| |
|
Twm Si么n Cati Gwell na Robin Hood!
Adolygiad Gwyn Griffiths o Twm Si么n Cati. Sioe haf Theatr Arad Goch i blant 7-11 oed. Caerdydd. Mehefin 20, 2008
Ar drothwy'r pedwar cant
Wn i ddim a fydd yna gofio y flwyddyn nesaf ond yn 2009 bydd yn bedwar can mlynedd union ers marw Thomas Jones, neu Twm Si么n Cati.
Ceir cyfeiriad yn rhaglen y sioe lwyfan Twm Si么n Cati fod tua 400 o flynyddoedd ers i Twm fod yn crwydro daear ardal Tregaron. Wel, 1609 oedd blwyddyn ei farw.
Wn i ddim ai dyma gychwyn cyfres o ddigwyddiadau i nodi'r dyddiad hwnnw a dathlu ei fywyd. Os felly, mae'n gychwyn addawol a theilwng.
Ar y rhaglen a'r tocyn mynediad i'r sioe yn theatr The Gate, Caerdydd, cyfeiriwyd ato fel The Welsh Robin Hood.
Ond fe ddylid cofio bod Twn Si么n Cati yn berson go iawn o gig a gwaed. Yn fardd, mae o leiaf un cywydd o'i waith wedi goroesi. Yn 诺r o ddiwylliant ac, ar 么l ymbarchuso, yn ddyn o ddylanwad. Ffrwyth dychymyg a chwedl yw Robin Hood.
Ond wna i ddim edliw'r ystryw marchnata bach yna. Mae hon yn sioe sy'n haeddu'r gynulleidfa orau bosib.
Pwysodd sgript Jeremy Turner yn drwm ar y chwedlau am Twm, rai ohonynt yn cael eu hadrodd hyd yn oed heddiw yn ardal Tregaron.
A sgript llawn asbri oedd hi gyda'r actorion, Ffion Wyn Bowen; Emyr Bell, Lowri Sion, Marc Roberts, Ioan Gwyn, yn hoelio sylw llond y theatr o blant bywiog Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd a'u cadw'n gwrando'n astud am awr gyfan.
Mae chwedloniaeth Twm yn addas iawn i blant. Triciau direidus sydd yma; twyllo'r barus a'r drwg o'u harian a'u heiddo gan roi'r ysbail i'r tlawd.
Mae'r straeon a ddefnyddiwyd yn y sioe yn ddieithriad yn ddoniol a da - fel honno pan fo Twm gerbron llys a'r lle'n mynd braidd yn afreolus. "Clear the court," meddai'r barnwr, ac wrth i'r dorf gael ei hel allan mae Twm yntau yn diflannu gyda nhw.
Rhaid imi ddweud gair am gwmni Arad Goch, rhywbeth sy'n gyffredin i bob un o'r cwmn茂au Theatr Mewn Addysg y caf y cyfle i'w gweld o dro i dro. Mae eu cyflwyniadau yn gyson ardderchog ac yn wir addysgiadol.
Mae'n hyfryd gweld ar y llwyfan yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn digwydd tu cefn i'r llenni, yr actorion yn newid cymeriadau drwy fymryn o newid gwisg ac osgo.
Gwych o beth i danio dychymyg cynulleidfaoedd ifanc.
Sylwais fod Arad Goch yn cynnal sesiynau gloywi iaith i ddisgyblion ysgol ac er yn rhwydd ac ystwyth yr oedd iaith y sioe hon o ansawdd hyfryd.
Trueni na fyddai rhai o bobol S4C yn gweld y sioe hon er mwyn gweld nad oes raid defnyddio bratiaith er mwyn ystwythder.
Braf, hefyd, gweld dawnsio gwerin a chanu gwerin o'r cyfnod.
Llongyfarchiadau i'r cast bob un am berfformio caboledig a hwyliog.
Roeddwn yn falch gweld y sioe'n cael ei llwyfannu yn The Gate, theatr a chanolfan gelfyddydol a diwylliannol yn Y Rhath. Gwneir llawer iawn o waith da yma ac y mae seddau'r theatr, sef galeri hen gapel, yn gyffyrddus. Gwers i rai o theatrau eraill Caerdydd!
Dyma fanylion gweddill y daith wedi Caerdydd:
Mae Twm Si么n Cati ar daith o amgylch Cymru gyda pherfformiadau Cymraeg a Saesneg.
20.6.08 Y Gate, Y Rhath, Caerdydd 10.30 ; 1pm (Cymraeg) Menter Caerdydd 02920 565658
23.6.08 Neuadd Dwyfor Pwllheli 1.30pm (Cymraeg) 01758 704088
24.6.08 Neuadd Dwyfor Pwllheli 10am (Cymraeg); 1.30pm (Cymraeg) 01758 704088
25.6.08 Galeri Caernarfon 1pm (Cymraeg) 01286 685222
26.6.08 Theatr Gwynedd Bangor 1.30pm (Cymraeg) 01248 351708
27.6.08 Theatr Gwynedd Bangor 10.30am (Cymraeg) 01248 351708
30.6.08 Theatr Felinfach 1.30pm (Cymraeg) 01570 470697
01.7.08 Theatr Elli Llanelli 1.15pm (Cymraeg) 0845 22635 08/09/10
02.7.08 Theatr Elli Llanelli 10am (Cymraeg); 1.15pm (Saesneg) 0845 22635 08/09/10
04.7.08 Theatr John Ambrose Rhuthun 10am (Cymraeg); 1.30pm (Saesneg) 01678 540528
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
|
|