Testun llawenydd i ni yn ardal 'Plu'r Gweunydd' yw fod y t卯m llwyddiannus a fu'n gyfrifol am sioeau bythgofiadwy Cwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn sef Linda Gittins, Penri Roberts a Derec Williams, bellach wedi mynd ati i sefydlu Ysgol Theatr Maldwyn i roi cyfleoedd theatrig i bobl ifanc o 11 i 15 oed. Roedd pobl ifanc mewn rhannau eraill o Gymru yn cael manteisio ers tro ar y cyfleoedd a gynigid gan Ysgol Glanaethwy ac Ysgol Gerdd Ceredigion a'u tebyg, ac mae sefydlu ysgol theatr fel hon yn mynd i fod o fudd mawr i'n hieuenctid ni. Daeth y criw at ei gilydd am y tro cyntaf ym Medi 2004 - 51 o ieuenctid Blwyddyn 7-9 o ysgolion uwchradd y Sir - a hynny yng Nghanolfan y Banw lle maent wedi bod yn ymarfer yn galed drwy'r tymor. Y sioe a ddewiswyd i'w pherfformio gyntaf oedd sioe Gareth Glyn a Cefin Roberts "3, 2, 1", sioe a ysgrifennwyd ar ddiwedd yr wythdegau. Perfformiwyd y sloe dair gwaith dros benwythnos yr 8fed a'r 9fed o lonawr, 2005 ac roedd y Ganolfan Hamdden yn Llanfair yn llawn i bob perfformiad. Gweithiodd y criw yn hynod o galed i baratoi'r diweddariad hwn o hanes Arianrhod a Llew Llaw Gyffes o'r Mabinogion ac roedd y gynulleidfa wedi rhyfeddu at eu dawn i ddysgu a pherfformio sioe o'r fath mewn cyfnod mor fyr. Mae'r criw wedi ailddechrau ymarfer y tymor hwn ac edrychwn ymlaen at eu perfformiad nesaf, a fydd yn cael ei gyflwyno mewn tair ardal ym Maldwyn rywbryd ym mis Ebrill neu Fai. Sefydlwyd Cymdeithas Rheini i gefnogi'r Ysgol Theatr ac i gynorthwyo gyda chodi arian tuag at y gweithgareddau. Cadeirydd y Gymdeithas yw Tom Jones, Plas Coch, yr Is-Gadeirydd yw Hywel Jones, y Drenewydd, yr Ysgrifennydd yw Jill Jones, Bryn Meurig, a'r Trysorydd yw Enid Jones, Melingrug. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at berfformiad nesaf Ysgol Theatr Maldwyn, a thybiwn, o gofio pwy sydd wrth y llyw, y byddwn yn clywed llawer mwy am y fenter gyffrous hon yn y dyfodol.
Adolygiad a lluniau o sioe Llwybr Efnisien (2007) a chlipiau sain o Penri Roberts yn siarad am Gwmni Theatr Maldwyn. Gwefan Y Drenewydd
|