sy'n sgwennu barddoniaeth lyfli o hyd ac roedd hi'n neis jyst i weld o mewn bar yn Ffrainc yn ofn ac yn hogyn ifanc.
Manon: Mae o'n gwneud i mi feddwl pa mor wirion ydi'r holl fusnes cadeirio yma . . .
Manon: Yn y dechrau roedd rhan y dyn o Rwsia mor eiriol mi wnes i feddwl am tua chwarter awr mai drama radio ydi hon ac nad oes yna ddim byd yn mynd ymlaen yn weledol ond fel roedd hi'n mynd ymlaen roedd yn fwy o ddawnsio yn digwydd . Roedd yna ddrama yna. i'w gwylio unwaith bod Hedd Wyn yn cyrraedd, fy ngwas i.
Sian: Er gwaetha'r ffilm dydw i ddim wedi meddwl am Hedd Wyn fel dyn merched ond roedd ei berthynas (efo'r ferch) yn gweithio'n gwbl naturiol.
Manon: Faswn i'n mynd mor bell a dweud mai ei drama hi [y ferch] oedd hi. . . . doedd ganddi hi ddim cymaint o linellau a'r actorion eraill ond roedd ei thawelwch hi mor gryf. Roedd hi fel ysbryd brydferth heb obaith yn y byd. Dwi'n meddwl fod hwnna yn gryfder; ei bod hi wedi medru dal y rhan yna.
Sian: Efallai nad oedd o (Iwan Llwyd) ddim yn ceisio dweud dim byd - dim ond gwneud i ni feddwl ac yn sicr fe wnaeth o wneud hynny.
Manon: Beth wnaeth o i mi oedd gwneud imi feddwl fod Hedd Wyn yn gymeriad mor drist - mae'n stori ofnadwy o drist - ac mae'n beth gwirion i'w ddweud ond dydw i ddim wedi meddwl amdano fel yna o'r blaen.
Dyna ddylen ni gael o'r stori nid ei fod yn arwr ond jyst mai hogyn oedd o,. Gallai fod yn ddrama am unrhyw un; doed dim rhaid iddo fod yn fardd.
Manon:Oeddwn i'n disgwyl mwy o hynny yn y ddrama [sef y cynllwyn honedig i gadeirio Hedd Wyn]- pam fod |Iwan Llwyd yn coelio hynny, os ydi o.
Manon: Dydw i ddim yn meddwl y bydd yna lot o bobl yn dod allan o'r theatr yn teimlo'n joli.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|