大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth Dyfodol Addysg ym Mro Ddyfi
Ionawr 2006
Mynychodd nifer gyfarfod gyda ELWa i drafod yr opsiynau sydd ganddynt ar gyfer addysg 16+ ym Mro Ddyfi.

Daeth nifer dda o rieni ynghyd i wrando ar gyflwyniad ELWa ar yr Opsiynau sydd ganddynt ar gyfer addysg 16+ ym Mro Ddyfi. Roedd y rhieni yn frwd dros Opsiwn 3 yn hytrach na'r opsiynnau eraill. Jim O'Rourke a lywiodd y drafodaeth ar 么l cyflwyniad Mr Robin Beckmann, ac fe godwyd lawer o bwyntiau trafod diddorol.

Dywedodd Lis Puw, Pennaeth Ysgol Bro Ddyfi, ei bod yn falch iawn o'r cyfle mae Opsiwn 3 yn ei gynnig i ehangu ar yr addysg 么l-16 ac hyfforddiant ac addysg i oedolion y cylch. Teimlai y byddai Opsiwn 1 (sy'n golygu cau Chweched Dosbarth yr ysgol) yn mynd 芒 chyfle am addysg allan o'r ardal; byddai Opsiwn 2 yn golygu gosod sefydliad addysgol arall yn gyfochrog ag Ysgol Bro Ddyfi ac yn ddibynnol i raddau helaeth iawn ar brynu mewn arbenigedd athrawon yr ysgol.

Ond byddai Opsiwn 3 yn ehangu'r ddarpariaeth sydd ar gael yn y fro ac yn y dre ar gyfer oedolion a phobl ifainc. Mae'r hyn sydd yn cael ei gynnig gan yr ysgol ar hyn o bryd yn siwtio pobl ifanc academaidd yn wych, meddai. Cyfeiriodd at y ffaith mai Ysgol Bro Ddyfi oedd yr ysgol ail orau yng Nghymru y llynedd o ran canlyniadau Safon A, gyda hanner y graddau naill ai yn "A" neu yn "B".

Ond cytunai y dylai'r ysgol adeiladu ar hyn a chynnig addysg hefyd i bobl ifanc ac oedolion sydd yn dymuno hyfforddiant ac addysg mwy alwedigaethol ei natur.

"Rydym yn gweithio efo Coleg Meirion Dwyfor ar hyn o bryd ac yn cynnig Technoleg Gwybodaeth mewn partneriaeth gyda nhw. Rydym yng nghanol trafodaethau efo nhw i weld sut mae cynnig amaethyddiaeth ar y cyd - gyda'r bobl ifanc yn gwneud y gwaith papur yn yr ysgol ac yn treulio cyfnodau yng Nglynllifon i wneud y gwaith ymarferol. Mae hyn yn ddatblygiad cynhyrfus ac yn ateb y galw gan bobl leol am addysg i gwrdd 芒'u hanghenion heb iddynt orfod gyrru pobl ifanc ffwrdd o gartref am gyfnodau maith."

Ychwanegodd, "Mae'n bwysig bod addysg ac hyfforddiant yn ymateb i'r angen a'r galw lleol. Ym mro y Ddyfi, mae amaethyddiaeth yn bwysig iawn, ond mae twristiaeth, busnes, arlwyo a thechnoleg hefyd yn bwysig i bobl yr ardal. Dylai'r addysg a'r hyfforddiant fod ar gael yn lleol, yn hytrach na bod pobl yn gorfod teithio ymhell. Byddai Opsiwn 3 yn golygu bod y trefnu yn digwydd mewn un man canolog, mewn adeilad newydd ar safle'r ysgol, mwy na thebyg. A byddai llawer o'r dysgu i hefyd yn digwydd yno, yn ogystal ag yn y mannau traddodiadol megis dosbarth nos yn y pentref'.

Dywedodd ei bod yn teimlo brwdfrydedd mawr yn yr ardal. Mae diddordeb mawr gan ddisgyblion TGAU eleni i ddod i'r Chweched Dosbarth, ac mae'r ysgol eisoes yn symud ymlaen i ddarparu addysg alwedigaethol yn ogystal ag addysg academaidd traddodiadol i bobl ifanc dros 16. "Dim ond cam naturiol yw ehangu ar hwn a darparu cyfleoedd i oedolion hefyd dderbyn addysg ac hyfforddiant," meddai.

Mae yna bynciau eraill y gallai Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Powys a darparwyr eraill ddod yma i'w roi i aelodau'r Chweched Dosbarth ac i cedolion yn y cylch. Byddai'n gwneud synnwyr bod un canolfan yn gwneud y trefniadau, meddai.

Yn y cyfarfod fe wnaeth gywiro un peth sy'n cael ei ddweud gan ELWa, sef mai 14 o bynciau Safon A a gynigwyd yn 2004. Mewn gwirionedd roedd yr ysgol wedi cynnig 20 o bynciau yn 2004. Erbyn hyn mae 23 o bynciau 'A' yn cael eu cynnig - mwy na Phenweddig a Phenglais, a dim ond un yn llai na Choleg Meirion Dwyfor. Mwy na hyn, gall athrawon yr ysgol ddysgu pob pwnc yn y ddwy iaith, gan gynnwys Mathemateg, Ffiseg, Cemeg a Bywydeg - darpariaeth sydd yn brin iawn hyd yn oed yn yr ysgolion Cymraeg penodedig.

Mae llawer o fygythiadau ar Fachynlleth - mae'n dre ac yn ardal ar y groesffordd. Mae nifer o lefydd pwysig yn cau a gwaith yn mynd o'r ardal. Mae hyn yn cael effaith ar fusnesau yn y dre ac ar y boblogaeth. Mae Opsiwn 3 yn cynnig rhoi rhywbeth gwerthfawr i'r ardal am newid.

Gorffennodd trwy ddweud; "Rydyn ni'n cael ein gweld yn awr fel ysgol sydd yn llwyddo, yn ysgol sydd yn anelu at safonau uchel. A gall hyn ddim ond gwella os gawn ni Opsiwn 3. Yn barod, mae pobl ifanc o du allan i'r dalgylch eisiau dod atom - ac mae croeso cynnes yn eu haros yma. Os daw Opsiwn 3, bydd adeilad pwrpasol, modern gyda'r offer dechnegol i helpu dysgu, llyfrgell a lle braf i'r bobl ifanc weithio ac ymlacio yn gwneud yr ysgol hyd yn oed yn fwy deniadol fel man canolog i dderbyn addysg - a bydd llwyddiant yn magu llwyddiant."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy