Mae Marek ac Ann Lowther, Y Felin wedi trawsnewid rhan o hen siop a garej Llangadfan yn siôp gwerthu canŵs o'r enw Dragon River.
Gofynnais i Ann o ble daeth y syniad i werthu canŵs.
Roedd Marek a hithau mae'n debyg yn mwynhau canŵio tra roeddent yn y Coleg ac roeddynt yn awyddus i sefydlu busnes yn yr ardal y byddai eu meibion yn gallu ymuno â fo oes byddai diddordeb ganddynt yn y dyfodol.
Roedd hi hefyd yn ei weld o'n safle delfrydol gan nad oedd unrhyw fenter debyg o fewn cryn bellter a bod cynnydd enfawr yn y blynyddoedd diwethaf mewn gweithgareddau awyr agored.
Mae llawer o bobl ifanc yn cael gwersi canŵio bellach yng Nghanolfan Hamdden y Flash yn y Trallwng ac wrth gwrs Gwersyll Glanllyn.
Maent wedi trawsnewid yr hen garej yn lle ar gyfer storio canŵs a kyaks o bob math, lliw a maint. Mae'r canŵs yn cael eu gwneud o wydr-ffibr mewn ffatri ym Mryste.
Yn yr hen siôp maent yn gwerthu dillad a phob math o offer addas ar gyfer unrhyw un sydd am ddechrau canŵio.
Roedd Ann yn gweld digon o botensial yn yr ardal gyda Llyn Llanwddyn, Afon Efyrnwy, Afon Banwy a'r Afon Gam yn addas ar gyfer y diddordeb.
Ynghyd â'r siôp maent am sefydlu gwefan fydd yn rhoi cyfle i bobl archebu canŵs dros y we.
Yn y dyfodol mae Ann yn gobeithio y byddai'n bosib llogi canŵs i ymwelwyr am y diwrnod.
Digon digalon yw pethau yng nghefn gwlad ar hyn o bryd ac mae'n braf gweld rhywun lleol yn fodlon mentro a dymunwn bob llwyddiant iddynt.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |