大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Rhyfel yn Iraq Ffermio
Mai 2003
Y Rhyfel yn Irac

Mae nifer o ddigwyddiadau ar dro ar hyn o bryd sydd i gyd yn effeithio arnom fel ffermwyr. Y rhyfel sut bynnag yw'r un sy flaenaf yn y newyddion. Dechreuwyd y rhyfel hwn dan amgylchiadau amheus ac mae'n anodd gweld beth fydd yr effeithiau tymor hir. Mae'n amlwg eisoes bod y mater hwn yn fwy cymhleth ac angen mwy a amser i'w ddatrys nag roedd Bush a Blair yn meddwl. Fel canlyniad gwelwn barhad diffyg hyder ac ansicrwydd gyda busnes a'r marchnadoedd ariannol fel soniais amdanynt tro diwethaf. Hefyd effeithiau ar bris clew. Nid edrychwn ymlaen at angen archebu rhagor ond deallaf fod y pris wedi cwympo'n ddiweddar. Rhyfedd.

Mae'n ddiddorol dyfalu ynghylch pam roedd Tony Blair mor frwd dros y rhyfel hwn. Yn ystod trafodaeth am bleidleisio yn y Cenhedloedd Unedig, soniwyd bod yr UDA yn ceisio dylanwadu ar wledydd eraill. Bu s么n am gynigion cymorth ariannol, bygythiadau i stopio cymorth sy'n bod a gweithgareddau i wneud 芒 thariffiau a gwerth arian.

Gwyddom fod gan yr UDA bolisi dauwynebog ynglyn 芒 ffermwyr sef gwrthwynebu cymorthdaliadau yr UE yn nhrafodaethau'r WTO tra'n gwneud taliadau sylweddol i'w ffermwyr eu hunain. A oedd rhyw fath o bwysau ar Tony Blair, tybed? Dywedir y gall y maint o gymorth bwyd a fydd yn angenrheidiol yn Irac, godi prisiau marchnad y byd. A fydd lles i ni drwy hyn?

Erbyn i chi ddarllen hwn byddwn wedi cael etholiad y Cynulliad. Ar hyn o bryd nid oes Ilawer i'w glywed am hwn gyda'r prif s么n am iechyd ac ychydig iawn am amaethyddiaeth a chefn gwlad fel arfer. Hoffwn weld iechyd anifeiliaid yn hollal dan reolaeth y Cynulliad. Bu problemau gyda rhan DEFRA yn ystod Traed a Genau ac efallai y buasai rheolaeth yn hollol gan y Cynulliad yn rhoi i ni bolisi mwy effeithiol ar TB a hela.

Tybed os bydd amhoblogrwydd y rhyfel yn effeithio ar yr etholiad hwn ac yn arbennig, yn rhoi mantais i Blaid Cymru. Buasai'n ddiddorol gweld i ba raddau gallent weithredu eu polisiau a hefyd effaith llywodraeth wedi ei datganoli dan reolaeth plaid hollol wahanoi i'r llywodraeth yn Llundain.

Nigel Wallace


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy