大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

大象传媒 Homepage
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Alan Bennett yn Gymraeg
Addasiad newydd o dair o monolog gan y meistr Saesneg

  • Adolygiad o Tri Rhan o Dair


    Mae monologau y dramodydd Saesneg Alan Bennett yn cael eu cydnabod yn eang fel campweithiau ymhlith llenyddiaeth Saesneg.

    A pherfformiad Cymraeg o dair o'r monologau hynny yw cynhyrchiad Theatr Bara Caws, Tri Rhan o dair sy'n cychwyn ar daith yn Y Bala nos Fawrth 13 Tachwedd 2007.

    Gwau drwy'i gilydd
    Ond nid cyflwyniad syml o dair monolog fydd hwn gan i Betsan Llwyd y cyfarwyddwr a'r tri actor, Valmai Jones, Olwen Rees ac Owen Garmon benderfynu gwau'r monologau drwy'i gilydd gan symud yn 么l a blaen rhwng y cymeriadau.

    Mae hynny'n wahanol iawn i'r cyflwyniad gwreiddiol o'r myfyrion gydag actor yn syllu'n syth i gamera tra'n dweud y geiriau.

    Yn wir, dywedodd Bennett ei hun mai gyda'r lleiaf o symudiadau yr oedd ei eiriau yn gweithio orau.

    Dywedodd Betsan Llwyd wrth 大象传媒 Cymru'r Byd ei bod yn ymwybodol o'r her ac nad yn ddifeddwl y penderfynodd newid y dull o gyflwyno ar gyfer y cynhyrchiad llwyfan Cymraeg.

    "Fe wnaethon ni arbrofi cyn penderfynu ar yr hyn ydym ni yn ystyried y dewis gorau," meddai.

    Dewis yr actorion
    Rhywbeth arall sy'n gwneud y cynhyrchiad hwn yn wahanol yw mai'r actorion eu hunain gyfieithodd eu monolog eu hunain. "Fe gafodd yr actorion ddewis pa fonolog oedd pob un eisiau'i gyfieithu a nhw gyfieithodd eu monolog eu hunain felly yr oedd ganddyn nhw eu hunain lawer o 'input'," meddai Betsan Llwyd a ddywedodd hefyd i'r monologau gael eu Cymreigio ar gyfer y cynhyrchiad Cymraeg.

    O Leeds i Gymru
    Ond dywedodd nad yw'n bryderus y bydd y Cymreigio, a symud y cymeriadau gwreiddiol o gynefin Bennett yn Leeds, yn mennu ar y gwaith gan mai teimladau a syniadau'r cymeriadau yw cyfoeth y gwaith nid eu lleoliad.

    Dydi gwaith Bennett ddim yn ddieithr i BeBetsan Llwyd gan iddi hi ei hun berfformio un ohonyn nhw pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Wyddgrug yn 1991. Dywedodd ei bod yn cofio i ddefnydd Bennett o iaith yn Talking Heads "daro tant" gyda hi pan ymddangoson nhw ar y teledu gyntaf yn 1984.

    "Mae'r sgrifennu yn ymddangos ei fod yn hawdd a ffwrdd a hi," meddai, "ond mae pob gair ac ymadrodd wedi ei ddewis yn ofalus iawn; mae yna ddewis gofalus iawn o eiriau a brawddegau," meddai.

    Y tair monolog a ddewiswyd gan yr actorion i'w perffotrmio yw:
  • A Chip in The Sugar - Chipsan yn y Siwgr gan Owen Garmon.
  • Bed Among the Lentils - Gwely Mysg y Ffa Bach Coch gan Olwen Rees.
  • A Lady of Letters - Ledi Lythrennog gan Valmai Jones. gyda Owen Garmon, Valmai Jones ac Olwen Rees

    Bydd y perfformiad cyfan yn parhau am awr a hanner.

    Dyma Alan Bennett
    Daeth Alan Bennett i amlygrwydd gyntaf Yng Ngwyl Caeredin yn 1960 pan ymddangosodd yn y sioe Beyond the Fringe gyda Dudley Moore, Peter Cooke a Jonathan Miller ond er i'r lleill hefyd wneud enw iddynt eu hunain Bennett a dyfodd fel llenor a dramodydd ac y mae ei lyfrau yn parhau ymhlith gwerthwyr gorau y farchnad lyfrau Saesneg.

