大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Y Fforwm Ieuenctid Penwythnos Fforwm Ieuenctid
Gorffennaf 2006
Ieuenctid Bro Ddyfi yn sefydlu fforwm er mwyn cael y cyfle i leisio eu barn.

Ers yr haf diwethaf mae Cathy Evans, un o weithwyr ieuenctid yr ardal, wedi bod yn cydweithio ag Ant Edwards o 'Gronfa Achub y Plant' ar brosiect fydd yn galluogi ieuenctid Bro Ddyfi i leisio'u barn yngl欧n 芒 sut mae pethau'n cael eu rhedeg, a'r math o gyfleusterau sy'n cael eu darparu'n lleol ar eu cyfer.

Mae nifer fechan o bobl ifainc sydd 芒 diddordeb wedi gweithio gydag Ant, Cathy a Clive Thomas, gweithiwr ieuenctid eraill, i lunio cyfansoddiad ac i lunio cais am arian i Cymunedau'n Gyntaf.

Arweiniodd hyn at gyflwyno'i hachos am arian o flaen Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi gan arwain yn y diwedd at benwythnos preswyl o hyfforddiant, Ebrill 21-23 yn Stackpole, Sir Benfro. Trefnwyd y penwythnos ar y cyd gan yr ieuenctid eu hunain, gweithwyr ieuenctid ac Ant Edwards.

Mynychodd naw o bobl ifainc rhwng 13-16 oed yr hyfforddiant. Cynhaliwyd sesiynau ar wahanol bynciau, gan gynnwys:

  • Nod ac a amcanion yr hyfforddiant
  • Pa rinweddau fydd eu hangen ar aelod o'r fforwm
  • Pa sgiliau fydd eu hangen ar aelod o'r fforwm
  • Beth mae Pwyllgor Ieuenctid yn ei wneud
  • Pa gyfleusterau sydd yn eich ardal, beth sydd ar goll a beth fyddech chi'n ei newid neu'i wella
  • Beth sy'n digwydd y dylid rhoi diwedd arno
  • Materion a sut i ddelio 芒 nhw
    Etholwyd prif bwyllgor gyda chadeirydd, is-gadeirydd, trysorydd ac ysgrifennydd, yn ogystal ag is-bwyllgor i drefnu digwyddiadau a chodi arian. Roedd cyfarfodydd cyntaf y prif bwyllgor a'r is-bwyllgor wedi'u trefnu ar gyfer y mis canlynol.

    "Gweithio'n galed"
    Trefnwyd ymweliad 芒 Heatherton Park, gyda gweithgareddau megis saethu 'paintball' a gwibgertio ar y pnawn Sadwrn, tra bod nifer o weithgareddau eraill yn digwydd ar y safle, megis saethyddiaeth, saethu laser a phytio.

    Dywedodd Cathy, "Rwy'n hynod o falch o'r bobl ifainc; maen nhw wedi gweithio'n galed iawn yn ystod y penwythnos, ac wedi ymdrechu i gyd-dynnu yn ystod y sesiynau hyfforddi ac yn ystod y grwpiau 'gorchwylion'."

  • Mwy o Fachynlleth yma.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy