大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Y C么r Taith C么r Merched Ysgol Caereinion i Latvia
Ionawr 2004
Yn 么l ym mis Medi eleni aethom ni fel c么r o ferched o Ysgol Caereinion ynghyd 芒 Mr David Evans, Mrs Heulwen Davies, Mrs Olwen Chapman a Mrs Nia Jones draw i Latvia.

Prif reswm yr ymweliad oedd canu yn nathliadau canmlwyddiant rheilffordd st锚m Gulbene-Aluksne gyda ch么r o fechgyn a band o Ysgol Gerdd Gulbene. Yn ogystal 芒 hyn buom yn ddigon ffodus i gael ymweld 芒 nifer o amgueddfeydd ac adeiladau yn ogystal 芒 chael canu gyda ch么r cymysg o Ysgol Uwchradd Riga.

Dechreuodd y daith i lawr i Heathrow yn hwyr nos Fercher Medi'r 3ydd. Ar 么l trio cael dipyn o gwsg ar y bws ar y ffordd i lawr, cyrhaeddom y maes awyr ymhell o flaen amser felly cawsom ddigon o amser i ymlacio cyn dechrau hedfan. Gyda'r awyren yn dechrau ychydig yn hwyr roedd rhai ohonom yn dechrau cynhyrfu oherwydd doedden ni heb hedfan o'r blaen ond ar 么l ychydig aeth y poeni'n ofer gan fod y daith i Frankfurt ac yna ymlaen i Riga'n un hwylus. Yr oedd popeth yn rhedeg yn esmwyth i ni ddechrau hel yw cesys ym maes awyr Riga. Roedd un ar goll. Ar y daith, roedd tair Hannah Jones, dwy ohonynt yn Hannah Elisabeth Jones ac nid oedd y cwmni awyrennau wedi bwcio'r ddwy ar yr awyren o Frankfurt i Riga ond cafodd y broblem ei datrys. Ond, erbyn dadlwytho'r cesys yn y maes awyr roedd c锚s un Hannah yn Frankfurt a ninnau yn Riga... cyrhaeddodd y c锚s ddeuddydd yn ddiweddarach.

Ar y noson gyntaf roedden ni'n canu mewn cynhadledd yn y Small Guild yn Riga. Roedd Rhodri Morgan a Llysgennad Prydain yn Latvia yn bresennol. Roedd hi'n fraint cael canu mewn adeilad o'r fath.

Ar ail ddydd y daith, cyn dechrau ar y daith o dair awr i ardal Gulbene euthum am dro drwy'r Riga newydd a'r hen. Roedd cerdded drwy'r ddinas yn brofiad a hanner ond cyrhaeddom amgueddfa The Occupancy of Latvia 1940 - 1991 yn ddiogel. Roedd yr ymweliad 芒'r amgueddfa yma yn agoriad llygaid wrth ddysgu am ormes a dioddefaint pobl Latvia o'r Ail Ryfel Byd hyd at 1991 dan reolaeth y Rwsiaid. Roedd yr ymweliad yma ar ddechrau'r daith yn gwneud i ni werthfawrogi holl agweddau hanesyddol a thraddodiadol y wlad.

Y siwrnai i ardal Gulbene oedd y cam nesaf ond cyn dechrau ar y daith roedd technical hitch arall. Mae gyrwyr yn Riga mor wyllt a ffermwyr Sir Drefaldwyn ar y ffyrdd ac ar y ffordd i'r gwesty i n么l ein pethau aeth car dyn Rwsiaidd i ochr ein bws. Ar 么l aros am oes am yr heddlu a llenwi'r bws dechreusom ar y daith. Ar y ffordd cawsom ganu a ch么r cymysg o Ysgol Uwchradd Riga mewn Eglwys yn Amgueddfa Werin Latvia ar gyrion y ddinas.

Cawsom gyfle i ymlacio ar 么l cyrraedd y gwesty yn Stamariena yn ardal Gulbene ar y nos Wener cyn codi'n gynnar bore Sadwrn gyda diwrnod prysur o'n blaen. Dydd Sadwrn oedd prif ddiwrnod dathliadau'r rheilffordd. Cyn canu yn y prif gyngerdd ar y nos Sadwrn gyda ch么r o fechgyn o Ysgol Gerdd Gulbene buom yn canu yn y dair orsaf ar hyd lein y tr锚n sef Gulbene gyda band yr Ysgol Gerdd, Stamariena ac Aluksne.

Yn Aluksne aethom i weld Eglwys a chael canu yno ac yna aethom i'r unig amgueddfa Feiblaidd yn Ewrop oedd yn cynnwys Beibl Cymraeg a gyflwynwyd iddi gan Eglwys Llanfair Caereinion. Roedd gorsaf Aluksne yn orlawn o bobl gyda ffair a phob math o adloniant a stondinau yno. Ar 么l diwrnod prysur daeth y cyfan i ben gyda chyngerdd yn 么l yng ngorsaf Gulbene gyda'r nos.

Ymweld a Amgueddfa Melin Dd诺r Ate a wnaethom ar y Dydd Sul. Ar 么l cael gweld yr Amgueddfa buom yn canu mewn cyngerdd bach yno gyda band Ysgol Gerdd Gulbene. I ddod a'n hymweliad ag ardal Gulbene i ben buom yn canu mewn cyngerdd yn Eglwys Gatholig Gulbene gyda'r c么r o fechgyn o'r Ysgol Gerdd ac yna aethom i barti yn yr ysgol gyda'r disgyblion. Yr oeddem yn rhyfeddu at y croeso cynnes a gawsom ymhob man a'r anrhegion a'r blodau a dderbyniasom.

Bu'n rhaid ffarwelio a'r ardal ar fore Dydd Llun a dechrau ar y daith yn 么l i Riga cyn hedfan adref ar y dydd Mawrth. Cawsom y cyfle i brofi siopau'r ddinas yn y prynhawn a phrynu anrhegion a chyfle i orffen y ffilm yn y camera!
Ar 么l bod yn siopa - eto, gadawodd y bws am y maes awyr amser cinio dydd Mawrth ac ar 么l gwario yn y duty free dechreusom ar y daith i Frankfurt ac yna ymlaen i Heathrow a do, mi gyrhaeddodd pob c锚s adref yn ddiogel, diolch byth.

Yn hwyr nos Fawrth roedden ni'n 么l yn Llanfair wedi blino'n l芒n ar 么l wythnos arbennig yn llawn profiadau. Gobeithio y cawn gyfle i groesawu pobl ifanc o Latvia yn 么l i'r ardal hon ym mis Mawrth.3

Nia Foules


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy