大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Frizbee G诺yl Maldwyn 2006
Gorffennaf 2006
Hanes g诺yl llwyddianus arall yn Maldwyn 2006.

"Mae 'na le i'r 诺yl yma, ddyn" oedd sylw treiddgar Arwyn T欧 Isa, un o hoelion wyth diwylliant yr ardal, ar ddiwedd G诺yl Maldwyn.

Yn anffodus, roedd 'na le i lot mwy o bobol yn y babell yn ogystal eleni. Pam hynny tybed? Oedd pris tocyn yn rhy ddrud i'r werin dlawd? Ddylai Frizbee fod yn perfformio'n hwyr y nos yn hytrach na ganol pnawn? Ddylai 'na rhywun o dan dri deg oed fod ar y pwyllgor? Ddylai'r babell fod yn nes fyth i Cian? Neu oedd y cant o bobol arhosodd yn Cian nos Sadwrn yn hytrach na mynd am y babell jyst yn uffernol o ddiog??

Oes, mae 'na bethe i edrych arnyn nhw wrth drefnu'r 诺yl nesa, ond bobol bech mi oedd 'na hwyl i gel yn y babell 'na 'leni!

Un o nifer o uchafbwyntie'r 诺yl i fi oedd slot Y Brodyr Jones nos Sul, yn enwedig pan gamodd un o enwogion s卯n gerddorol Cymru ar y llwyfan i ganu efo nhw! Uchafbwynt arall oedd set wych Frizbee, ac un arall yn ddi-os oedd perfformiad Y Bardd Cwsg nos Wener! Roedd o'n lwcus o Iwan Llwyd i'w sadio a'i helpu i'r llwyfan!

Peth braf oedd gweld cymaint o bobol yn y babell i wrando ar yr ymryson. Rhoddodd Mei Mac y wobr gyntaf am yr arlunio i Emma Haf Morgan, Ysgol Llanerfyl, allan o ddwsine o luniau. Matilda, Ysgol Uwchradd Caereinion enillodd am farddoni, ac yn yr adran cynradd h欧n lestyn Davies, blwyddyn 5, Ysgol Dafydd Llwyd oedd yn fuddugol efo Aimee L.B, ac Ysgol Rhiwbechan yn fuddugol yn yr adran iau. Mae pwyllgor yr 诺yl yn addo fod y gwobre ar eu ffordd i chi'i gyd!

Tim y Cian a "feinciwyd" fel enillwyr yr ymryson. Diolch i Maurice T欧'n Rhos, Dolanog, am ei garedigrwydd yn rhoi'r hen fainc hynod yn rhodd i'r 诺yl. Hen fainc o Cae Eithin, Dolanog, yn wreiddiol. Diolch i Tycyr am ei staenio a'i phitshio! Da oedd gweld Pryderi yn yr ymryson, er iddo gael ei enllibio yn un o adroddiade d'wetha'r 诺yl yn y Plu.

I'r rhai oedd yn ddigon ffodus/hurt i fod ar 么l yn y babell tan dri o'r gloch nos Sadwrn/bore Sul, cafwyd perfformiad gwych gan Rhiain Bebb ar y delyn wrth y bar, yng nghwmni Geraint Lovgreen ac ambell dalent arall. Yno hefyd 'oedd rhyw impostyr oedd yn honni ei fod o'n dod o Lanuwchllyn, and gan nad oedd genno' gliw sut i ganu cerdd dant go brin ei fod o'n d'eud y gwir.

"Gwefreiddiol" oedd sylw un am berfformiad Linda a Lisa Healy, "Uchafbwynt yr 诺yl" oedd sylw un arall am berfformiad Arfon Gwilym. Pawb 芒'i broblem ddeda i!! Welwn ni chi fwyddyn nesa'.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy