大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Harold Bishop a Sarah! Fy nhaith i ben draw'r byd
Mehefin 2007
Sarah Vaughan yn ysgrifennu am ei phrofiadau yn ymweld 芒 Seland Newydd, Fiji ac Awstralia dros y misoedd diwethaf.
  • Fy nhaith i ben draw'r byd (Asia): rhan 2

    G'day! A dyma fi bellach yn mwynhau arfordir dwyreiniol Awstralia - prydferthwch y Great Barrier Reef! Ond fe ddechreuaf gyda Seland Newydd yn gyntaf.

    Fe gyrhaeddais Auckland n么l yn Chwefror - roedd cael glanio ar dir lle roedd pawb yn siarad Saesneg yn rhyfedd ond yn eithaf rhyddhad! Am ychydig roeddwn yn dal i siarad bach o Sbaeneg efo'r kiwis! Yn amlwg roeddynt yn edrych arnaf yn andros o hurt!

    Fe wnaethom logi campervan am y mis yn Seland Newydd - roedd cael dreifio eto yn hwyl! Bay of Islands oedd y gyrchfan gyntaf reit yn y gogledd - ardal andros o dlws, a chael mynd yn y shot jet yn hwyl! Yr adrenalin cynta' yn SN!

    Cawsom y cyfle i wylio sioe draddodiadol Maouri ym Waitangi a chael clywed am hanes arwyddo'r cytundeb (treaty). Roedd cael dysgu am eu hanes a'u diwylliant yn ddiddorol tu hwnt.

    Ar 么l dreifio i Cape Reinga penderfynom ddreifio ar hyd traeth nawdeg milltir enwog SN...ond roedd trwbwl gerllaw... ryw ffordd neu'i gilydd fe aethom yn hollol sownd a'r llanw yn dod i mewn! Ar 么l cael help llaw gan 诺r lleol a'i 4x4, bws 52 seater a towing tryc fe ddaethom yn rhydd... pedair awr a hanner yn ddiweddarach! Roedd y chwys yn diferu, roeddem yn poeni gymaint... er bellach mae modd chwerthin eto diolch byth!

    Fe gerddais y Tongario Crossing dros Barc Cenedlaethol Tongario - y golygfeydd yn anhygoel! Yma cafodd rhannau o'r ffilm Lord of the Rings eu ffilmio, fel Mount Doom! Wedi hyn fe wnaethom ymweld 芒 Helen a Wayne Bradley yn eu cartref - y croeso Cymreig yn amlwg! Braf oedd cael gweld Helen eto wedi cymaint o flynyddoedd!

    Roedd croesi o ynys y gogledd i'r de yn brofiad gwych hefyd - prydferthwch Picton yn anhygoel! Cymaint o lefydd tlws i ddallu'r llygaid; Milford Sound, Nelson, Mount Cook a chael nofio efo'r dolffins a chael gweld dau orca yn Kaikoura yn wefreiddiol!

    Wrth siarad 芒 theithwyr eraill roedd pawb yn canmol prydferthwch naturiol Seland Newydd ac yn bendant ni chefais fy siomi. Mae gan y ddwy ynys olygfeydd anghredadwy a chymaint o weithgareddau gwyllt i'w cynnig...cefais rafftio'r d诺r gwyllt yn y tywyllwch yn Waitomo, zorbio yn Rotorua (lle rydych yn bownsio lawr y mynydd mewn p锚l enfawr!), trecio ar rewlif y Fox a neidio allan o awyren yn Wanaka! Roedd hwn yn un o fy uchafbwyntiau!

    Neidio allan o awyren uwchben prydferthwch Wanaka - y m么r, llynnoedd a Mount Cook yn y darlun! Profiad bythgofiadwy oedd gweld y wlad o uchder o 15,000 troedfedd a hedfan uwch ei phen. Er y nerfusrwydd roedd y cyffro yn gryfach ac mae'n hollol amhosib disgrifio'r teimlad mewn ychydig o eiriau.

    Roeddwn yn drist o adael Seland Newydd ond eto, roedd nefoedd Fiji i ddod.... y d诺r tryloyw, y pysgod lliwgar a'r bobl groesawgar! Roedd y teuluoedd tlawd yn agor eu breichiau atom ac yn falch o gael rhannu profiadau 芒 ni. Roedd cael snorclo yn y d诺r yn anhygoel! Byd newydd digynnwrf o dan y cefnfor!

    Hedfan nesaf i Melbourne - dinas wefreiddiol! Roeddwn wrth fy modd yma, cymaint i'w wneud a'i weld. Ac yn amlwg roedd yn rhaid gwneud y 'Neighbours Tours'! Cael cwrdd 芒 Harold Bishop a Karl Kennedy yn ffab!!! Wedyn hedfan i Sydney a phrydferthwch pont yr harbwr, y t欧^ opera, yr ardd fotaneg a'r traethau yn wych. Eto dinas andros o fywiog.

    B没m yn Sw enwog Steve Irwin, roeddwn wrth fy modd yma. Cefais ddal Koala a neidr enfawr!!

    Mae arfordir dwyreiniol Awstralia yn hynod o dlws, Byron Bay a Lennox Head, Noosa, Hervey Bay (a Fraser Island lle bum yn dreifio 4x4 o gwmpas yr ynys!), y Whitsunday's ac wrth gwrs y Great Barrier Reef! Does dim stop ar y prydferthwch naturiol yma. Rwyf yn dal mor ddiolchgar fy mod yn cael gweld yr holl ryfeddodau, ac rwy'n gorfod pinsho fy hun yn aml! Dim ond tri mis sydd gennyf ar 么l bellach; Malaysia, Thailand, Laos, Cambodia a Tsiena i orffen ym mis Awst! Rwy'n cael profiadau anhygoel ac yn cael amser wrth fy modd! Gan obeithio bod holl ddarllenwyr y Plu yn iawn yn 么l yng Nghymru fach.
    Hwyl am y tro, Sarah. x

    Sarah Vaughan

  • Fy nhaith i ben draw'r byd (Asia): rhan 2

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy