大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Gwirfoddolwyr y tu allan i'r Institiwt Llwyddiant gyda Gwirfoddoli
Hydref 2009
Mae Institiwt Corris yn dathlu llwyddiant y prosiect a gynlluniwyd i ddenu gwirfoddolwyr i gynnal yr adeilad.

Ers i'r prosiect gael ei sefydlu ym mis Chwefror 2009, mae gwirfoddolwyr newydd wedi cyfrannu eu hamser, eu sgiliau a'u harbenigedd er budd yr Institiwt a'r gymuned.

Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Ddatblygu Gwirfoddol Cyngor Gwynedd am 9 mis.

Mae'r Institiwt yn ganolfan gymunedol lewyrchus, mae caffi'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, ac mae ystafelloedd a chyfleusterau amrywiol ar gael i'w llogi sy'n golygu y gall amrywiaeth o ddigwyddiadau gael eu cynnal yno.

Gall y rhain amrywio o gyfarfodydd bychan neu gyrsiau addysgol i ddigwyddiadau cerddorol/drama gyda seddau ar gyfer 90 o bobl a'r gallu i gynnal digwyddiad fel gwledd briodas neu gynhadledd.

Mae hefyd yn cynnal clwb ar 么1 ysgol, clwb ieuenctid, ac mae cyfleusterau fel offer cyfieithu, ystafell gydag 8 cyfrifiadur, goleuadau llwyfan, bwrdd snwcer o'r 19eg ganrif a gardd tu allan sy'n ddiogel i blant ei defnyddio i'w canfod yno.

Dywedodd Elaine Owen, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli'r prosiect: "Prif nod y prosiect oedd cynnal yr Institiwt i'r dyfodol. Erbyn hyn, bydd modd i'r Institiwt gynnal ei hun heb ddibynnu gymaint ar grantiau.

Bydd yn helpu i sicrhau bod y bobl leol a'r defnyddwyr yn gyfrifol am redeg yr adeilad, ac felly bydd ei gynaladwyedd yn cynyddu.

O ganlyniad i hyn, datblygwyd rhestr o 32 o wirfoddolwyr sy'n cymryd rhan yn y gymuned hefyd." Paul Cutress - Cadeirydd Ymddiriedolwyr Institiwt Cords: "Mae'r prosiect yn pwysleisio a hyrwyddo a chefnogi gwirfoddoli. Gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y cyfleusterau'n cael eu datblygu ymhellach - sy'n cael eu darparu ar gyfer y Gymuned gan y Gymuned, a'u hwyluso gan yr Institiwt. Gan fod y Gymuned yn gyfrifol am y Ganolfan, a'r ffaith eu bod yn cymryd rhan yn gweithgareddau adeiladu drwy wirfoddoli, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi elfin o falchder a hyder i'r gwirfoddolwyr a'r gymuned leol."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy