大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Y lleianod Trin y cleifion yn India
Awst/Medi 2006
Hanes Sarah Davies o Bontrobert sydd wedi bod yn gweithio mewn Hosbis yn Bangalore, India.

Mae teithio'r dyddiau yma wedi ei gwneud yn hawdd i sawl un, ac fel llawer dwi wedi cael y cyfle i drafeilio i Ewrop. Ond mae cael y cyfle i fynd tipyn bach ymhellach yn gyffrous iawn.

Fel un sy'n gweithio yn y Severn Hospice yn yr Amwythig, daeth y cyfle yma i mi ddwywaith. Mae'r Hosbis wedi ei gefeillio 芒 Hosbis yn Bangalore, India, o'r enw Karunashraya. Felly efo'r t卯m o Amwythig, daeth y cyfle nid yn unig i weld India, a'i holl ysblander, ond i deithio a dysgu yn Karunashraya yn India.

Mae t卯m yr Hosbis yn cynnwys doctoriaid, nyrsys, gweithwyr gwirfoddol ac yn y blaen. Mae'r prif feddyg o'r Amwythig wedi bod sawl gwaith efo t卯m gwahanol ac mae ganddo gysylltiad cryf ag India, ond yn enwedig efo Karunashraya.

Braint
Mae'r tripiau yma yn cael eu trefnu i gyd-ddigwydd 芒 chynhadledd Cymdeithas Gofal Lleddfol yr India. Mae'r gynhadledd yn symud o un rhanbarth i'r llall o flwyddyn i flwyddyn. Mae rhai o'r t卯m yno fel siaradwyr, ac mae pob un o'r t卯m yn cal y cyfle i fod yn rhan o'r gynhadledd. Braint ydy cael bod yno a chael y siawns i weld y gwaith cyson a chaled sy'n cael ei wneud yn y wlad, lle mae'r mwyafrif mor dlawd.

Mae'r gynhadledd yn ceisio anelu tuag at yr un neges, sef sicrhau dealltwriaeth o ofal beddfol - nid yn unig yn y byd meddygol ond yn myd y dyn cyffredin. Gwlad amrywiol iawn yw'r India. O ucheldiroedd ac oerni'r Himalayas yn y gogledd i waelodion cynnes a thraethau'r De ac wrth deithio'r wlad roeddwn yn lwcus iawn i brofi'r ddau begwn yma. Mae'r byd yn un ffeind os ydych yn cael y cyfle i weld yr haul dros yr Himalayas. and mae'r byd yn un creulon wrth weld dinistr ar 么l trawiad y Tsunami, a'i effaith ar ddyn.

Er mai rhan o wyliau oedd y tripiau yma, rhaid cofio fy mod wedi mynd yno i wneud tipyn bach o waith! Wedi codi'n fore a gwisgo'n barod i fynd am y wardiau, roeddwn yn cofio bod y lleianod a welir yn y llun uchod wedi bod wrthi am oriau.

Dim NHS
Mae'r Hosbis yn Bangalore yn gallu cynnal hyd at 40 o gleifion a dim ond 7 lleian sydd ar gael fel nyrsys trwyddiedig. Mae merched ifanc lleol yn estyn cymorth i'r lleianod ddydd a nos ac yn dysgu wrth fynd ymlaen. Dyma'r rhai sy'n gyfrifol am waith o ddydd i ddydd yr hosbis. Maent yn gwneud gwaith ardderchog wrth ddelio efo sefyllfaoedd anodd iawn, fel prinder llawer o ddefnyddiau a meddyginiaethau yr ydym ni yn eu cymryd yn ganiataol. Does dim NHS yn India. felly rhaid talu am y peth lleiaf, fel prawf gwaed, felly rwy'n trio peidio 芒 chwyno gormod am yr NHS!

Mae'r hosbis, fel sawl un yn India a thrwy'r byd, yn cael ei chynnal gan elusennau a charedigrwydd y rhai sy'n gallu rhoi, ac er tlodi rhai, er erchylltra eu salwch, mae'r bobl yn fodlon ac yn hapus eu byd. Wrth weithio ar y wardiau, cawsom gyfle i ddeall gwaith y gwahanol bobl oedd yn helpu'r Hosbis i weithredu, fel y meddygon (tan yn ddiweddar dim ond un meddyg oedd yna i 40 o gleifion), y gweithwyr gwirfoddol sydd yno i helpu fel y gallant, gweithwyr cymdeithasol sydd yn cynorthwyo'r cleifion a'r teuluoedd, a sawl un arall, fel y dyn diogelwch a'r glanhawyr.

Un o'r profiadau mwyaf gwerthfawr i mi oedd y cyfle i fynd allan efo nyrs Hosbis y cartrefi. Fel yma ym Mhrydain, mae tuedd tuag at geisio cael cleifion i gael aros adre i farw. Ond rhaid cofio maint poblogaeth Bangalore - tua 6 miliwn, a does dim nyrsys cymunedol fel yma. Felly o'r hosbis, mae dwy yn mynd allan i geisio tendio ar gleifion yn eu cartrefi. Profiad oedd yn gwneud i mi deimlo yn ostyngedig iawn oedd cael mynd efo'r ddwy yma a chael fy nghroesawu i dai, ystafelloedd a chytiau oedd yn gartrefi i bobl Bangalore.

Bob dydd byddem yn clywed am ryw ryfel neu'i gilydd - llawer yn enw ffydd. Un peth y tynnodd y prif feddyg fy sylw ato oedd sut mae pobl o wahanol ffydd yn gallu byw efo'i gilydd yn India, ac esiampl o hyn oedd y claf a welon ni yn ei gartref. Yr oedd yn Gristion ond cymdogion Hindwaidd a Mwslemaidd oedd yn rhoi'r cymorth mwyaf iddo. Da oedd cael gweld, os ydy dyn yn trio'n ddigon caled, ei bod yn hawdd cyd-fyw.

Wrth gael y cyfle i weithio gyda, a chwrdd cymaint o bobl wahanol, rwyf wedi bod yn lwcus iawn. Mae'r profiadau yma wedi bod yn anhygoel, ac fe gofiaf amdanynt am amser maith.

Gan Sarah Davies


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy