´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Plentyn yn chwythu swigen Ymweliad â Nepal
Awst / Medi 2007
Mae Les Smith sydd yn byw yn y Foel yn mynychu dosbarth dysgu Cymraeg Marion Owen yng Nghanolfan y Banw. Bu Les yn Nepal yn ddiweddar ac mae wedi sgwennu am ei antur yn yr erthygl isod.

Pan ddarllenais i lyfr chwe deg mlynedd yn ôl, darllenais stori am ddau ddringwr o Brydain - Mallory ac Irvine. Bu farw'r ddau yn trio cyrraedd copa Everest yn 1924. Os gwn i pam?

Gwelais raglen ar y teledu - roedd Brian Blessed wedi gwneud tair ymdrech i wneud yr un peth. Gwnaeth hyn i mi feddwl y gallwn i fentro gwneud hyn ryw ddydd. Ond ym mis Gorffennaf 2006 clywais ar Radio 4 fod Prifysgol Llundain yn chwilio am 208 o wirfoddolwyr i bwrpas ymchwil meddygol. Diwrnod yn unig aeth heibio cyn i mi gysylltu â nhw.

Holl bwrpas hyn yw:
Gwella cyfleoedd byw i gleifion mewn gwlad arbenigol
Diffyg ocsigen yn y gwaed
Arolygu sut mae hyn yn effeithio yn feddyliol ac yn gorfforol ar bobl iach a gwneud iddynt gerdded i fyny'r mynydd.

Roedd rhaid i ni gadw'n iach, yfed llawer o ddŵr a cherdded yn araf i fyny'r mynydd. Bu rhaid i ni gerdded i fyny'r Wyddfa o Pen y Gwryd yn cario wyth cilo o offer. Rhaid oedd cael prawf bod dydd am hanner awr ar ôl ymarfer. Rhaid oedd treulio hanner diwrnod am 5 diwrnod yn dringo'r mynydd.

Dyma gychwyn y daith

Hedfan o Fanceinion i Nepal ar fy mhen blwydd yn 68 - fy ymweliad cyntaf ag Asia. Mae dinas Kathmandu yn llawn bywyd, llawn traffig, tlodi a thrigolion balch golygus. Daeth 14 o gerddwyr i gyfarfod â'r arweinydd - gŵr â gwybodaeth eang am fynyddoedd dros y byd. Roedd 6 ohonynt yn gweithio yn y byd meddygol. Hedfan eto mewn awyren fechan i Lukla - profiad arbennig o lanio i fyny'r rhiw ar lanfa gul dim ond 100 llath o hyd! Cyfarfod yno â'r pedwar "Sherpa" a phedwar "iac" oedd i'n helpu a chario popeth bron.

Chewch chi ddim ond manion o'r 17 diwrnod nesaf. Cerdded ar dir oedd yn bonciau a phantiau, tir garw a serth mewn mannau. Roeddem yn cysgu mewn lletyau cyntefig ran amlaf; yn bwyta llysiau, wyau a phasta. Doedd cyfleusterau ymolchi ddim mor ddrwg ag yr oeddem yn ddisgwyl. Roedd y gweithwyr yn garedig; yn barod eu cymwynas. Roedd y tywydd yn boeth ac yn oer bob yn ail; roedd yn anodd anadlu ac aeth pethau yn waeth - roedd yn waith caled newid eich sanau hyd yn oed.

Roedd y pontydd yn siglo ac yn hwyl! - yn croesi afonydd chwyddedig - yn enwedig os nad oedd iac yn dod i'ch cyfarfod!! Roedd gennym arweinydd rhagorol. Roedd un o'r cwmni yn dioddef o salwch mynydd wedi 4 diwrnod. Roedd anadlu yn anodd iawn, a phrofion yn flinderus ond roedd pawb yn cefnogi nail a'r llall ac rydym yma i ddweud y stori!

Roedd y mynyddoedd yn ysblennydd. Yn y camp wrth droed Everest roeddem mewn pabell i ddau ar dir a'i arwynebedd gyda meini enfawr a chreigiau rhydd ar wyneb rhewlif oedd yn gwichian. Cawsom y cyfle i gyfarfod dringwyr 'go iawn' ar eu ffordd yn ôl o'r copa. Yma clywsom y newydd trist am farw dringwyr ar y mynydd y diwrnod hwnnw. Yn ystod y nos, roeddem yn clywed cwymp eira oddi ar y mynyddoedd agosaf. Prin y gallem weld copa Everest o'n gwersyll 17,500 troedfedd gan fod y copa 12,000 troedfedd yn uwch.

Hanner yr amser gymerodd hi i ni ddychwelyd ond roedd yn ymddangos mor galed â'r daith i fyny. Wedyn ymlacio yn y gwesty ac ymweld â'r rhyfeddodau! Hwre!

Mae'r ddelwedd o'r mynyddoedd bendigedig yn dal ar fy nghof; ac rwy'n deall yn awr pam fod pobl ddewr yn peryglu eu bywydau i gyrraedd y mannau uchel hyn. Ond anghofia i byth dragwyddol y siwrne na phobl Nepal a'u balchder a'u hagosatrwydd.

Les Smith


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ´óÏó´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý