Pwy feddylie y byddai yna Seren y Sgrin Fawr yn byw yn Abercegir!
Wel, mae'n berffaith wir!
Mae Lil Woods, sy'n ddisgybl Blwyddyn 7 yn Ysgol Bro Ddyfi yn un o'r plant oedd yn serennu yn y ffilm ddiweddar Nanny McPhee and the Big Bang, ynghyd ag Emma Thompson, Rhys Ifans ac eraill.
Daeth Lil, (sydd yn 12 oed erbyn hyn) a'i theulu i fyw i Lwynffynnon o Leamington Spa rhyw dair blynedd yn 么l bellach.
Mae hi a'i chwaer, Poppy, a'i brawd, Saul yn siarad Cymraeg yn hollol rugl, ac mae Mam a Dad hefyd wedi gweld gwerth mewn ymdrechu i ddysgu'r Gymraeg.
Tybed faint ohonoch glywodd Lil yn siarad am ei phrofiadau ar raglen Nia yn ddiweddar?
Fel hyn mae hi'n disgrifio'r profiad o ffilmio i ddarllenwyr Y Blewvn Glas.
"Rwyf ar y tren ar fy ffordd yn 么 o nifer o gyfweliadau yn ymwneud 芒'r ffilm.
Erbyn y byddwch chi'n darllen hwn, mi fydda i wedi cerdded lawr y carped coch yn y `premier' yn Leicester Square, ymhell bell i ffwrdd o 'nghartref yn Abercegir, ac yn hollol wahanol.
Y bore 'ma, mi es i Asa, Rosie, Eros ac Oscar i eistedd yn rhes flaen rhyw sinema fechan, fechan i weld y ffilm dwi'n meddwl sydd yn un o'r ffilmiau gorau ar gyfer y teulu cyfan i ddod allan o Brydain erioed, sef Nanny McPhee and the Big Bang!
Fel roedden ni'n gwylio, roedden ni'n troi i edrych ar ein gilydd, chwerthin a rholio'n llygaid, neu jest gwenu wrthon ein hunain wrth gofio, falle cofio un diwrnod o ffilmio, yn llawn o bob math o sefyllfaoedd a phrofiadau - bwyta 'toasties' caws ac afal pin rhwng y gwahanol olygfeydd; Asa yn dangos ei hun yn ei `body warmer' a'i gwympo fo i ganol y mwd; rhedeg i mewn i gael gwersi (am ein bod yn colli'r ysgol) a rhywun yn gweiddi "Tynnwch y wellies mwdlyd 'na i ffwrdd!"; Eros ofn unrhyw beth oedd yn hedfan a gwisgo fy nyngaris glas bob un dydd, tra roedd y lleill yn cael dillad gwahanol o hyd!
Y mae un diwmod rwy'n ei gofio yn arbennig, sef y diwrnod y neidiodd Emma Thompson i'r pwll.
Diwrnod poeth ym mis Awst oedd hi, ac roedd Rosie, Oscar a finne yn ffilmio golygfa lle roedden ni'n gweld mochyn yn neidio i mewn i'r d诺r.
Ond yn groes i beth fyddech chi'n ei feddwl wrth weld y ffilm, doedden ni ddim yn gweld y mochyn o gwbl; yr unig beth welson ni oedd p锚l dennis yn hongian ar ffon hir a rhywun yn ei chwifio o gwmpas yn wyllt.
Ond roedd yn anodd ein cael i chwerthin digon. Felly ar 么1 rhyv bedwar cynnig o ffilmio dyma Emma Thompson yn cael yr Is-gyfarwyddw i'w gwthio i mewn i'r llyn.
Fel roedd rhywun yn gweiddi "Action!" dyma hi'n cael ei gwthio i'r d诺r yn ei dillad, yn chwifio'i choesau i bob cyfeiriad ac mi alla i ddeud wrthoch chi nad oedd hi ddim yn gynnes!
Wel, roedden ni'n chwerthin cymaint, mi fyddai pawb yn meddwl mai gweld y mochyn roedden ni!
Rhywbeth fel'na oedd ffilmio Nanny Mcphee and the Big Bang!