Braf yw gweld brwdfrydedd heintus pobl ifanc ein hardal! Fis Chwefror eleni, ar gais criw o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi, sefydlwyd Aelwyd yr Urdd yng Nglantwymyn. Yn dilyn eu llwyddiant mewn Eisteddfodau Cenedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, penderfynwyd rhoi cynnig ar her newydd. Felly, wythnos cyn Eisteddfod y Sir, cychwynwyd ar yr ymarferion - bob yn ail i roi sglein ar yr 'Hanner Awr o Adloniant' (ac 诺yna'r un pryd!!!!) Cafwyd gwell cydbwysedd erbyn canol yr wythnos, wedi i'r bechgyn adfer eu lleisiau or 么l dychwelyd yn ddi-lais o'u taith gerddorol (rygbi?) i Ffrainc. Erbyn cyrraedd Canolfan y Banw ar noson y cystadlu, cafwyd hwyl rhyfeddol ar y canu. Daeth Y c么r cymysg yn fuddugol; cipiodd Meilir y wobr gyntaf ar yr unawd werin, a daeth y c么r meibion yn ail. Bydd pob eitem yn mynd ymlaen r诺an i Ganolfan y Mileniwm ar ddydd Sadwrn ola'r Eisteddfod. Gobeithio y bydd yna achos i ddathlu yn y gwesty ym Mae Caerdydd y noson honno. Pob lwc!
|