´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Parti Cut Lloi Wedi mynd i Washington
Gorffennaf 2009
Hanes Gŵyl Bywyd Gwerin y Smithsonian yn Washington.

Oedden nhw am fynd...neu...oedden nhw am aros adre? Dyna oedd cwestiwn mawr y ganrif. Ond fel y gwelwch o'r Ilun uchod mae Parti Cut Lloi bellach wedi ffarwelio a Dyffryn Banw ac wedi hedfan i Washington bell.

Maent wedi mynd i gymryd rhan yng Ngŵyl Bywyd Gwerin y Smithsonian Ile mae rhywfaint o faes yr wyl eleni wedi ei gosod ar gyfer dathlu treftadaeth Cymru.

Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i erioed wedi clywed am yr ŵyl hon tan 'leni ac felly penderfynais wneud ychydig o ymchwil i mewn i'w chefndir.

Ym 1826 gadawodd gwyddonydd Prydeinig o'r enw James Smithson dros 100,000 sofren aur yn ei ewyllys ar gyfer sefydlu y Smithsonian Institution yn Washington.

Roedd am greu sefydliad a fyddai'n cynyddu gwybodaeth ymysg dynion am dreftadaeth a diwylliant eu cyd-ddyn.

Bellach mae gan Sefydliad y Smithsonian nifer fawr o amgueddfeydd o amgylch y Mall yn Washington ac ers 1967 trefnir gwyl enfawr am bythefnos bob mis Gorffennaf i ddathlu traddodiadau diwylliannol o bob rhan o'r Unol Daleithiau ac o bob rhan o'r byd.

Mae dros 150 o Gymry wedi hedfan i Washington i gymryd rhan yn yr wyl eleni, bydd cantorion fel Parti Cut Lloi, Sian James, Linda Griffiths ac Only Men Aloud yn diddanu'r ymwelwyr.

Bydd beirdd, dawnswyr a storiwyr hefyd yn diddanu'r miliwn o bobl a ddisgwylir i ymweld a'r safle. Mae Christine Mills a nifer o artistiaid eraill yno yn hyrwyddo ein diwylliant celf a David Vickers o Wasg Gregynog yn arddangos ei grefft ynghyd a Ilawer o fusnesau 'gwyrdd' sydd yn hyrwyddo cynaliadwyedd Cymru.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý