Croesawodd y Cadeirydd, Mr Gwyndaf Richards, bawb yno a chydymdeimlodd 芒 theuluoedd y diweddar Mr Tom Jones, T欧 Cerrig a Mr Alun Jones, y Foel. Cyflwynodd Alwyn Hughes eitemau amrywiol o ardaloedd o fewn cylch y papur, a gwnaeth pawb ei waith yn ardderchog. Rhwng yr eitemau cyflwynodd Alwyn ddetholiad o farddoniaeth amrywiol a ymddangosodd yn y Plu dros y chwarter canrif ddiwethaf. Roedd arddangosfa yno o luniau'r gorffennol ynghyd 芒 chyfle i weld lluniau ar y cyfrifiaduron a brynwyd gydag arian y Loteri. Mwynhaodd bawb baned a thamed a gacen hardd a goginiwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Roedd pawb o'r farn fod hon yn noson gartrefol gydag eitemau o safon. Chwyddwyd coffrau'r papur gryn dipyn gydag elw'r noson. Ymlaen 芒 ni am yr hanner canrif!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |