´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Clawr CD Parti Cut Lloi CD Newydd Cut Lloi
Rhagfyr 2009
Hanes CD newydd Parti Cut Lloi, Y dyn Bach Bach

Mae pedair blwyddyn gron wedi diflannu ers i fois y Cut Lloi floeddio eu 'Henffych Well' ar gryno ddisg am y tro cyntaf.

Mae gŵr y Pentyrch wedi troi ei sylw at bethau amgenach, a gwalltiau y gweddill wedi britho, teneuo neu ddiflannu'n gyfan gwbl.

Mae'r boliau cwrw wedi gorchfygu, a dim ond Arabs, Fferm a Goetre allai ffitio'n esmwyth i siwtiau cyfyng y 'Men Aloud'!

Er hynny fe barha merch benfelen y Gardden yn ysgafn, gosgeiddig a hardd, er bod y Ilygaid yn pallu yn raddol fel y dirywia'r olygfa sy'n ymddangos o'i blaen bob nos Fawrth yn neuadd y Llan

.

Parhau hefyd mae'r miri a'r hwyl a gawn yng nghwmni ein gilydd, ac a rannwyd gyda thrigolion Washington dros yr haf.

Mae gobaith am drip i Lydaw a gwyl fawr Lorient yr haf nesaf - and disgwyl ydym o hyd am wahoddiad i ddiddanu y cyfryngis a'r 'celebs' ar Ian Afon Taf.

Efallai ein bod yn rhy ariannol ein naws. Gwerinol, hapus, braf yw ein cynulleidfaoedd hefyd. Pobl glen, cefn gwlad.

Mae ambell i hen gymeriad annwyl wedi troi ei sylw at helynt y 'Dyn Bach, Bach a'i Wraig Fawr, Fawr' dros y blynyddoedd ac mae'r cof yn frith am Garadog Puw, Ned Hywel ac Eddi Roberts yn adrodd eu hanes - 'ers talwm'.

Mae'n haeddu ei lie ar glawr y gryno ddisg ddiweddaraf. Mae blas y pridd arni ac ar weddill y caneuon a recordiwyd rai wythnosau yn ôl yn neuadd y Llan. Ein hetifeddiaeth ydynt, caneuon i'w trysori a'u mwynhau dros dro cyn eu trosglwyddo i do newydd o Loi bach addawol sy'n brysur ganlyn with ein sodle. Fe fu lansiad swyddogol yn y Cut Lloi yng ngwesty Cann Offis nos Lun 7fed o Ragfyr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý