大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Aelodau a hyffroddwyr CFfI Llanfair yn dathlu eu buddugoliaeth Unwaith, dwywaith, tair ...
Rhagfyr 2007
Mae gan aelodau a ffrindiau Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfair Caereinion rywbeth i'w ddathlu ar 么l ennill Steddfod CFFI Sir Drefaldwyn am y trydydd tro.
Yn Y Drenewydd, ar 3 Tachwedd, 2007 enillom ni'r Adrannau Llenyddiaeth a Celf a Chrefft ac er inni ddod yn ail hefyd ar y Llwyfan, cododd ein Cadeirydd Amy Williams y Darian ar ddiwedd yr Eisteddfod.

Enillodd Amy'r gwpan i'r ferch gyda'r mwyaf o bwyntiau yn yr Adran Celf a Chrefft. Nerys Brown enillodd y tlws i'r ferch sydd wedi ennill y nifer mwyaf o bwyntiau ar y llwyfan. Penderfynodd y beirniad roi'r wobr am yr eitem fwyaf doniol i David Oliver, a chipiodd Henrietta Alexander y wobr am y nifer fwyaf o bwyntiau yn yr Adran Llenyddiaeth (19 o flynyddoedd yn 么l enillodd ei mam yr un un tlws!)

Karina Wyn Davies y beirniad yn llongyfarch Mari ar ennill y gadairEnillodd Mari Lewis Gadair yr Eisteddfod am ei Stori Fer ar y Testun 'Y Rhodd': canmolodd y beirniad Karina Wyn Dafis ei gwaith dawnus a chrefftus.

Aeth pedair eitem, sef y Parti Llefaru (sy'n cael ei hyfforddi gan Ann Jones), y sgets (gyda Amy a David), adroddiad digri gan David a deuawd ddoniol (gyda Ffion a David) ymlaen i'r Steddfod Genedlaethol yng Nghorwen ar 17 Tachwedd, 2007. Yn anffodus, nid oedd Amy a Ffion yn gallu dod i Gorwen, felly camodd Hannah Jones ymlaen i lenwi'r bwlch. Roedd yn dipyn o her dysgu'r sgets a'r ddeuawd dros nos ac mae delio gyda David ar unrhyw adeg yn her - 'gellir disgwyl yr annisgwyl'. Daethant yn 3ydd efo'r sgets, ar 么l cael eu cosbi am fynd dros amser achos ymateb y gynulleidfa, a chafodd David 1af am adroddiad digri yn ogystal 芒 chwpan am yr eitem orau yn yr adran llefaru.

Tu cefn i'r llwyddiant yma, mae 'na d卯m gwych, sydd wastad yn rhoi eu gorau glas i'r clwb. Mae'r aelodau'n dalentog, yn weithgar ac yn ffyddlon, mae 'na bwyllgor cryf sy'n ceisio cadw rhywfaint o drefn arnyn nhw wrth gwrs, rhai sy'n helpu.

Ni allwn ni lwyfannu unrhyw beth heb gymorth y giang sef Anwen Lawnt (Mrs Fixit, sy'n sortio bob dim), Sioned Lewis (cyfeilyddes o fri - o Pie Jesu i'r Da Doo Ron Ron), Olwen Chapman (byth yn rhy brysur i helpu), Ann Jones (sydd wedi hyfforddi'r parti llefaru yn wych fel arfer ta waeth am ei salwch) Andrea Williams (sydd wedi bod yn gefn i Amy, sy'n gefn i ni), Elaine Lewis (sy'n gwybod bob dim am Gelf a Chrefft), Rachel Evans (gwisgoedd ffantastig, yn enwedig yr Asen - collodd Rachel noson o gwsg i roi 'gusset' yn yr Asen) a Myfanwy Alexander (sgriptiau a syniadau gwirion).

Wrth edrych yn 么l dros y cyfnod prysur hwn 'dwi'n cofio sawl argyfwng, megis colli can诺enfawr, twll yn y pwll, a phwy gychwynnodd chwerthin yn y C么r Garglo? Ond mwy na dim byd, dwi'n cofio'r hwyl! Felly os 'dach chi eisiau cyfle i chwerthin, dewch i'r Cyngerdd yn yr Institiwt yn Llanfair ar y 5ed o Ragfyr am 7.30pm.

  • Lluniau a chanlyniadau Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru, Corwen, Tachwedd 2007

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy