Tybed faint ohonoch sy'n cofio hen blasdy Llysun ar ei draed? Rwyf yn ddiolchgar iawn i Mr Gwynfor Jones, Aberriw (Llysun gynt) am gael benthyg lluniau ac adroddiad papur newydd sy'n s么n am yr hen blasdy'n llosgi'n ulw yn Rhagfyr 1962.
Gerllaw'r t欧 presennol mae boncyn bychan, ac yno unwaith roedd castell mwnt a beili a ddyddiai'n 么l i gyfnod y Normaniaid, fel y gwelir ym Mathrafal neu Domen Gastell ger Llanfechain.
Mae Gutun Padarn (Parch Griffith Edwards) yn cyfeirio at 'Llysyn' yn ei lyfr ar hanes plwyfi pen uchaf Dyffryn Banw. Dywed fod Dr John Davies a Richards yn meddwl mai 'Llysdin' oedd yr enw gwreiddiol a olygai neuadd neu lys. Awgrym arall yw fod 'Llys' yn hannu o neuadd neu gwrt, ble roedd barnwyr y cwmwd neu'r ardal yn arfer eistedd.
Bu'n lle o bwys ar hyd y canrifoedd a lle coediog i hela oedd Parc (cartref Gareth, Sioned a Greta) gerllaw. Gelwir darn o goed heb fod ymhell yn Goed y Lodge hyd heddiw. leuan ab Bedo Gwyn oedd perchennog Llysun yn y bymthegfed ganrif, ac roedd yn ddisgynnydd o'r gangen ieuengaf o deulu Neuadd Wen, plasdy pwysig arall oedd gerllaw. Dywed y Montgomeryshire Worthies fod leuan ab Bedo Gwyn yn fardd a drigai yn 'Llyssyn' a bu'n llewyrchus rhwng 1530 a 1570.
Bu Llysun (neu Llyssin) yn eiddo i deulu'r Arglwydd Herbert o Chirbury (un o ragflaenwyr Arglwyddi Powys) am gyfnod ac yn 么l y Montgomeryshire Worthies, roedd yn cartrefu yn Llysun yn yr haf tua chanol yr ail ganrif ar bymtheg (tua 1660). Plas Lymore, ger
Trefaldwyn oedd eu prif gartref.
Ceir hanes am Richard, mab Edward Herbert yn dioddef ymosodiad ffiaidd ym mynwent Llanerfyl pan holltwyd ei benglog yn agored gan gryman, drwodd i'w ymennydd. Yn 么l y s么n, cerddodd y cyfaill adre i Lysun a gwellodd o'i glwyfau. Ceir cofnod yn hen ddogfennau Eglwys Llanerfyl fod sedd yr Arglwydd Edward Herbert, Barwn Chirbury ar ochr ddeheuol yr eil (aisle) ym mhen uchaf yr Eglwys.
Pobl eraill a fu'n byw yn Llysun oedd y teulu Gardner, rhwng 1809 a 1870. Mae'n si诺r eu bod yn deulu o gryn ddylanwad oherwydd gwelir tabled pres ar wal Eglwys Llanerfyl yn cyfeirio at y teulu hwn. Dywed yr arysgrifen fod y ffenestri yng nghangell yr Eglwys wedi'u rhoddi yn 么l ewyllys William Humphrey Gardner, yn wreiddiol o Llyssun er cof am ei daid Arthur Gardner a fu farw yn 1862, a'i nain Elizabeth Gardner a fu farw yn 1833 ynghyd 芒 nifer o aelodau eraill o'i deulu a enwir ar y dabled.
Dyma ychydig o hanes Llysun yn y gorffennol, a diddorol yw sylwi gymaint o wahanol ffurfiau a geir wrth sillafu'r enw.
Nid yw gofod yn caniatau imi olrhain mwy o hanes y lle, felly neidiaf ymlaen i 1931, pan ddaeth y diweddar Evan H. Jones (tad Gwynfor Jones) yno i ffermio, a bu farw yn 1954. Cymerodd Gwynfor y fferm drosodd ar 么l iddo briodi yn 1952. Mae'r adroddiad a ymddangosodd yn y County Times yn cofnodi'r digwyddiad pan losgwyd yr hen d欧. Roedd 21 o ystafelloedd yn hen ffermdy Llysun ac oedd y t芒n yn un o'r rhai gwaethaf a welwyd yng Nghwm Banw. Digwyddodd y t芒n yn ystod gaeaf caled 1962/63 a gwnaeth gwynt milain y dwyrain bethau'n waeth er gwaethaf ymdrechion diffoddwyr t芒n o Lanfair Caereinion, Llanfyllin, Y Trallwm a Threfaldwyn.
Dechreuodd y t芒n yn ystafell Evan, y mab ieuengaf ar y llawr uchaf ynghanol y t欧, tua 10.15 yn y bore, a dywedodd y bychan wrth Miss Gladys Swain y forwyn fod ei ystafell yn llawn o fwg. Aeth hithau i mofyn cymorth Berwyn Davies (Bryn Banwy heddiw) a Mr Jackie Williams a oedd yn bwydo'r gwartheg. Roedd Gwynfor a'i wraig yn bwydo defaid mewn caeau i ffwrdd o'r t欧 ar y pryd, a phan ddaethant yn 么l roedd y dynion yn cario popeth a fedrent allan o'r llawr isaf.
Collwyd yr holl ddodrefn ar y llawr uchaf ynghyd 芒'r rhan fwyaf o'r dillad ac anrhegion priodas ac eiddo personol. Dywed Gwynfor i'r lle "fynd i fyny fel matsien". Diolchodd na ddigwyddodd hyn yn ystod oriau'r nos pan oedd y teulu yn cysgu. Ni lwyddwyd i ddarganfod sut y bu i'r t芒n ddechrau.
Nid hwn oedd y t芒n cyntaf a fu yn Llysun. Roedd rhai o'r trigolion hynaf yn cofio t芒n arall a fu yn 1929 pan losgwyd llawer o'r adeiladau y pryd hynny.
Rwyf yn ddiolchgar iawn i Gwynfor a'i wraig am gael benthyg y lluniau ac am gael aralleirio'r adroddiad papur newydd. Credai mai da o beth yw cyhoeddi'r llun o'r hen blasdy oherwydd nid yw llawer iawn o drigolion yr ardal yn ei gofio fel yr oedd.
Erthygl gan Alwyn Hughes