大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Parti Cut Lloi yn Lansio CD
Rhagfyr 2005
Parti Cut Lloi yn rhyddhau CD newydd sy'n adlewyrchu'r mwynhad a gawsom dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Fe dara ryw chwant ar bob g诺r o dro i dro i droi ei gefn ar ei fywyd undonnog, di-fflach a throi i mewn i'r Cut Lloi am gyfathrach gyda'i gyd-ddyn - i drafod pris y farchnad, cymhlethdod y t芒l sengl, hynt a helynt ein timau p锚l-droed lleol a chenedlaethol - i dynnu coes, ac os oes yr awydd neu'r amser, ac un o fechgyn Moeldrehaearn o gwmpas, i geisio taro c芒n, gan obeithio y deil mwy na'r pennill cyntaf yn y cof.

Nid oes ond un Cut, ac mae lloi Cwm Banw o fr卯d go arbennig - wedi eu dwyn i fyny 芒'r glaw m芒n ar eu cefnau, yn troedio rhwng y brwyn a'r rhedyn gydag un llygad ar Ddolymaen am arwydd o'r gawod nesaf. Allan o'r niwl a'r glaw mynydd fe droediodd ambell i gymeriad annwyl a lliwgar megis Ifan Pantgwyn, Jonnah Breese, Swd Llertai, Ifan Gribin a Sam Bach drwy'r drws dros y blynyddoedd ac fe'i cedwir yn agored heddiw gan griw bychan, selog yn cynnwys y 'Tri Myscatiwr' - Dani, Ffranco a Phandy. Gwelir ambell i lo o fr卯d tramor, neu o dros y ffin, yn troi i mewn ac ambell i heffer ddewr yn mentro setlo lawr ynghanol y testostarone - ond ychydig yw'r rhai sy'n gallu dygymod 芒'r nosweithiau tawel, gaeafol hynny pan fo'r sgwrs yn ogystal 芒'r cwrw yn fflat.

Lloi o'r un tras sy'n mynychu'r Parti hefyd. Meibion ac wyrion y rhai a drodd i mewn i'r Cut dros y blynyddoedd - neu a ruthrodd heibio ar eu ffordd i'r cwrdd a'r cyngerdd. Yr un yw'r sgwrs, yr hwyl a'r asbri, hyd yn oed ym mhresenoldeb merch benfelen y Gardden - nid oes wrth ryw barchusrwydd dibwys, rhyw reolau caeth - yn hytrach pawb yn ceiso neu gynnig ei farn ar ystyr ryw air dieithr, neu ar sut yn union yr arferai ei dad neu ewythr ganu'r d么n dan sylw. Dadlau ond dim pallan - cyn i Si芒n yn y diwedd gael ei ffordd ei hun - yn ufuddhau ac yn sefyll mewn dwy res daclus. Rhaid wrth ddisgyblaeth, oes ond rhaid hefyd wrth ryddid i ddatblygu talent, a chaiff ambell i unigolyn drwydded i ddiddanu yn ei ffordd ei hun - cyfrifoldeb yn ogystal 芒 braint.

Wele'r Cut, wele'r Parti. Wele'r sbort, y chwerthin a'r doniolwch. Wele hefyd y cydymdeimlad a'r consyrn wrth glywed am golli mam neu salwch yn ein plith - neu am un o'r bois mewn trybini. Wedi'r cyfan maent i gyd yn perthyn (wel bron i gyd) - er nad oes sicrwydd o ble y treiddiodd y Tarw bob tro!

Rhwydd hynt i'r CD. Gobeithio ei bod yn adlewyrchiad teilwng o'r mwynhad a gawsom dros y ddwy flynedd ddiwethaf yng ngwmni Si芒n ac yng nghwmni'n gilydd a ffrindiau hen a newydd o bob rhyw a gyfarfuom mewn gwahanol rannau o'r hen wlad.

Erthygl gan Alun Jones


Cyfrannwch

Menna Jones o Gynllwyd
Dwi'n dipyn o ffan o'r cogie - a dydy eu canu nhw ddim yn bad chwaith Wa!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy