Ar Ddydd Sul, 13eg Rhagfyr, cynhaliwyd Gwasanaeth Carolau arbennig yn Eglwys Y Santes Fair yn y Trallwm i ddod a blwyddyn o ddathliadau pen-blwydd y Ffederasiwn yn 90 oed i ben.
Cynhaliwyd dathliadau trwy'r sir yn ystod y flwyddyn. Croesawyd pawb gan y Ficer, Y Parch. Bill Rowell.
Yna cafwyd eitemau gan Gôr Sefydliad y Merched Y Ffordun gyda Kate Fairclough, unawdydd, a Catherine Fairclough a Gareth Vaughan yn canu deuawd.
Cafwyd darlleniadau gan aelodau'r pwyllgor gweithredol. Yr organydd oedd Andrey Chulovskiy. Aeth y casgliad at gronfa Nyrsys MacMillan yr Eglwys, a mwynhawyd mins peis a phaned wedi'r gwasanaeth.
Llywydd y Ffederasiwn yn ystod y tair blynedd ddiwethaf oedd Claire Newland, ac mae Margaret Peet yn cymryd yr awenau o'r mis hwn.
|