大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Aelodau o bwyllgorau'r Eisteddfod Genedlaethol Cau Pen y Mwdwl
Tachwedd 2003
Daeth aelodau o bwyllgorau'r Eisteddfod Genedlaethol at ei gilydd am un tro arall i swper ffarwelio yn y Royal Oak - ffarwelio 芒 Hywel Wyn Edwards a'i staff sy'n symud i Gaernarfon. Llwyddodd Nest Davies, un o lywyddion anrhydeddus yr Eisteddfod, i grynhoi ein teimladau i gyd wrth i'r wythnos anhygoel brysur droi'n atgof.

Wel, dwedwch i mi, sut oedd Eisteddfod Mathrafal...
Y gair sydd yn odli wrth gwrs yw di-hafal.

Dihafal y safle ar lan yr Efyrnwy,
Dihafal y gwres, all neb wadu hynny.

Ond doedd pethe ddim cystal yn oerni y gaea'
Ar gwaith paratoi yn wir ar ei dryma.

O ble daw yr arian... y symiau di-ddiwedd,
Roedd hyd yn oed Glyn yn dechre cnoi'i winedd.

A beth am y traffig jams fydd yn siwr wrth bont Newbridge
A'r ceir fydd yn ciwio o Feifod i Nantwich.

Yn wir, roedd y trefnydd yn boenus am hydoedd
Ac yn cerdded ei gi yn benisel drwy'r strydoedd.

Ond roedd Margaret yn hapus 'n ei swyddfa fachglyd,
Yn ddoeth, yn cau allan holl boenau y byd.

Ar c么r, bobl bach, yr holl ffys a ffwdan
"Ddysgwn ni mono byth" - roedd pawb yn darogan.

Ac am gae yr Orsedd roedd Tref yn gofidio
Fyddai'r cylch wedi glasu, fyddai'r gowns wedi'u smwddio?

Ond fe ddaeth y gwanwyn a'r gwcw i diwnio
A phwyllgore'r Eisteddfod i gyd 'di adfywio.

Roedd Hywel a'i gi yn sboncio yn heini,
A Glyn yn cael pawb fynd yn ddwfn i'w pocedi.

Ac yng nghylch yr Orsedd fe dyfodd y gweirie,
A thenoriaid y c么r wedi dysgu eu node!

Ar merched yn grand yn eu sgertie a'u blowsus
A phob un o'r dynion 'di ffitio i'w drowsus.

Er mae'n dipyn o fenter cael un off the peg
A'r dynion heb wybod eu size inside leg.

Roedd compiwtars y swyddfa yn boeth, bron yn fflamie
A Bryn yn chwys domen yn gwerthu tocynne.

Ond trodd y tywydd yn wlyb yn niwedd Gorffenna'
Ac aeth pawb ar ei linie i ofyn am hindda.

Ac roedd rhywun yn rhywle wedi clywed y cwyno
Ac anfon fath dywydd wnaiff neb fyth anghofio.

Ac yno'n y lle sydd yr hardda i'w nabod
Y cawsom ni Steddfod i'w chofio ym Meifod.

Y traffig yn llifo yn hollol ddi-dramgwydd
A phawb yn eu hwylie oherwydd y tywydd.

Yn canmol trefniade, yn canmol y cyfan,
A neb, neb yn cwyno ie dim Gwilym Owen.

A phawb fu yn holi ble, ble, ble mae Meifod
Yn cyhoeddi yn glir, dyma lle hardda'i nabod.

Ac yn sylwi yn syn ein bod ni'n y Gororau
Yn dal yma o hyd a th芒n yn ein bolie.

A Saeson y Trallwm i gyd yn cydnabod
Llwyddiant anhygoel "that Welsh thing in Meifod".

Wel diolch i chi gyd fu mor ddygn yn gweithio,
Can ddiolch gan un wnaeth fawr ddim ond enjoio.

A Hywel a'ch staff wrth droi draw am Gaernarfon
Ewch gyda'n diolch yn cynhesu eich calon.

Gobeithio yn wir y bydd Eisteddfod Mathrafal
Yn byw yn eich cof fel Steddfod ddi-hafal.

Nest Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy