大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Parc Llwydiarth Hanes Parc Llwydiarth
Tachwedd 2006
Mae nifer o dai mawr yn yr ardal hon sy'n ddiddorol a hanesyddol, ac un ohonynt yw Parc Llwydiarth.
Tynnwyd y llun hwn gan J.W. Ellis, Llanfair Caereinion ac fe'i cyhoeddwyd rhwng 1910 a 1920.

Ychydig o hanes cynnar Parc Llwydiarth sydd ar gael and roedd yn rhan o stad enfawr Plas Llwydiarth neu Llwydiarth Hall, a fu'n eiddo i deulu'r Fychaniaid am gyfnod hir nes priododd Ann merch Edward Vaughan, Syr Watcyn Williams Wynn ac felly daeth ardal eang yn ran o Stad Wynnstay.

Parc i hela ceirw ynddo oedd Parc Llwydiarth yn wreiddiol ac amgylchynwyd ef 芒 wal uchel i gadw'r ceirw rhag dianc. Gwelir y wal hyd heddiw tu 么l i d欧 Caepenfras ac roedd hen bont yn croesi'r afon Efyrnwy gyferbyn 芒 Chuddig a elwid yn Bont y Ceirw ar fapiau cynnar; a deil ei sylfaen yno o hyd. Bu asiantwyr tir Syr Watcyn yn byw yno am gyfnod hir. Yn 么l cyfrifiad 1841 roedd David Jones, brodor o Aberriw yn asiant a thrigai yn y 'plas' gyda'i deulu a phedwar gwas a phedair morwyn.

Erbyn cyfrifiad 1871, Edward Edwards oedd yr asiant a dilynwyd ef gan Griffith Jones Roberts yn 1907 a bu yno hyd nes chwalwyd y stad tua diwedd pedwardegau'r ganrif ddiwethaf.

Brodor o Lanuwchllyn oedd G.J. Roberts ac roedd yn grefftwr gwych. Ef oedd yr Asiant, Clerc y Gwaith a'r Prif Goedwigwr ar Stad Llwydiarth am gyfnod hir. Fe briododd Sarah Anne Davies, athrawes yn Eglwys Pontllogel ar Ebrill y 15fed 1909. Bu farw un o deulu'r Williams Wynn yn 1944 a bu'n rhaid gwerthu Stad Llwydiarth i dalu'r trethi marw (death du卢ties).

Symudodd G.J. Roberts o Barc Llwydiarth i Stad Llangedwyn gan ddilyn yr un dyletswyddau yno hyd ei ymddeoliad yn 1960, gan gwblhau dros hanner canrif o wasanaeth i deulu "Syr Watcyn'. Roedd ef a'i deulu yn byw mewn t欧^ arall gerllaw a enlir yn Park Cottage heddiw.

Mr Roberts yn cael ei anrhegu gan Mrs M.S. Hughes, Llwydiarth Hall, pan symudodd o Barc Llwydiarth i Langedwyn yng Ngorffennaf 1946Yn y llun gwelir Mr Roberts yn cael ei anrhegu gan Mrs M.S. Hughes, Llwydiarth Hall, pan symudodd o Barc Llwydiarth i Langedwyn yng Ngorffennaf 1946. Cofnodwyd yr achlysur yn yr Advertiser ac roedd yn amlwg yn 诺r uchel iawn ei barch yn yr ardal. Trefnwyd adloniant yn ystod y cyfarfod anrhegu, ac un o'r unawdwyr oedd Miss Glenys Jones (Mrs Jones, Melindwrerbyn heddiw).

Cymerodd y Comisiwn Coedwigaeth lawer o diroedd Parc Llwydiarth, sydd bellach yn rhan o goedwig Dyfnant. Mr Reg Waters oedd y Prif Goedwigwr cyntaf, a chofia J. D. Richards tua 80 o ddynion yn gweithio yno, ac roedd ef yn rhif 21.

Gwnaeth y Comisiwn newidiadau i'r hen blas ac roedd ganddynt swyddfeydd yno tra roedd dau fflat mewn rhan arall o'r adeilad, gyda'r Prif Goedwigwr yn byw yn hen dy asiantwyr Syr Watcyn, sef Parc Cottage. Symudodd Hywel a Llinos i Parc dros ugain mlynedd yn 么l a bellach mae'n gartref cyfforddus a ffrwyth eu llafur caled wedi'i dalu ar ei ganfed. Gwelir newidiadau a fu i'r adeilad drwy sylwi ar wahanol gerrig yn y waliau a chred Llinos y gallai'r rhan hynaf o'r adeilad fod wedi bod yn hen ffermdy ar un adeg cyn ychwanegu ato. Soniodd Llinos pa mor debyg oedd Parc Llwydiarth i hen dy Llysun cyn iddo losgi - yr un pensaer o bosib?

Amser Rhyfel
Ni fu neb yn byw yn rheolaidd ym Mharc Llwydiarth cyn yr ail ryfel byd ond cofia J.D. Richards saethwyr yn dod yno i aros am gyfnodau byr yn ystod yr hydref a'r gaeaf. Erbyn dechrau'r 1940au nid oedd cyflwr yr adeiladau'n dda iawn ac fe'i defnyddiwyd fel ysgol am gyfnod amser rhyfel. Roedd cymdeithas yn Llundain a elwid yn 'Oxford House' ac fe ddaeth un o'r aelodau o hyd i Barc Llwydiarth ar siawns. Pwrpas y gymdeithas oedd symud plant yn bennaf allan i'r wlad o ardal Bethnal Green, fel 'evacuees'. Arwyddwyd cytundeb am Barc Llwydiarth ddechrau Hydref 1940, ac yn dilyn gwaith cynnal a chadw hanfodol, symudodd 19 drigolion Bethnal Green i mewn ar Hydref 23 1940, yn bensiynwyr a mamau a phlant.

Gofalwyd amdanynt gan Mrs Evan Jones, symudodd i ofalu am Blas Dolanog yn ddiweddarach. Yn ystod y gaeaf hwnnw bu tua 40 o drigolion rhwng 76 oed a chwe wythnos oed yn byw yn y Parc, a chawsant aeaf caled ac oer yno.

Roedd staff o athrawon yn byw yno hefyd, ac roedd dau ohonynt yn athrawon trwyddedig. Nid oedd yn sefyllfa ddelfrydol oherwydd ceisiai'r athrawon gadw disgyblaeth yno, tra tanseiliwyd hyn yn aml gan y mamau. Penderfynwyd y buasai'n well petai plant y unig yn byw yno. Caewyd Parc am gyfnod er mwyn gwella cyflwr yr adeilad ac ail agorwyd ef i blant rhwng 7-11 oed ddiwedd Awst 1941. Parhaodd yr ysgol am gyfnod ond darganfuwyd nad oedd y d诺r yfed yn ddigon pur ac roedd cyflwr yr adeiladau yn parhau i fod yn wael. Penderfynwyd cau'r ysgol a gwnarthpwyd hyn ym Mehefin 1943 a symudwyd y disgyblion i Brampton Bryan Hall, tua deugain milltir i'e de o Barc Llwydiarth.

Fe gymerodd y Comiwsiwn Coedwigaeth y stad drosodd yn fuan wedyn a bu swyddfeydd ganddynt yn yr hen d诺r fel y nodwyd eisoes ac roedd dau fflat ar lawr isaf yr adeilad.

Roedd cymdeithas Oxford House yng ngofal ysgol arall yn yr ardal adeg rhyfel, swf Plas Dolanog, a dyna fydd testun y Cynefin nesaf.

Hoffwn ddiolch i Mr John Dafydd Richards, Llanfihangel (Penrallt gynt) ac i Hywel a Llinos Evans am gymorth i lunio'r pwt erthygl yma.

Gan Alwyn Hughes


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy