| |
|
Llyfr Mawr y Plant Adolygiad Ffion Eluned Owen, Ysgol Dyffryn Nantlle, Gwynedd
Llond llwyfan o lwynogod, ieir, twrci, ceiliog, hwyaid, wiwerod - o ia, a rhai o actorion a chantorion enwocaf Cymru!
Swnio'n afreal!?
Ond dyna'r wledd a brofais yn Theatr Gwynedd, Bangor, wrth i gymeriadau gorau'r ganrif ddiwethaf ddianc o'u llyfr i'r llwyfan dan adain Theatr Bara Caws.
Pwy fuasai'n meddwl bod Wil Cwac Cwac yn gallu canu a S茂on Blewyn Coch yn gallu dawnsio?
Amheuon yn diflannu
Os oedd gennyf unrhyw amheuaeth am ddoniau llwyfan yr hen S茂on a'i ffrindiau roeddent wedi diflannu'n llwyr wedi i mi glywed "Ho! Ho! Ho!" Twm Larwm yn dod i lawr y grisiau ac yna pawb yn ymuno ar y llwyfan i ganu'r g芒n agoriadol.
Roedd gennyf deimlad y byddai'n noson i'w chofio!
O'r munud cyntaf llwyddodd yr actorion i ddod a hud a lledrith geiriau Jennie Thomas a J 0 Williams yn fyw i mi a hynny mewn gwisgoedd lliwgar oedd yn neidio oddi ar y llwyfan.
Roedd eu hegni diddiwedd yn llamu o gwmpas y theatr ac roedd hi'n rhyfeddol sut yr oeddent yn newid cymeriadau mor gyflym!
Dwi'n si诺r eu bod yn dyheu am un neu ddwy o gywennod Eban Jos ar ddiwedd y noson!
Yn wych Roedd portread Merfyn Pierce Jones o Ifan Twrci Tena yn wych a phan ddaeth Eban Jos allan efo'i wn roedd mam yn teimlo'n reit ofnus drws nesaf imi!
Roedd perfformiad Tomos a Begw yn ardderchog ac mae dwy o'u golygfeydd am aros yn fy nghof am amser hir; helbul y brawd a'r chwaer gyda'r cloc a'r cuddio o dan y bwrdd oddi wrth dymer Eban Jos, a'r Tomos a Begw ifanc yn canu a dawnsio How di ho ar y buarth gyda'r ieir.
Haeddai Arwel Roberts a Si芒n James yr holl gymeradwyaeth!
Ond, er mai straeon S茂on Blewyn Coch yw fy ffefrynnau yn y llyfr, Wil Cwac Cwac oedd arwr y noson hon i mi gydag Iwan Charles wedi ei eni ar gyfer y rhan!
Dwi'n si诺r ei fod yn 'cwacio' yn ei gwsg bellach!
Yr unig gymeriad nad oeddwn yn ei hoffi oedd yr hen wraig fach; ble'r oedd Robin Siriol?
Clyfrwch Wedi egwyl fer - digon o amser i lenwi fy mol 芒 hufen i芒! - mi wnes i sylweddoli pwy oedd y John yn y gwely a Jennie ei ffrind ac o sylweddoli dotio at y clyfrwch hwn yn yr un modd a'r clyfrwch o blethu'r holl stori芒u yn un - pwy fuasai wedi meddwl bod S茂on Blewyn Coch, Si芒n Slei Bach a'r tr诺ps yn ffrindiau gyda Wil, Ifan, Bob Dwdldw a Twm Tatws Oer a bod yr adar i gyd yn byw ar fuarth Tomos a Begw?
Roedd y set glyfar yn rhoi teimlad o gyfrinach a dirgelwch gan ychwanegu at naws ac awyrgylch hudol y sioe ac roedd Twll Daear yn edrych mor gartrefol ag y mae'n swnio yn y llyfr!
Fe gafodd fy nychymyg redeg i ffwrdd am y noson i Gwm Amser a dwi'n si诺r nad oeddwn yr unig un oedd eisiau ymuno 芒'r criw i ganu a dawnsio erbyn y diwedd!
Dim ond cymeriadau bywiog Llyfr Mawr y Plant allai gael theatr lawn o bobl o bob oed i chwerthin yn braf am dros ddwyawr!
Cwyn Dim ond un gwyn oedd gennyf - nid oeddwn eisiau iddo orffen! Roedd hi wir wedi bod yn sioe a hanner a diolch yn fawr i'r anifeiliaid oll am fy niddanu mewn modd unigryw!
Roedd hi'n ras am yr unig gopi o'r llyfr yn t欧 ni ar 么l cyrraedd adref o Fangor er mwyn cael ail-fyw cyffro'r perfformiad ac ar 么l dod adref o'r ysgol y prynhawn canlynol roedd mam wedi estyn hen fideos Wil Cwac Cwac - mae yna rai pethau nad ydynt byth yn colli eu swyn!
Adolygiadau eraill
|
|
|
|