大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Arloeswyr Maldwyn
Awst 2005
Helena Jones yn trafod dau o arloeswyr Maldwyn, y Parch John Davies a Thomas Jones, a roesant wasanaeth arbennig fel arloeswyr ar y meysydd cenhadol.
Ar wah芒n i ymfalchio yn eu beirdd, emynwyr, llenorion a cherddorion, gall Maldwyn ymfalchio yn y cenhadon a fagwyd yn y Sir, rhai a roisant wasanaeth arbennig fel arloeswyr ar y meysydd cenhadol.

Yn eu plith yr oedd y Parch John Davies, Tahiti a anwyd ym Mhencaedu, Llanfihangel yn y flwyddyn 1772. Cafodd ychydig addysg yn ysgolion Madam Bevan a bu yn cadw ysgol am gyfnod yn Llanrhaeadr Y.M.

Pan ddaeth cais am athrawon i fynd i Ynys Tahiti, barnwyd fod John Davies yn gymwys i'r gwaith, ac aeth ef a'i briod allan i'r ynys yn 1801 wedi mordaith anodd ac araf iawn. Llafuriodd yno am hanner can mlynedd heb unwaith ddychwelyd i'r wlad hon. Cyfarfu 芒 llawer o anawsterau a daeth llawer o ofidiau i'w ran, ond drwy'r cyfan daliodd yn ffyddlon i'w Arglwydd.

Cyfieithodd rannau o'r Beibl ac emynau Cymraeg i iaith y brodorion. Cyfieithodd 'Daith y Pererin' ac amryw o lyfrau a hynny yn ei flynyddoedd olaf dan anfantais oherwydd, bu iddo golli ei olwg. Bu farw Awst 1855. Flynyddoedd yn 么l bellach cynhaliwyd cyfarfod i'w goffau ym Mhontrobert y fro lle;i ganwyd.

Y cenhadwr Thomas Jones
Yn y flwyddyn 1810, ganwyd cenhadwr arall, yn Nhanyffridd Llangynyw sef Thomas Jones. Y cenhadwr cyntaf o blith y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg ar Fryniau Casia. Yr oedd Thomas Jones yn un o ddeg o blant Edward a Mary Jones. Pan oedd Thomas Jones yn dair oed symudodd y teulu i Lerpwl a buont yno chwe blynedd cyn dychwelyd i Faldwyn. Yna cartrefodd yn Aberriw, ac yno y dysgodd Thomas Jones grefft saer coed a helpu gyda'r gwaith ar y fferm a bu'r cyfan yn gymorth mawr iddo yn ei arloesi ar Fryniau Casia.

Yn 1840 hwyliodd ei briod ac yntau am Fryniau Casia. Dywedir i'r fordaith gymryd pump mis namyn dau ddiwrnod i'w chwblhau. Yno buont yn llafurio yn ddyfal hyd 1849. Cyfarfu Thomas Jones ag anawsterau mawr. Ei dasg cyntaf oedd dysgu'r iaith a cheisio dysgu'r bobl.

Yn 1842 agorodd dair ysgol. Dysgai nifer o fechgyn ifanc yn ei gartref er mwyn eu cael yn athrawon yn yr ysgolion. Cyfieithodd rannau o'r Testament Newydd. Ysgrifennai lyfrau syml, a chyfieithodd y Rhodd Mam i'w hiaith. Dyma meddir oedd dechrau Ilenyddiaeth Kasia.

Dysgodd lawer o grefftau i'r bobl. Dyna a gofnodir ar ei feddfan yn Calcutta: "In loving memory of Rev. Thomas Jones The Founding Father of the Kahsia Alphabet and Literature and the pioneer of the Welsh Presbyterian Mission in the Khasi Hills'. Bu iddo farw yn nh欧 cyfaill iddo yn Calcutta ar 16 Medi 1849 wedi oes a llawer o brofiadau a threialon.

Erthygl gan Mrs Helena Jones a wobrwywyd yn Eisteddfod Bethlehem, Soar a Phentyrch eleni.


Cyfrannwch

Oliver Prys-Jones, o Ddinbych
Wnes i fwynhau eich erthygl ynglyn a Thomas Jones, diddorol iawn. Dw i'n ddisgynnydd o'i fab (trwy briodas). Yn anffodus dw i ddim yn siarad Cymraeg ond mae gynna i ddiddordeb i ddysgu mwy amdano fo ac ei fywyd. Mi faswn i'n ddiolchgar i'ch gysylltu chi. Blwyddyn Newydd Dda


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy