| |
|
Wrth Aros Godot - holi actor Carys Mair Davies yn holi 'Pozzo'
Yn dilyn cynhyrchiad Cwmni Brolio, Ysgol Penweddig, Aberystwyth, o Wrth Aros Godot bu Carys Mair Davies yn holi James Hancock-Evans un o'r actorion:
Pa gymeriad wyt ti'n chwarae yn y ddrama?
Dwi'n chwarae rhan Pozzo yn y ddrama.
Beth yw rhan y cymeriad yn y ddrama?
Mae'r cymeriad yn ymddangos yng nghanol y ddrama gan waeddi gorchmynion ar ei was, Lucky. Mae'n gymeriad brawychus, pwerus, sydd braidd yn ddwyochrog.
Un funud mae'n llawn hyder gan sarhau Vladimir ac Estragon a'r funud nesaf mae'n torri lawr ac yn colli arno'i hun. Yn bendant mae'n ddyn creulon a diog sydd 芒 pherthnas ryfedd efo'r tramps a Lucky.
Yn anffodus i Pozzo, mae rhywbeth yn digwydd iddo sydd yn newid ei sefyllfa o awdurdod, gan wneud i'r gynulleidfa ei weld mewn golau newydd.
A wnest ti fwynhau bod yn y ddrama?
'Roedd bod yn y ddrama yn brofiad diddorol dros ben. Mae gwneud drama abswrd yn cynnig agwedd arall o berfformio sydd yn wahanol iawn i fy mhrofiadau cynt. Ond do, fe wnes i fwynhau yn fawr.
Beth oedd y peth gorau am y ddrama?
Ymmm...cael 'boso' pawb o amgylch?!! Na, fy hoff agwedd oedd cyfeillgarwch y cast a'r criw.
Gan taw nifer fechan oedd yn y cast 'roedd pawb yn adnabod ei gilydd ac yn gyfeillgar iawn.
'Roedd cael perfformio o flaen cynulleidfa hefyd yn brofiad bythgofiadwy - yn enwedig o flaen teulu a ffrindiau. 'Roedd hyn yn adeiladu fy hyder.
Faint o ymarfer yr oedd yn rhaid i chi ei wneud?
Dechreuom ymarfer ymhell n么l ym mis Medi. Dim ond yn yr wythnosau a'r dyddiau diwethaf y daeth y cwbl at ei gilydd. Oherwydd mai drama
abs岷價d yw hon 'roedd angen tipyn o ymarfer weithiau jest i gofio'r linell nesaf!
Pa olygfa oedd orau gennyt?
Fy ail ymddangosiad yw fy hoff olygfa oherwydd bod cymeriad Pozzo mor wahanol i'w gymeriad yn yr olygfa gyntaf. Gallaf ddangos ei ddwyster a dangos taw creadur truenus ydy Pozzo. Trwy gydol y ddrama mae'n cadw awdurdod ond mae'n llawer mwy dibynnol ac yn gragen o'i gymeriad cynt. Mae iddo ddiwedd trist iawn.
Wyt ti'n falch bod y cyfan drosodd?
Mewn ffordd, ydw. Wrth gwrs mae perfformio yn wasgedd - dysgu llinellau a choncro nerfau ar y noson. Ond mae'r wefr o berfformio yn wefr anferthol. Mae teulu bach WAG (Wrth Aros Godot) wedi ymwahanu! O naaa!
Pe byddai cynlluniau i wneud drama arall, a fydde ti'n dymuno bod yn rhan ohoni?
Yn sicr. Mae Brolio yn gwmni unigryw gan mai ni, y disgyblion, sydd yn gyfrifol am bopeth. 'Rwy'n credu taw dim ond tyfu all y cwmni gan ennill enwogrwydd ac adnabyddiaeth.
Fel aelod, ni allaf ond hybu'r cwmni gan fod y profiadau perfformio dwi wedi'u cael yn mynd i aros gyda mi am byth ac yn werthfawr iawn. Fy neges Brolio am byth!!!!
Cliciwch i ddarllen adolygiad Carys Mair Davies o'r ddrama.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|