    Heb os, ei gyfraniad mawr fu ei fonologau, yn cael eu perfformio nid yn unig gan actorion blaenllaw ond ganddo ef ei hun hefyd mewn llais hytrach yn undonog ond cyfareddol serch hynny.

    Pobl gyffredin yn hel meddyliau oedd ei ddeunydd gyda'i ddefnydd gofalus o iaith a'i sylwgarwch anhygoel yn troi yr hyn all ymddangos ar yr olwg gyntaf yn syniadau crwydrol yn llenyddiaeth dreiddgar.

    Ganwyd Bennett yn Armley, Leeds, 1939, yn fab i gigydd ac wedi gwasanaeth milwrol, pryd y dysgodd Rwsieg, graddiodd mewn Hanes yn Rhydychen gan aros yno am rai blynyddoedd cyn troi cefn ar ysgolheictod a dechrau llenydda.

    Y daith
  • Nos Fawrth Tachwedd l3 Neuadd Buddug, Y Bala Siop Awen Meirion (01678) 520658
  • Nos Fercher Tachwedd 14 Neaudd Talybont, Talybont, Aberystwyth, Falyri Jenkins (01970) 832560
  • Nos Iau Tachwedd l5 Theatr y Gromlech, Crymych Kevin Davies (01239) 831455
  • Nos Wener Tachwedd 16 Neuadd Llangadog, Menter Iaith Dinefwr 01558 825336
  • Nos Lun Tachwedd 19 Neuadd Dwyfor, Pwllheli Swyddfa Docynau 01758 704088
  • Nos Fawrth Tachwedd 20 Neuadd Dwyfor, Pwllheli Swyddfa Docynnau 01758 704088
  • Nos Fercher Tachwedd 21 Neuadd Dwyfor, Pwllheli Swyddfa Docynnau 01758 704088
  • Nos Iau Tachwedd 22 Pafiliwn Corwen (01490 412305)
  • Nos Wener Tachwedd 23 Theatr John Ambrose, Rhuthun Ffion Clwyd 07702048184
  • Nos Sadwrn Tachwedd 24 Theatr Twm o'r Nant, Dinbych Siop Clwyd: 01745 813431 neu 01745 812349
  • Nos Fawrth Tachwedd 27 Theatr Gwynedd, Bangor Swyddfa Docynnau: 01248 351708
  • Nos Fercher Tachwedd 28 Theatr Gwynedd, Bangor Swyddfa Docynnau: 01248 351708
  • Nos Iau Tachwedd 29 Ysgol y Moelwyn Blaenau Ffestiniog Gwen Edwards 01766 830435
  • Nos Wener Tachwedd 30 Canolfan Gymuned Llanrwst Menter Iaith Conwy 01492 642357 neu Siop Bys a Bawd
  • Nos Sadwrn Rhagfyr 1 Neuadd Oliver Jones, Glynceiriog Menter Maelor 01978 363791
  • Nos Fawrth Rhagfyr 4 Canolfan Bro Aled, Llansannan Delyth 01745 870513 neu Eilir 01745 870415
  • Nos Fercher Rhagfyr 5 Neuadd Goffa Amlwch, Amlwch Ian 076919) 205217 neu Corwas 01407 830277
  • Nos Iau Rhagfyr 6 Ysgol Gyfun Llangefni, Llangefni Gareth: 01248 421660 neu 07969456202
  • Nos Wener Rhagfyr 7 Galeri, Caernarfon Swyddfa Docynnau: 01286 685222
  • Nos Sadwrn Rhagfyr 8 Galeri, Caernarfon Swyddfa Docynnau: 01286 685222

  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar D芒n
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Caf茅 Cariad
    Caf茅 Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    M么r Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mind诺r
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Tr锚n Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Si么n Cati
    T欧 ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffr芒m
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    G诺yl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar D芒n
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glynd诺r yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno 芒 na n'脫g
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar 么l yr Alban'
    T欧 ar y Tywod
    T欧 ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir G芒r - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy