Fel y g诺yr y rhan fwyaf ohonoch, 'rwyf wedi ymddeol fel Is-bostfeistress Swyddfa Bost Dinas Mawddwy, ar 么l bod yno am 20 mlynedd.
Fel rheol, nid wyf yn hoffi llawer o ffws, felly yn yr wythnosau diwethaf roeddwn wedi dweud fy niolchiadau a'm ffarwel i fy nghwsmeriaid - y rhai a oeddwn wedi dod i'w hadnabod (ac wedi dod yn ffrindiau a nhw - gobeithio!) dros y blynyddoedd.
Roeddwn yn cau dress y Swyddfa Bost am y tro olaf am 1 o'r gloch Dydd Gwener, Mai 28ain. Pan gerddais allan a hithau'n ddiwrnod braf a heulog, mi roeddwn wedi fy syfrdanu ar beth a welais. Wedi ymgynull y tu allan roedd llawer iawn o drigolion y pentref a'r ardal gyfagos. Yno roedd byrddau o fwyd a diod wedi eu gosod. Derbyniais dustw mawr o flodau, a rhai mewn pot, ynghyd a chloc wedi cael ei wneud yn lleol ac wedi cael ei argraffu gyda fy enw arno. Hefyd cefais gerflun o fy hoff gi - Labrador du. Nid wyf yn gor-ddweud fy mod wedi cael fy syfrdanu gyda'r holl garedigrwydd. Rwy'n meddwl am yr holl waith ac amser oedd wedi mynd i drefnu'r wledd heb son am y rhoddion roedd pawb wedi ei roi, i wneud fy niwrnod olaf fel postfeistress yn un bythgofiadwy. Fedra i ddim ond diolch o waelod calon i bawb am eu haelioni a'u caredigrwydd. Wrth gwrs my fyddaf yn dal o gwmpas y lle, ac edrychaf ymlaen i'ch gweld. Rwy'n mynd ar fy ngwyliau rwan i Portugal. Cofion atoch i gyd - Sue Cockayne.
|