Adolygiad Alaw Sioned Roberts o Ysgol Dyffryn Nantlle, Gwynedd
Braf oedd cael mynd yn 么l i fyd mawr y plant am noson a chael cwrdd 芒 hen ffrindiau.
Roedd awyrgylch dda iawn wrth gerdded i mewn i'r theatr.
Gan imi ddarllen y llyfrau pan yn blentyn, roeddwn yn gyfarwydd 芒'r stori芒u a'r cymeriadau ac yr oedd gennyf ddisgwyliadau mawr.
C芒n llawn bwrlwm Dechreuodd y sioe gyda ch芒n fyrlymus Hwn yw ein Byd gyda'r actorion a oedd yn portreadu mwy nag un cymeriad i gyd yn canu a dawnsio.
Edrychai'r set yn blaen iawn, gyda wal lechi hir yng nghefn y llwyfan, grisiau yn mynd i fyny o un ochr i'r llall a drysau i'r ddwy ochr o'r llwyfan.
Mwynheais y caneuon yn fawr iawn, roeddynt yn fywiog, er bod un neu ddwy yn hir.
Llifai'r golygfeydd i'w gilydd yn dda gyda llawer o gomedi yn y perfformiad - er enghraifft, yr aderyn yn dod allan o'r blwch ar dop y set i ddangos ei bod hi'n fore.
Twm Larwm oedd yn llywio'r sioe ac yn siarad gyda'r gynulleidfa a gofyn cwestiynau - tric da gan fod y gynulleidfa yn cael bod yn rhan o'r perfformiad ac yn gyfle i'r plant bach weiddi.
Gwisgoedd siomedig Un peth siomedig oedd rhai o'r gwisgoedd. Doedd rhai'r wiwerod ddim yn dda iawn a'u cynffonnau yn rhy fach.
Hefyd, yr oedd siaced las Si芒n Slei Bach yn anaddas i lwynog coch!
Roedd gwisg Ifan Twrci Tenau yn anaddas gan ei bod yn anodd gwahaniaethu rhyngddo ef a'r ieir.
Nid oedd yr actorion yn siomi fodd bynnag gydag Iwan Charles yn ffantastig fel Wil Cwac Cwac ac fe ddaeth gweddill yr ieir a'r cymeriadau yn fyw.
Teimlwn fod partneriaeth Arwel Wyn Roberts a Si芒n James yn dda fel Begw a Tomos a bod yr olygfa gyntaf gyda'r ddau yn wych.
Plesiodd yr actorion trwy bortreadu'r cymeriadau yn union fel yr oeddwn i wedi meddwl amdanynt.
Wedi plesio Roedd trefniant y straeon wedi fy mhlesio; cael ail fyw rhai roeddwn yn eu cofio a chael fy atgoffa o'r rhai roeddwn wedi eu hanghofio.
Roeddwn wedi gwir fwynhau y noson ac yn meddwl ei bod yn llwyddiant mawr.
Buaswn yn annog pawb - o bob oed - i fynd i'w gwylio; y rhai sy'n gyfarwydd 芒'r llyfr a'r rhai sydd ddim!