Bu'r datganiad yn sioc mawr i bawb ac yn enwedig i'r gweithwyr a oedd wedi cyrraedd ei lle gwaith yn y ffatri fore Llun ac yn sydyn yn cael clywed y newyddion bod eu swyddi wedi diflannu. Erbyn amser cinio roedd y mwyafrif ohonynt wedi gadael y ffatri gan droi am adre yn ddi-waith. Cynhyrchu dillad i'w gwerthu yn y siopau mawr fel Asda a Tesco oedd gwaith y ffatri ond yn ddiweddar bu'r archebion yn lleihau gan fod y siopau yn edrych dramor am y cynnyrch lle mae costau cynhyrchu yn is nag yn y wlad hon. Yn anffodus nid yw'r profiad yn un newydd i lawer o o'r gweithwyr gan mai dyma'r trydydd tro i hyn ddigwydd ar yr un safle. Agorwyd y ffatri ar ddiwedd y saithdegau gan gwmni Laura Ashley ond yn ystod y nawdegau diswyddwyd y staff pryd daeth gwaith Laura Ashley i ben yn y dref. Yna, ym 1997 gwerthwyd y ffatri i gwmni M.D.M. o dde Cymru a bu'r cwmni hwnnw yn cynhyrchu dillad am gyfnod byr ond ar ddechrau 1998 daeth terfyn i waith y cwmni hwnnw hefyd ac eto collodd y gweithwyr eu swyddi. Ym mis Mai 1998 prynodd cwmni Kenneth A Fogg o Fanceinion y ffatri a bu'r cwmni yn cynhyrchu dillad gan gyflogi pobl leol tan newyddion trist y mis hwn. Y gobaith yw y bydd yr awdurdodau lleol yn llwyddiannus yn eu hymdrechion i ddenu cwmni arall i sefydlu busnes newydd ar y safle a chreu swyddi i'r gweithwyr hynny sydd wedi profi'r ddi-waith a hynny mor ddi-rybydd.
|