Yng nghanol yr holl firi am y medalau aur Olympaidd a ddaeth i Brydain mae'n braf medru llongyfarch un o drigolion Tal y Bont ar dderbyn y fedal aur am wyddoniaeth yn Eisteddfod Caerdydd. Yn hollol haeddiannol dyfarnwyd y fedal i Dr Iolo ap Gwynn Garregwen a chyflwynwyd y fedal iddo yn ffurfiol ar lwyfan yr Eisteddfod ac yna mewn seremoni hyfryd yn y Pagoda ar y maes - y ddau ddigwyddiad ar brynhawn Iau. Dyma'r ail dro i'r fedal gael ei dyfarnu i'r teulu - anrhydeddwyd ei fam, Dr Eirwen Gwynn yn yr un modd yn Eisteddfod Abertawe dwy flynedd yn 么l.
Ganwyd Iolo yn Llundain yn 1944. Symudodd y teulu i fferm yn Eifionydd yn 1950 a mynychodd ysgolion cynradd Llanystumdwy a Chricieth ac ysgol uwchradd Eifionydd. Symudodd y teulu i Fangor yn 1962 a bu Iolo yn fyfyriwr isradd ac wedyn uwch- radd yn Adran S茫oleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Fe'i penodwyd yn Gydymaith Ymchwil, yn Ddarlithydd ac yna'n Uwch ddarlithydd yn y Brifysgol. Priododd Ellen ( a oedd gyda llaw yn gariad iddo ers dyddiau ysgol ) a bu'r teulu yn byw yn Aberystwyth a Llangwyryfon cyn symud i Garregwen yn 1988. Mae ganddynt dri o blant - Ll帽r sy'n rhedeg ei fusnes peirianneg ei hun, ac yn byw gyda'i bartner Meleri yn Llandre, Rhian, sy'n byw gyda'i gwr Robbie a'u plentyn Caio Jac yng Nghaerdydd a Rhys, sy'n olffiwr proffesiynol ac yn byw yn Basingstoke gyda'i wraig Hayley a'u plant, Billy a Lucy.
Wrth gyflwyno'r fedal cyfeiriodd Llywydd Llys yr Eisteddfod Huw Thomas at gyfraniad arbennig Iolo i wyddoniaeth yng Nghymru. Roedd naw gwyddonydd arall wedi eu henwebu ond ym marn y Panel Asesu roedd Iolo yn sefyll ben ac ysgwydd uwch ben y lleill. Maes ymchwil Iolo yw datblygu technegau meicrosgopeg electron mewn astudiaethau o gelloedd ac o feinwe cartilag cymalog. Mae'n awdur dros gant o bapurau yn y maes ac yn cyfarwyddo gwaith ymchwil yn Aberystwyth ac yn cyd-weithio gydag arbenigwyr yng Nghaerdydd, Bilbao a Davos Swisdir. Ei brif ddiddordebau hamdden yw mynydda a ffotograffiaeth ac yng nghanol ei holl brysurdeb mae'n gyson barod i roi o'i amser i gynorthwyo a chysodi Papur Pawb.
Roedd yr Archdderwydd, Dic Jones hefyd yn bresennol yn y seremoni yn y Pagoda ac wrth longyfarch Iolo ar ei gamp cyflwynodd yr englynion hyn iddo:
Boed ein defod a'n clodydd - yn deilwng
O dalent gweledydd,
A rhown ein mawl i'r sawl sydd
Wedi'i eni'n wyddonydd
Gwyn ein byd ddyfod hogyn bach - Eirwen
A Harri'n gawr bellach,
Gan dyfu'n eilun ei ach,
Yn olyniaeth ei linach.
Llongyfarchiadau cynnes i Iolo ar ei gamp a phob hwyl ar wisgo'r fedal - gyda choler a thei wrth gwrs!! Sgersli bilif!
|