大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Aled Wyn Jones yn cneifio Cneifio er budd elusen
Awst 2004
Roedd Dydd Llun 5ed o Orffennaf yn ddiwrnod go arbennig yn Gesail Ddu, Foel pan gynhaliwyd diwrnod o gneifio noddedig i Gronfa Canser Marie Curie.

Bu i Aled Wyn Jones, Tynbraich, Dinas Mawddwy gneifio 600 o ddefaid mewn ychydig dros ddeg awr.

Dywed Glyn Caerlloi (perchennog y defaid) mai 'nod Aled oedd cneifio 500 yn ystod y dydd ond cafodd gymaint o hwyl arni nes cneifiodd y swm anhygoel yma o 600! Rydym yn gobeithio codi rhwng 2-3 mil o bunnoedd", meddai Glyn Caerlloi. "Mae pobl a busnesau lleol wedi bod yn hael iawn ac mae'n dyled ni yn fawr i Gwmni Wynnstay sydd, mewn cydweithrediad 芒 Janson Animal Health a Pifzer, wedi rhoi 拢500.00 - diolch i Emyr Wyn Jones".

Mae Marie Curie yn elusen syn cyflogi hyd at 200 o nyrsys i ofalu am gleifion sy'n marw o ganser.

"Roedd tipyn o ffrindiau Aled wedi dod i'w gefnogi ar y diwrnod a hoffwn ddiolch i Eirian a'i mam, Cari, am wneud bwyd mor ardderchog drwy'r dydd, hefyd i Christine am y mefus ar hufen. Diolch hefyd i Aled Dolymaen am gael defnyddio'r sied ac i bawb arall a fu mor barod i helpu" meddal Glyn.

Os hoffai unrhyw un roi tuag at y gronfa hon yna cysylltwch 芒 Glyn Caerlloi (01938 820200) neu Aled, Tynbraich (01650 531517).Yn y llun gwelir Aled yn cneifio gyda'i dad Wyn, Alun Daniel a Gareth Daniel yn ei gefnogi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy