Heb os, y newyddion mwyaf syfrdanol i'n taro yn ystod y mis ac ar ddechrau blwyddyn (calennig gwael iawn i bentref Llanerfyl) oedd y newydd fod Swyddfa Bost a Siop Llanerfyl i gau ddiwedd Chwefror a'r Swyddfa Bost ddechrau mis Ebrill. Cofiaf am yr 'hylabalw' rai blynyddoedd yn 么l (a phwy a 诺yr na chawn yr un broblem eto gyda phedwar deg o ysgolion bach Powys dan y chwyddwydr) pan fu bygythiad i Ysgol Llanerfyl. Wel drigolion, mae'r newyddion yma mor fygythiol i ddyfodol eich pentref ac yr un mor niweidiol - y siop a'r swyddfa bost yw calon y pentre, ohoni hi y daw'r curiad sydd yn cadw'r pentre yn fyw. Ac ni fydd yn hawdd cael trawsblaniad wedi i'r 'galon' hon orffen! Ac os nad yw'n rhy hwyr, deffrwch i'r bygythiad marwol hwn. Bu Emrys yn rhan o'r pentre am flynyddoedd lawer ac yn rhan o'r 'ffabrig' pentrefol "yn gwybod pob dim, yn gwneud pob dim ac yn gwerthu pob dim", i aralleirio Adnod 7 o bennod 13 Corinthiaid 1 ac yr oedd, neu y mae Sandra yn brysur ddysgu yn yr un mowld. Mae Sandra i'w chanmol yn fawr am ei hymdrechion ac i ddweud y gwir yn blaen, mae'n haeddu gwell ymdriniaeth na hyn. Ddyweda i ddim rhagor na hynny! Ond "winc, winc, nudge, nudge", 'dech chi'n gwybod be dwi'n feddwl!! Ie, pentre i basio trwyddo fydd Llanerfyl wedi'r tranc. Trist iawn, iawn. Erthygl gan Emyr
|