´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Gerallt Davies, cyn ddisgybl ysgol, yn swyno'r gynulleidfa Cyngerdd Ffarwelio â Dr Charles
Ionawr 2007
Wrth i Dr David Charles ymddeol fel Prifathro Ysgol Caereinion, trefnwyd sawl noson i ffarwelio ag ef ac i ddiolch am ei gyfraniad i'r ysgol dros y blynyddoedd.
Daeth pennod arall i ben yn hanes Ysgol Caereinion wrth ffarwelio â Dr David Charles. Daeth Dr. Charles yn Bennaeth Ysgol Caereinion ym 1993, wedi cyfnod fel Dirprwy Bennaeth yn Ysgol y Berwyn.

Yn ystod y tair blynedd ar ddeg y bu'n bennaeth, gwelwyd newidiadau mawr yn yr ysgol. Gyda'r galw cynyddol am addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, fe agorwyd bloc dysgu cyfrwng Cymraeg a gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion. Adeiladwyd ystafelloedd technoleg newydd ac adnewyddwyd rhannau helaeth o'r hen adeilad yn ogystal. Llwyddwyd i gael cyfleusterau fideo gynadledda o'r radd flaenaf a chafodd yr hen adeilad ei ail doi.

Yn ogystal â gwella ansawdd yr adeiladau, gwelwyd cynnydd mewn safonau addysgiadol hefyd. Enillodd Yr Ysgol wobr Gwella Ysgolion ACCAC am ganlyniadau arholiadau allanol ddwywaith ac eleni, gwelwyd mai Ysgol Caereinion oedd ar y brig trwy Grymru ac ymysg y gorau ym Mhrydain yn y canlyniadau arholiadau Safon Uwch.

Yr oedd Dr Charles yn hynod gefnogol i ddisgyblion, staff a rhieni yr ysgol. Llwyddodd i arwain yr ysgol yn llwyddiannus trwy gyfnodau digon anodd yn sgil toriadau cyllidol blynyddol. Er mai Cemeg oedd ei brif faes dysgu, daeth yn arbenigwr ar ddysgu Technoleg Gwybodaeth yn Ysgol Caereinion ac yr oedd ganddo hefyd ddiddordeb mawr mewn chwarae gitâr, fel y gwelwyd wrth iddo gymryd rhan yn y band mewn cynyrchiadau ysgol yn fynych. Bydd colled mawr ar ei ôl a hoffem ddiolch iddo am ei holl waith, ei gyngor, ei arweiniad a'i gyfeillgarwch dros y blynyddoedd.

Trefnwyd nifer o weithgareddau ar ddiwedd y tymor i ddangos ein gwerthfawrogiad i Dr Charles. Trefnodd y Llywodraethwyr noson gymdeithasol a swper ffarwelio yn Henllan ac fe'i anrhegwyd a diolchwyd iddo ar ran y Llywodraethwyr gan y Cadeirydd, Myfanwy Alexander. Gregynog oedd y lleoliad ar gyfer y cinio staff. Cawsom ginio blasus a noson hwyliog iawn yng nghmwni'r grŵp poblogaidd "Up all Nite" ac ambell eitem gan gôr merched a chôr dynion y staff!

Leah Jones a'i Chlarinet Cafwyd cyngerdd arbennig wedi ei drefnu gan Mrs Heulwen Davies yn y Ganolfan gyda nifer o gyn ddisgyblion a disgyblion presennol yr ysgol yn darparu gwledd o adloniant. Mae rhywun yn rhyfeddu at y doniau disglair hyn ac yr oedd Dr Charles yn amlwg yn teimlo'n reit emosiynol ar y noson. Fe'i anrhegwyd yn y cyngerdd ar ran y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon gan Gill Owen a Sally Whalley.

Ar ddiwrnod olaf y tymor, derbyniodd Dr Charles anrheg ar ran y disgyblion gan brif ddisgyblion yr ysgol ac hefyd ar ran y staff. Cafwyd gwasanaeth carolau arbennig iawn i gloi'r flwyddyn yn Eglwys y Santes Fair a diolch i'r Parchedig Chris Webb am ei anerchiad pwrpasol.

Hoffwn ddymuno ymddeoliad hir a dedwydd i Dr Charles a phob dymuniad da iddo ef a Rose ei wraig ar gyfer y dyfodol.

Ac ar drywydd hollol wahanol - mor braf oedd gweld cymaint o bobl ifanc yr ardal ar y teledu yn cymryd rhan ar lwyfan Canolfan y Mileniwm gyda'r Ffermwyr Ifanc. Cyngerdd gwych a phrofiad arbennig iawn dwi'n siŵr - daliwch ati!


Cyfrannwch

Ellis Fox o Trallwng
Mae'r wefan hon yn da i ddarganfod beth sydd yn digwydd yn fy ardal i. Fel dywedodd martha mae'n helpu fi gyda fy gwaith cartref hefyd.
Sun Jan 11 20:42:10 2009

Martha Redway o Trallwng
Mae'r gwefan yma yn wych. Roedd o'n helpu fi gyda gwaith cartref!! Diolch
Mon Mar 19 07:35:52 2007


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ´óÏó´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý