Mentrodd rhai o'r gangen i Henllan i gymryd rhan yn y Cwis Cenedlaethol. Er na fu iddynt ennill, rhoesant gyfrif da ohonynt eu hunain.
Ar yr 20fed o Dachwedd, er y tywydd garw, daeth nifer dda i groesawu Mim Roberts, trefnydd Gogledd Orllewin Cymru a Maldwyn o'r mudiad. Wedi ei chyflwyno gan Olga Maiden fe roddodd Mim arddangosfa ddifyr iawn i ni o'i llyfrau lloffion. Dangosodd sut i'w trefnu yn ddeniadol a'u diogelu rhag dirywio- fel bo'r cenedlaethau a dd锚l yn gallu eu mwynhau. Yn wir roedd llyfrau lloffion Mim yn drysorau werth eu cadw a'u trysori ac mae'n si诺r iddi fod yn ysgogiad i lawer ohonom. Diolchwyd iddi gan Jane Owen ac i ddilyn cawsom baned gan Ferched y Garth. Enillydd cystadleuaeth llyfr lloffion oedd Sali Richards.
Bu Marilynne Davies a Mary Price yn ddiwyd yn paratoi Plygain Merched y Wawr yng Nghapel y Graig a chafwyd gwasanaeth bendithiol iawn eto eleni gyda phawb yn gwerthfawrogi y talentau arbennig iawn sydd gennym yn Nyffryn Dyfi. Croesawyd pawb gan ein Llywydd, Olga Maiden, gyda Olwen Roberts, Avona Williams ac Ann Owen yn gyfrifol am y rhannau arweiniol a Gwyneth Lloyd a Mair Jones hefyd yn ledio emynau.
Cafwyd dwy rownd ac yn cymryd rhan oedd Rhian Bebb ar y delyn, Dyfinodau, Aled Wyn Davies, Parti Ysgol Glantwymyn, Mair Roberts, Parti Allan o Diwn, Parti Madyn, Alwyn Evans, Ysgol Bro Ddyfi a Ch么r Meibion Powys. Traddodwyd y fendith gan y Parch W J Edwards a'r organyddes oedd Delyth Rhys. I ddilyn cafwyd paned a chacennau wedi eu paratoi a'u gweini gan ferched y gangen. Cyflwynwyd siec am 拢208, sef y casgliad, i Eleri Evans o Feddygfa Glantwymyn tuag at gronfa Cleifion yn y Cartref.
|