大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Plentyn yn dal gafr fach Cysylltu Maldwyn ag Uganda
Rhagfyr 2003
"O ffermwr i ffermwr am well dyfodol". Yn 1990 fe gasglwyd swm sylweddol o arian gan Ysgol Uwchradd Llanfyllin ar gyfer adeiladu ffynhonnau yn Uganda a theithiodd esgob o'r wlad honno i Lanfyllin i dderbyn y siec.

Fe welodd milfeddyg o'r dref y digwyddiad hwn fel cyfle i sefydlu cysylltiad rhwng Maldwyn ac Uganda. Yr oedd gan Lorna Brown, milfeddyg sydd yn adnabyddus yn lleol, ddiddordeb eisoes mewn cynorthwyo datblygiad amaethyddol gwledydd Affrica.

Meddai, "Pan es i draw y tro cyntaf i Uganda, roedd yn syndod i mi y prinder adnoddau yn eu cefn gwlad. Roedd yn frwydr ddyddiol i'r mamau wrth iddynt fethu a bwydo eu plant. Er bod y bridiau lleol o wartheg a geifr wedi'u haddasu at yr hinsawdd, nid oeddent yn ddigon cynhyrchiol".

Ymunodd Lorna a Richard Jones, dyn lleol a oedd yn rhannu ei syniadau a'i dyheadau, i sefydlu cangen Gymreig Farmers World Network sef Dolen Ffermio. Esboniodd Richard Jones yr hanes gwleidyddol yri fyr i minnau. "Dioddefodd diwydiant amaethyddol Uganda yn fawr o dan lywodraeth unbeniaethol Idi Amin (1971-1985). Gwaharddodd fewnfudiad ac allfudiad da byw a dinistriwyd gwartheg y wlad. Felly roedd rhaid i'r ffermwyr gwledig ailgychwyn".

Pwrpas Dolen Ffermio yw nid yn unig cynorthwyo hyn, ond hefyd i gyflwyno technolegau newydd iddynt er mwyn gwella safon a chynhyrchedd eu da byw, fel y gallant fwydo'u teuluoedd a derbyn incwm dibynadwy o'u gwaith.

Fel y darganfu Lorna a Richard, mae'r ffermwyr yn awyddus i ddysgu ac yn barod i arbrofi gyda dulliau newydd. Mae hanes grwp o wragedd gweddw yn prynu tanc llaeth i rannu rhyngddynt, yn dangos yr ymdrech a'r cydweithio sy'n digwydd. "Mae'n anodd credu faint mae'r bobl yma wedi byw trwyddo", dywedodd Lorna "dydyn nhw ddim yn cwyno nac yn edrych am gydymdeimlad, maent yn gweithio'n ddygn ac yn benderfynol o oroesi a llwyddo!"

Mae ymgyrch Dolen Ffermio yn amlygu pwysigrwydd gweithio'n rhyngwladol a'r modd gall ffermwyr o bedwar ban byd rannu eu syniadau a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Anwen Richards, Llwydiarth


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy