大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Dawnswyr Llangadfan a Dawnswyr Nevezadur o Lydaw Dawnswyr Llangadfan yn croesawu'r Llydawyr
Mehefin 2005
Daeth uchafbwynt i ddawnswyr Llangadfan gydag ymweliad Dawnswyr Nevezadur o Lydaw i Ddyffryn Banw.

Cyfnod prysur arall i'r dawnswyr, ond uchafbwynt y mis yn sicr oedd ymweliad dawnswyr o Lydaw - Dawnswyr Nevezadur - 芒 ni yn niwedd Ebrill. Roedd y Cyfnewid rhwng Dawnswyr Llangadfan, Aberystwyth a'r Llydawyr.

Roeddynt yn cyrraedd yma nos Lun, Ebrill 25. Y dawnswyr i gyd yn aros efo'r dawnswyr lleol. Ail gyfarfod hen ffrindiau, a rhai newydd wrth gwrs. Fore Mawrth, ymweld ag Ysgol y Banw a phrofi naws ysgol Gymreig ei chyfrwng. Ysgol Lydewig ei chyfrwng yw eu ysgol hwy - Ysgol Diwan.

Plant y Banw yn dawnsio i'r Llydawyr a hwythau'n dawnsio i'r plant. Cyfle i'r Cymry ddysgu dawns syml o Lydaw dan arweiniad Andre Penglaou, eu harweinydd yn s诺n y bombarde (offeryn chwyth swnllyd) ffidil ac acordion. Pawb yn eu gwisgoedd dawnsio. Ffwrdd i weld Neuadd Cynhinfa a chael te bach yno a dipyn o hanes y cartref.

Yn 么l i swpera yng ngwesty'r Dyffryn cyn mynd yn 么l i'r Ganolfan a Noson o Hwyl - o ddawns a ch芒n - croes rhwng Noson Lawen, Twmpath a Fest Nos. Diolch o galon i griw Cut Lloi am eu cyfraniad hwyliog a safonol. Diolch i Danwydd Banw a Chwmni Ffermwyr Wynnstay am eu cefnogaeth ariannol. Bore Mercher, ffwrdd a ni yn y bws pinc - bws y Llydawyr - dros Fwlch yr Oerddrws ac ymlaen i Flaenau Ffestiniog i ymweld 芒 Llechwedd. Rhai'n ddigon dewr i fynd i'r pwll mawr. Treulio diwrnod yno a chael 'lobsgows' i ginio.

Ymlaen i Dalybont (Aberystwyth) i swpera - a'r cyfan wedi ei baratoi gan y Llydawyr! Ie, ar 么l diwrnod o brysurdeb. Galetiqs - math o grempog - oedd ar y fwydlen. A'r cytew (batter) wedi ei baratoi gan un o'r criw. Noson hwyliog dros ben. Arhosai'r dawnswyr yn Aberystwyth tan fore Sadwrn - rhaid oedd cael noson i ffarwelio - Fest Nos arall yn Llanbadarn Fawr.

Llwyddiant fu'r ymweliad yn sicr - gan ddiolch i bawb a fu ynglyn 芒'r ymweliad - plant yr ysgol a'r athrawon, Parti Cut Lloi ac yn arbennig Dewi Morris, Cadeirydd ein Cyngor Bro a ddyrchafwyd yn Faer! Mae'r Llydawyr yn awyddus i gael pob trefniadaeth yn gywir. Diolch Dewi.

Erthygl gan M. O.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy