´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Ken a'i wyresau yn sefyll ar safle'r damwain Cofio Peiliot Pencroenllwm
Ebrill 2008
Hanes Peilot Lt. Arthur C. Jenkins o Virginia UDA hedfanodd awyren Thunderbolt P-47 a ddaeth i lawr ger tÅ· Pencroenllwm, Rhiwhiriaeth ar Orffennaf 28 1944.

Fe soniais am rai awyrennau a ddaeth i lawr yn yr ardal hon eisoes, a'r tro hwn hoffwn sôn am un arall a blymiodd i'r ddaear ger tŷ Pencroenllwm, Rhiwhiriaeth ar Orffennaf 28, 1944.

Awyren Thunderbolt P-47 ydoedd hon a'r peilot oedd Lt. Arthur C. Jenkins o Virginia UDA a hedfanai awyrennau o faes awyr Americanaidd yn Atcham, Sir Amwythig. Roedd y peilotiaid yn ymarfer hedfan yn isel mewn paratoad ar gyfer rhyfel. Roedd y Thunderbolt yn awyren hynod o bwerus gydag injan 2300 'horse power' a chyflymdra uchaf o 427 m.y.a. Roedd ganddi wyth gwn a medrai gludo bomiau yn ogystal.

Arferai'r peilotiaid ymarfer yn barau, a phartner Lt. Jenkins oedd Lt. Reese (Americanwyr o dras Cymreig tybed?) Daeth y ddwy awyren dros Lanfair ac fe'u nodwyd gan David Jones a'i bartner a weithiai gyda'r ROC, (Royal Observer Corps) mewn adeilad bach ar Gae Boncyn a adwaenid yn P3. O fewn ychydig, dychwelodd un o'r awyrennau yn ôl dros safle'r ROC ac roedd yn amlwg fod rhywbeth wedi digwydd i'r llall.

Erbyn hynny, roedd awyren Lt. Jenkins wedi mynd i mewn i gymylau isel, ac fel y daeth allan o'r cymylau, gwelodd dŷ Pencroenllwm yn union o'i flaen. Trodd yn sydyn i osgoi'r tŷ ond tarodd yn erbyn y ddaear ychydig gannoedd o lathenni o'r tŷ cyn disgyn mewn cae o geirch a'i roi ar dân.

Roedd Mr Sidney Watkins (o'r Trallwm bellach) yn ymyl, ac aeth at yr awyren a gwelodd gorff y peilot yn dal yn ei sedd, ond heb ei ben. Daeth llawer iawn o drigolion yr ardal yno ac fe gymerwyd cryn dipyn o amser i'r Americaniaid glirio gweddillion yr awyren. Roedd llawer o gyfnewid nwyddau rhwng y milwyr a theulu Pencroenllwm. Un fargen oedd cyfnewid tuniau o ffrwythau am iâr, ac yn ôl y sôn, lladdwyd yr iâr ac fe gafodd ei berwi mewn het ddur un o'r Americaniaid! Cafwyd iawndal gan y Weinyddiaeth Amaeth am y ceirch a losgwyd a bu'n rhaid difa llo a dorrodd ei goes yn y ffrwydriad - cyfanswm o £35! Dychwelodd Lt. Rees, y peilot arall i'r safle drannoeth a bu'n ymweld â safle'r ROC yn Llanfair.

Claddwyd Lt. Arthur G. Jenkins mewn mynwent i luoedd arfog America yn Maddingley, Caergrawnt (Cambridge). Nid dyma ddiwedd yr hanes, oherwydd teimlai Ken Astley, Gwern-y-Brain y dylai'r peilot gael ei gofio am iddo aberthu ei fywyd. Trefnwyd digwyddiad ar ddydd Sul, Gorffennaf 28, 2002 yn Rhiwhiriaeth er mwyn dadorchuddio plac ar wal yr ysgol a chynhaliwyd gwasanaeth i gofio am Lt. Jenkins.

Daeth tyrfa dda i dalu teyrnged i'r peilot, gyda swyddogion pwysig o Awyrlu America yn bresennol. Yn dilyn gwasanaeth byr ar safle'r ddamwain, dadorchuddiwyd y gofeb gan yr Uwch Gapten (Major) Irvin 'Dusty' Miller, prif swyddog maes Awyr Atcham adeg y ddamwain. Roedd o'n 82 oed a bu'n hedfan awyrennau 'Spitfire' ac ystyriwyd ef yn un o brif beilotiaid yn awyrlu America yn yr Ail Ryfel Byd.

Yn y llun hwn gwelir ef gyda David Jones, agosaf ato, a blotiodd yr awyren ar safle'r ROC yn Llanfair. Tu ôl iddo mae curadur mynwent Americanaidd Maddingley, Caergrawnt, yna Sidney Watkins, Pencroenllwm (Trallwm bellach), John Ellis a fu'n arwain y gwasanaeth coffa, a Ken Astley, Gwern Brain a drefnodd y digwyddiad.

Tybed faint o ddarllenwyr Plu'r Gweunydd a glywodd am y ddamwain hon? Mae'n bwysig nad yw'n mynd yn anghof gan ei bod yn ran o hanes yr ardal. Yn sicr mae Ken i'w longyfarch am ei weledigaeth ac fel y dywedodd roedd y peilot yn "fab i rywun".

Diolch iddo am fynd â mi i safle'r ddamwain ac am rannu ei wybodaeth a rhoi benthyg dogfennau i mi. Diolch hefyd i David Jones, Llanfair am ei gymorth parod wrth baratoi'r erthygl hon.

Alwyn Hughes


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý