´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Sam Roberts yn cyflwyno Bocs Sgwennu Derw wedi'i addurno ag arian o'i waith ei hyun a thocynnau garddio i Buddug Bates. Ymddeoliad Buddug Bates
Awst/Medi 2009
Buddug Bates sy'n cofio ei gyrfa ym myd addysg wrth i Ysgol Efyrnwy gau ym mis Gorffennaf.

"Diwrnod go ryfedd oedd Dydd Gwener y 17 o Orffennaf oherwydd dyma'r diwrnod olaf y byddwn yn mynd i Ysgol Efyrnwy ac Ysgol Pen¬nant am fod fy ngyrfa dysgu wedi dod i ben wrth i Ysgol Efyrnwy gau.

Daeth Ilawer o atgofion wrth fynd dros Penffordd yng ngaeafau yr wythdegau roedd amryw o foreuau pan oedd Iluwchfeydd uchel a'r ffordd yn gul o Fryn Cudyn ymlaen.

Eleni glaswellt hir wedi'i bwyso i lawr gan gawodydd trymion oedd yn tagu'r ffordd!

Meddyliais am fy nhaith ddysgu a gychwynnodd yn Mar¬ ket Drayton. Yno cefais y fraint arbennig o weithio gyda prif athro arbennig iawn, Bob Bayliss, oedd ei hun yn enedigol o dref Trefaldwyn.

Y fo a roddodd y 'top lein' i mi. Lawer gwaith yn fy ngyrfa y meddyliais beth a fyddai ei ymateb ef wedi bod i wahanol sialens neu'i gilydd.

Yn y saithdegau roedd rhan fwyaf o athrawesau'n gadael dysgu am gyfnod i fagu eu plant. Dyna a wnes innau. Yna symudson yn ôl i Maes y Glydfa ac yna Rallt Ucha a dechreuais weithio fel athrawes Ianw.

Cefais y fraint o weithio mewn ambell ysgol am gyfnodau eithaf hir, fel rheol yn Ilanw yn Ile athrawon oedd yn dioddef efo 'gall bladder' neu athrawesau oedd yn cael 'hystorectomies'. Byddai'r cyfnodau yma'n golygu tymor neu ddau o waith Ilanw!

Yna yn 1985 cefais siawns i gymryd swydd unwaith eto a gwnes hynny yn Llanwddyn. Dyna oedd profiad - gweithio efo Dai Williams a chael cyngor lawer tro gan Meg! Dechreuais fel pennaeth yn dilyn Dai yn 1987 ac yna gwneud gwaith i'r Sir, mynd yn ôl i Lanwddyn am gyfnod byr yn dilyn marwolaeth sydyn Eleri Gwilym ac yna mynd i Dregynon. Roeddwn yno pan gaewyd yr hen ysgol a gweithiais am gyfnod yn ysgol newydd.

Rhiwbechan cyn mynd yn ôl i Lanwddyn. Yna yn 2002 dechrau cyd redeg Ysgol Efyrnwy ac Ysgol Pennant fel peilot am flwyddyn.

Parhaodd hyn am 7 mlynedd!! Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi bod yn hynod o freintiedig am fy mod wedi medru gweithio gyda chymaint o staff ragorol. Rwyf bob amser wedi cael cefnogaeth wych gan staff cynorthwyol yn ogystal a'm cyd athrawon. Diolch iddynt i gyd. Nid y flwyddyn olaf fu'r un fwyaf pleserus nid yn unig oherwydd fod Ysgol Efyrnwy wedi cau ond bod ardal eang wedi methu cadw addysg gynradd yn Ileol, i mi dyma beth ydi siom. Drwy fethu cydweithio a chyd-dynnu rydym wedi sicrhau ein bod wedi colli'r
'Winllan a roddwyd i'm gofal....
I'w thraddodi i'm plant
Ac i blant fy mhlant
Yn dreftadaeth dragwyddol'

Yn sicr bydd plant ein plant yn gofyn y cwestiwn 'Oedd hi ddim yn bosib cadw un ysgol?'

Mae'r her yn awr yn fwy am sicrhau dyfodol addysg gymunedol Gymreig ym Mhennant sydd yn awr yr unig ysgol gymunedol Gymreig yng ngwir ogledd hen Sir Drefaldwyn.

Felly dymuniadau gorau i'r ysgol yna ac i'w phennaeth newydd Mrs Annwen Watkins. Er fod y flwyddyn wedi bod yn anodd, ni chefais erioed wythnos mor gyffrous na chymdeithasol a'm hwythnos olaf. Bum allan bob nos - noswethiau arbennig iawn yng nghwmpeini cyn¬gydweithwyr, athrawon a Ilywodraethwyr, disgyblion a pharti fythgofiadwy yn neuadd Penybont Fawr. Diolch i bawb am bob help, cefnogaeth a haelioni."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý