大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

大象传媒 Homepage
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddgan
Pwdin Dolig o ddifyrrwch uwch.
Ar daith yn awr o amgylch Cymru
  • Adolygiad Iwan Edgar o Diweddgan gan Samuel Beckett - cyfieithiad Gwyn Thomas. Theatr Genedlaethol Cymru. Theatr Gwynedd, nos Iau, Hydref 5, 2006.


  • Ia trwm, disgwyliadwy drwm.
    Ailadroddus dindroi, beichus - dyna'r math o ddrama ydyw hon.

    Llathenni o fregliach a llifeiriant o eto, eto, eto.

    Darlunio diddymdra yn ei holl ogoniant gwag.
    Dyna oedd y bwriad a dyna oedd yn ei wneud, gyda Threfor Selway a Lisabeth Miles yn codi fel Bill a Ben gynt (er parchus goffadwriaeth) o ddau fin lludw yn yr ochr i rwdl athronyddu.

     Yntau, y cymeriad canolog , Hamm (Arwel Gruffydd) - mab y ddau sydd yn y biniau - yn ddall ac ynghlwm wrth gadair olwyn yn traethu am y gwegi a Clov (Owen Arwyn) yn anfoddog weini arno.

    Marw yn y bun
    Am wn i mai'r unig ddatblygiad sydd i'r ddrama yw bod Lisabeth Miles (neu'n hytrach, Mamm Hamm) yn marw yn y bin (er mai wrth fynd heibio y mae hynny).
    Hamm yn chwilio am ryw gysur cariad tua'r diwedd, a Clov o'r diwedd, ar 么l bygwth drwy'r ddrama, yn mynd a gadael y lle.

    I lle mae'n mynd ac i beth nid oes wybod. Dyna pam mai diwedd - g芒n ydyw. Am wn i.

    Cael ei fowlio hyd y lle
    Cyn hynny, ymhlith nifer o bethau diflas eraill, mae Hamm yn cael ei fowlio hyd y lle rownd a rownd gan Clov, gan fwydro a yw'n y canol pan fo yn y canol ynteu a yw ormod i'r dde ynteu ormod i'r chwith; ormod yn 么l ormod ymlaen, a phethau felly, ac mae llygoden fawr yn y gegin drwodd meddai Clov a rywbeth arall a rhywbeth arall, a Hamm i gael ryw hyn a'r llall wrth iddo chwythu ei bib yn ddiddiwedd i dynnu Clov i wneud rhywbeth neu'i gilydd.

    Mae'r holl drefn erbyn hyn wedi troi'n slwj ym mhen rhywun wrth geisio cofio'n 么l; yn gyforiog o symbolaeth a gwir a gau bosibiliadau dehongli.

    Mae'r set yn llwm: dau fin, dwy ffenestr, un drws, waliau pyg a chadair efo olwynion bach arni, ac ar y dechrau gorchudd gwyn dros y buniau a'r gadair olwynog. Lle digalon a phrudd.

    Piffian a lled chwerthin
    Lladdfa o ddrama i'w gwneud debygwn i, ond fyddai neb yn gwybod petai'r actorion yn ad-libio gwamalrwydd yn un scoth, gan gymryd na fyddai hynny'n mennu dim ar ysbryd a bwriad y genadwri waelodol.

    Mi oedd yna biffian a lled chwerthin gydol y perfformiad y noson gyntaf yn Theatr Gwynedd, drwy fod abswrdrwydd gogleisiol i'r cyboli ar brydiau a'r modd yr oedd y cymeriadau yn ymroi i ryw fanion truenus - er enghraifft, cafwyd cysur o'r ci clwt a wnaed gan Clov i Hamm ac a ddaeth yn rhan o'r props ayyb.

     Lled lafar lled lenyddol
    Rhyw ieithwedd lled lafar a lled lenyddol oedd i'r cyfieithiad gydag ynganu llenyddol braidd ar brydiau - wn i ddim a oedd hynny'n fwriadol ac wn i ddim a oedd hynny o ots.

    Mae'n debyg fod Arwel Gruffydd drwy fethu a symud o'i s锚t a'r ddau arall yn eu biniau yn gwneud actio arferol yn anodd - ond maent yn llwyddo.

    Leciwn i ddim 'mo'r dasg o orfod cofio y ffasiwn druth ag un Arwel Gruffydd oni bai ei fod, fel y dywedais, yn ddigon 'tebol i ddyfeisio o'r newydd wrth ruo a rhefru ymlaen ac ymlaen.

    Cadw eu cynulleidfa
    Yr oedd profiad a hyder yr actorion yn eglur ac yn llwyddo i gadw eu cynulleidfa.

    Ond faint o gynulleidfa fydd honno drwy'r daith - wn i ddim.

    Drama i bobl ddrama go iawn ydyw hon. Fel y gallai bwytwyr mawr sglaffio dau neu dri pwdin Dolig yn olynol heb ddim menyn melys, rhaid cael dramagarwyr mawr i deimlo y gallant iawn stumogi hon.

    Ond 'dydw i ddim yn awgrymu na wyddai'r Theatr Genedlaethol hynny ac mai fi yw'r cyntaf i sylwi ar y peth (neu fyddai fy sylw fawr amgen i rai o sylwadau cwbl ynfyd amlwg y cymeriadau'r ddrama ei hun).

    Difyrrwch difyr a Difyrrwch uwch
    Ond o dderbyn hynny, wrth gwrs, mae yma'r glorian barhaol sydd yn pwyso rhwng difyrrwch "difyr" a difyrrwch "uwch" i'w hystyried.

    Ac mae'n si诺r, os caf ateb ar eu rhan, fod y Theatr Genedlaethol wedi penderfynu ein bod yn haeddu dogn o'r difyrrwch "uwch" ar brydiau ac nad ydynt mor wirion a meddwl y bydd y lluoedd yn ciwio tu allan cyn pob perfformiad.

    Mae'n debyg nad llawer ceiniog fydd diwedd y g芒n hon o ran arian wrth y drysau - ond dyna fo, dyna yw'r penderfyniad polisi mae'n debyg.

  • Aled Jones Williams yn anghytuno Cliciwch

  • Beth yw eich barn chi - cyfle i ymateb isod . . .


  • Taith Diweddgan
    Dyma fanylion y daith gyda phob perfformiad yn dechrau am 7.30:
    * - isdeitlo.
  • Theatr Gwynedd, Bangor. Hydref 5-7*.
  • Theatr Sherman, Caerdydd. Hydref 11-12*.
  • Theatr Hafren, Y Drenewydd. Hydref 19*.
  • Canolfan Gelfyddydau, Aberystwyth. Hydref 24.
  • Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug. Hydref 27-28*.
  • Theatr Lyric, Caerfyrddin. Hydref 31.
  • Theatr Mwldan, Aberteifi. Tachwedd 3 Tachwedd.

    Mae'r daith yn cynnwys gweithdai arbennig ar gyfer myfyrwyr drama a dysgwyr y Gymraeg, yn ogystal 芒'r is-deitlo yn Theatr Gwynedd, Bangor; Theatr Sherman, Caerdydd; Theatr Hafren, Y Drenewydd a Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Taith Diweddgan


  • cyfannwch

    John Owen, Rhuthun
    Gwerthfawrogais y perfformiad o "Diweddgan" yn Yr Wyddgrug (y cyntaf o`r ddau). Nid yw`n ddrama i`w mwynhau yn yr ystyr arferol er bod iddi ei hiwmor du. Mae gen i ddau beth i`w ddweud am y cynhyrchiad: 1.Roedd y ffenestri yn isel ac yn rhy gonfensiynol, ac o ganlyniad ni chafwyd yr esgyn a`r disgyn syrffedus i fyny ac i lawr yr ystol. A mae syrffed wrth hanfod ei ddram芒u! 2. Mae seibiau yn bwysig yn nram芒u Beckett, ac nid yw hon yn eithriad. Ni chafwyd y seibiau sy`n syfrdanu ac yn tanlinellu rhediad syrffedus amser. Roedd y cynhyrchiad fel cyfanwaith a`r actio unigol yn effeithiol iawn.

    Sian Roberts, Trefor
    Dw i mor falch i ddarllen hyn - dw i'n gwbod bod cwyno bod drama abswrd yn abswrd fel cwyno bod madarch mewn steak & mushroom pie ond a oedd angen iddi fod cweit mor abswrd?

    Mae Iwan Edgar wedi dweud yn union beth oeddwn i'n ei deimlo - a'i ddweud yn llawer gwell.
    贬飞谤锚!



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar D芒n
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Caf茅 Cariad
    Caf茅 Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    M么r Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mind诺r
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Tr锚n Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Si么n Cati
    T欧 ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffr芒m
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    G诺yl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar D芒n
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glynd诺r yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno 芒 na n'脫g
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar 么l yr Alban'
    T欧 ar y Tywod
    T欧 ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir G芒r - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy