Yn ddiweddar llwyddodd wyth o ffrindiau o ardal Machynlleth ac Aberystwyth i godi swm sylweddol o arian at goffrau Ysbyty Bronglais.
Llwyddodd y ffrindiau sef, Gareth Vince, Anthony Rhodes, Alan Murphy, Gethin Thomas, Matthew Davies, Mel Popple, Darren Winterflood a Martyn McGuinness efo cymorth gan David Williams i godi yr arian, trwy gael eu noddi, i ddringo tri copa, sef Pen y fan yn y de (886m), Cader Idris (893m), a'r mwyaf, yr Wyddfa yn y gogledd (1,038m) o uchder.
Roedd hyn yn dipyn o orchest gan iddynt lwyddo i gwblhau'r sialens mewn ychydig llai na 12 awr.
I wneud pethau'n waeth ar y diwrnod bu'n rhaid iddynt oresgyn tywydd difrifol o arw; llifogydd a thirlithriadau wrth ymgymryd 芒'r sialens.
Bydd yr arian a gasglwyd, trwy haelioni bobl leol, yn mynd tuag at brynu meddalwedd i'r sganydd MRI newydd sydd wedi ei leoli ym Mronglais.
M i hoffai pob un o'r bechgyn ddiolch yn fawr i'r rhai sydd wedi eu noddi ac rwy'n siwr y bydd eu hymdrechion hwythau yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr gan bawb yn y gymuned.
Diolch yn fawr iawn i bawb a fu'n gysylltiedig 芒'r fenter.
|